Numeri 12
12
PEN. XII.
Aaron a Miriam yn beio ar Moses. 10 Cospedigaeth Miriam ai rhydd-dab.
1Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Aethiop, yr hon a gymmerase efe: canys efe a gymmerase Aethiopes yn wraig [iddo.]
2A dywedasant, ai yn vnic trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd trwom ninnau hefyd? a’r Arglwydd a glybu [hynny.]
3A’r gwr Moses [ydoedd] larieiddiaf or holl ddynion y rhai [oeddynt] ar wyneb y ddaiar.
4A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymmwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod, felly hwynt a aethant allan ill trioedd.
5Yna y descynnodd yr Arglwydd mewn colofn o niwl, ac a safodd [wrth] ddrws y babell ac a alwodd am Aaron a Miriam, ac aethant allan ill dau.
6Ac efe a ddywedodd, gwrandewch yr awr hon fyng-eiriau, os bydd prophwyd yr Arglwydd yn eich mysc mewn gweledigaeth yr ym hysbyssaf iddo, [neu] mewn breuddwyd y llefaraf wrtho.
7Nid felly [y mae] fyng-was Moses ffyddlon yw efe yn fy holl dŷ.
8 #
Exodd.33.11. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho [mewn] gweledigaeth, nid mewn dammegion, onid caiff edrych a’r wedd yr Arglwydd: pa ham gan hynny nad ofnech ddywedyd yn erbyn fyng-wâs [sef] yn erbyn Moses?
9Digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt, ac efe a aeth ymmaith.
10A’r niwl a ymadawodd oddi ar y babell ac wele Miriam [ydoedd] wahan-glwyfus, [yn discleirio] fel eira: ac edrychodd Aaron ar Miriam, ac wele hi yn wahan-glwyfus.
11Yna y dywedodd Aaron wrth Moses [ystyria] wrthif fy arglwydd attolwg na osot ti yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, [a thrwy] yr hwn y pechasom.
12Na fydded hi attolwg fel vn marw yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa, pan ddel allan o groth ei fam.
13Yna Moses a waeddodd ar yr Arglwydd gan ddywedyd: ô Duw attolwg meddiginiaetha hi’r awr hon.
14A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, os ei thâd a boere boerin yn ei hwyneb, oni chywilyddie hi saith niwrnod? #Lefit.13.46.caier arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwerssyll, ac wedi [hynny]derbynnier hi.
15A chaewyd ar Miriam o’r tû allan i’r gwerssyll saith niwrnod, a’r bobl ni chychwnnodd, hyd oni ddaeth Miriam yng-hyd a hwynt.
16Ac wedi hynny y cychwnnodd y bobl o Hazeroth, #Num.33.18.ac a werssyllasant yn anialwch Pharan.
Currently Selected:
Numeri 12: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.