YouVersion Logo
Search Icon

Marc 16

16
PEN. XVI.
Angel Duw yn dywedyd i’r gwragedd gyfodi Crist ac yr ae efe i Galilæa, 9 yntef yn ymddangos i Mair Magdalen, 12 ac i ddau eraill, 14 yna i’r vn a’r ddec, 15 ac wedi iddo roddi iddynt awdurdod i bregethu, a bedyddio a gwneuthur gwrthiau yn escyn i’r nefoedd.
1Ac #Luc.24.1. Ioh20.1.wedi darfod y dydd Sabboth, Mair Magdalen a Mair [mam] Iaco, a Salome a brynasant ber-aroglau i ddyfod iw eneinio ef.
2Felly yn foreu iawn y dydd cyntaf o’r wythnos y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi,
3Ac hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, pwy a dreigla i ni y maen ddrws y bedd?
4A phan edrychasant, hwynt hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo (canys yr oedd efe yn fawr iawn)
5Ac #Math.28.1. Ioan.20.12.wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd hwynt hwy a welsant fab ieuangc yn eistedd o’r tu dehau wedi ei ddilladu â gwisc gannaid, ac a ofnasant.
6Ac efe a ddywedodd wrthynt, nac ofnwch, ceisio yr ydych yr Iesu o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliwyd, efe a gyfodes, nid yw efe ymma, wele’r man y dodasant ef.
7Eithr ewch ymmaith, dywedwch iw ddiscyblion ef, ac i Petr, ei fod efe yn myned o’ch blaen i Galilæa, yno y cewch ei weled ef, #Math.26.32. Marc.14.28 fel y dywedodd i chwi.
8Yna’r aethant ar frwst, ac a ffoesant oddi wrth y bedd: canys dychryn a syndod oedd arnynt, ac ni ddywedasant ddim wrth neb am eu bod wedi ofni,
9Pan adgyfododd yr Iesu y boreu y dydd cyntaf o’r ŵythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriase efe allan saith gythrael.
10Hithe a aeth, ac a fynegodd i’r rhai a fuasent gyd ag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.
11Eithr hwynt pan glywsant ei fod efe yn fyw, ac iddi ei weled ef, ni chredent.
12 # Luc.14.13. Wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall i ddau o honynt yn ymdaithio, y rhai oedynt yn myned i’r wlâd.
13Ac hwynt hwy a aethant, ac a fynegasant i’r lleill, ac ni chredent hwy.
14 # 16.14-20 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl y Derchafael. Yn #Luc.24.36. Ioh.20.19.ôl hynny efe a ymddangosodd i’r vn ar ddec, a hwynt yn cyd-eistedd, ac a ddānododd iddynt eu anghreduniaeth, a’u calon galedwch, am na chredent y rhai a’i gwelsent ef wedi adgyfodi.
15Ac efe a ddywedodd wrthynt: #Math.28.19.ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur,
16Y neb a gredo, ac a fedyddier a fydd cadwedig, #Ioh.12.48eithr y neb ni chredo a gondemnir.
17A’r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: #Act.16.18.yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid, a llefarant #Act.2.4.â thafodau newyddion.
18 # Act.28.5. Seirph a godant hwy ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt niwed, #Act.28.8.ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, ac hwynt hwy a fyddant iach.
19Wedi darfod i’r Arglwydd lefaru wrthynt, #Luc.24.51.cymmerwyd ef i fynu i’r nef, ac a efe a eisteddodd ar ddeheu-law Duw.
20A hwynt a aethant allan, ac a bregethasant ym mhob man, a’r #Heb.2.4.Arglwydd yn cydweithio ac yn cadarnhau yr gair trwy arwyddion y rhai oeddynt yn canlyn. Amen.
Terfyn y gyssegr-lan Efengyl yn ôl S. Marc.

Currently Selected:

Marc 16: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in