YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 28

28
PEN. XXVIII.
Adgyfodiad Crist, 2 yr Angel yn cyssuro y gwragedd. hwythau yn gweled Crist. 18 Crist yn anfon ei ddiscyblion i bregethu.
1Yna #Mor.16.1.|MRK 16:1. Ioan.20.11.yn niwedd y Sabboth, a hi yn dyddhau yn y dydd cyntaf o’r wythnos, y daeth Mair Magdalen a Mair arall i edrych y bedd.
2Ac wele bu daiar-gryn mawr: canys descynnodd Angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y garrec oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arni.
3A’i wyneb-pryd oedd fel mellten, a’i wisc yn wen fel eira.
4A rhag ei ofn ef dychrynnod y ceidwaid ac aethant megis yn feirw.
5A’r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrth y gwragedd, nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio ’r ydych yr Iesu ’r hwn a groes-hoeliwyd,
6Nid yw efe ymma, canys cyfododd megis y dywedodd, deuwch, a gwelwch y fann lle y rhoddwyd yr Arglwydd.
7Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch iw ddiscyblion gyfodi o honaw o feirw: ac y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilæa: yno y gwelwch ef: wele dywedais i chwi.
8Yna ’r aethant yn ebrwydd o’r fonwent gan ofn a llawenydd mawr, ac a redâsant i fynegu iw ddiscyblion.
9Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegu iw ddiscyblion ef, yna wele cyfarfu ’r Iesu ag hwynt gan ddywedyd, henffych well, ac hwy a ddaethant, ac y ymafelâsant yn ei draed ef, ac a’i haddolâsant.
10Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, nac ofnwch: ewch a dywedwch i’m brodyr, fel y delant i Galilæa, yno y gwelant fi.
11Ac wedi eu myned hwy: wele rhai o’r wiliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegâsant i’r arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12Ac wedi iddynt ymgasclu yng-hyd a’r henuriaid, hwy a ymgynghorâsant, ac a roesant arian yn helaeth i’r milwŷr,
13Gan ddywedyd, dywedwch, ei ddiscyblion a ddaethant o hŷd nôs, ac a’i lladratâsant ef, a ni yn cyscu.
14Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i dygwn ef i gredu, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15Ac hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addyscwyd hwynt: ac fe a gyhoeddwyd y gair hwn ym mhlith yr Iddewon hyd y dydd heddyw.
16Yna ’r aeth yr vn discybl ar ddêc i Galilæa, i’r mynydd lle ’r archase yr Iesu iddynt.
17A phan welsant ef, hwy a’i haddolâsant ef, a rhai a amheuasant.
18A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt gan ddywedyd: #Pen.11.27.|MAT 11:27. Ioan.17.2. Hebr.2.8.rhoddwyd i mi bôb awdurdod yn y nef, ac ar y ddaiar.
19 # Mar.16.15. Ewch gan hynny a dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tâd, a’r Mâb, a’r Yspryd glân.
20Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a’r a orchymynnais i chwi: #Ioan.14.16.ac wele ’r ydwyf gŷd â chwi bob amser, hyd diwedd y byd. Amen.

Currently Selected:

Mathew 28: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in