YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 25

25
PEN. XXV.
Dammeg y dêc morwyn yn dangos na ddylid oedi edifeirwch, 14 y talentau yn arwyddocau fôd yn rhaid arfer donniau Duw yn dda, 30 y farn ddiweddaf.
1Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddêc o forwynion, y rhai a gymmerasant eu lusernau ac a aethant i gyfarfod â’r priod-fab.
2A phump o honynt oedd yn gall, a phump yn angall.
3Y rhai angall a gymmerasant eu lusernau, ac ni chymmerasant olew gŷd â hwynt:
4A’r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri, gŷd â’u lusernau.
5A thra’r oedd y priod-fab yn aros yn hir, yr hepiodd, ac yr hunodd pawb oll.
6Ac ar hanner nôs y bu gwaedd, wele y priod-fab yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef.
7Yna y cyfododd yr holl forwynion, ac a drwsiasant eu lusernau.
8A’r rhai angall a ddywedasant wrth y rhai call, rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lusernau yn diffoddi.
9A’r rhai call a attebasant, gan ddywedyd, rhag na byddo digon i ni, ac i chwithau, ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10A thra’r oeddynt yn myned i brynu, y daeth y priod-fab: a’r rhai oeddynt yn barod a aethant i mewn gŷd ag ef i’r briodas, ac fe a gaewyd y porth.
11Wedi hynny y daeth y morwynion eraill gan ddywedyd, arglwydd, arglwydd, agor i ni.
12Ac efe a attebodd, yn wîr meddaf wrthych, nid adwen chwi.
13 # Math.24.42. Marc.13.35. Gwiliwch gan hynny, am na ŵyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dŷn.
14Canys [teyrnas nefoedd sydd] fel #Luc.19.12.dŷn yn myned i wlad bell, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda attynt.
15Ac i vn y rhoddes efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall vn, i bôb vn yn ôl ei allu: ac yn y fann efe a aeth oddi cartref.
16A’r hwn a dderbynniase y pump talent, a aeth, ac a farchnadodd â hwynt, ac a ennillodd bump talent eraill.
17A’r vn modd yr hwn a dderbynniase ddwy dalent, a ennillodd yntef ddwy eraill.
18Ond yr hwn a dderbynniase vn, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaiar, ac a guddiodd arian ei arglwydd.
19Ac wedi llawer o amser y daeth arglwydd y gweision hynny, ac efe a gyfrifodd â hwynt
20Ac yna y daeth yr hwn a dderbyniase bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, arglwydd pump talent a roddaist i mi, wele mi a ennillais bum talent eraill.
21Yna y dywedodd ei arglwydd wrtho, da, wâs da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf yn oruchaf ar lawer, dôs i mewn i lawenydd dy arglwydd.
22A’r hwn a dderbynnase ddwy dalent, a ddaeth ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist attaf: wele, dwy eraill a ennillais â hwynt.
23A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, da, wâs da a ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig, mi ath osodaf ar lawer, tyret i mewn i lawenydd dy arglwydd.
24A’r hwn a dderbynnase’r vn talent, a ddaeth, ac a ddywedodd, arglwydd, gwyddwn mai gŵr caled oeddit, yn medi lle nis heuaist, ac yn casclu lle ni wasceraist:
25Am hynny mi a ofnais, ac a aethym ac a guddiais dy dalent yn y ddaiar: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.
26A’i arglwydd a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, ti wâs drwg a diog, gwyddit fy môd yn medi lle ni’s hauais, ac yn casclu lle nis gwascerais:
27Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewid-wŷr, fel pan ddeuwn y cawn dderbyn yr eiddo fy hun ag elw.
28Cymmerwch am hynny y talent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddêc talent.
29Canys #Math.13.12. Marc.4.25. Luc.8.18.|LUK 8:18 & 19.26i bôb vn y byddo ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd, ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno yr hyn sydd ganddo.
30Am #Math.8.12. & 22.13hynny bwriwch y gwâs anfuddiol i’r tywyllwch eithaf, yno y bydd ŵylofain, a rhingcian dannedd.
31A phan ddêl Mâb y dŷn yn ei ogoniant a’i holl angelion sanctaidd gŷd ag ef, yna yr eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant.
32Ac ger ei fron ef y cynhullir yr holl genhedloedd, ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddiwrth y geifr.
33Ac efe a esyd y defaid ar ei ddeheu-law, ond y geifr ar yr asswy.
34Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheu-law, deuwch chwi fendigedigion fy Nhâd, meddiannwch y deyrnas yr hon a baratoiwyd i chwi er pan seiliwyd y bŷd.
35Canys #Esai.58.7.|ISA 58:7. Ezech.18.7.bum yn newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod: bum ddieithr, a lletteuasoch fi.
36Bum noeth, a dilladasoch fi: bum glaf, ac ymwelsoch â mi: bum yng-harchar, a daethoch attaf.
37Yna yr ettyb y rhai cyfiawn iddo gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i’th welsom yn newynog, ac i’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom i ti ddiod?
38A pha brŷd i’th welsom yn ddieithr, ac i’th letteuâsom? neu yn noeth, ac i’th ddilladâsom?
39Neu pa brŷd i’th welsom yn glaf, neu yng-harchar, ac y daethom attat?
40A’r Brenin gan atteb, a ddywed wrthynt, yn wir meddaf i chwi, yn gymaint a gwneuthur o honoch i’r vn lleiaf o’m brodyr hyn, i mi y gwnaethoch.
41Yna y dywed efe wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, #Psal.6.8. Math.7.23. Luc.13.27ewch oddi wrthif rai melldigedig i’r tân tragywyddol, yr hwn a baratoiwyd i ddiafol, ac iw angelion.
42Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:
43Bûm ddieithr, ac ni’m lletteuâsoch: noeth, ac ni’m dilladâsoch: yn glaf, ac yng-harchar ac ni ymwelsoch â mi.
44Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng-harchar, ac ni weinasom i ti?
45Yna’r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, yn wîr meddaf i chwi, yn gymmaint na’s gwnaethoch i’r vn o’r rhai lleiaf hyn, ni’s gwnaethoch i minne.
46A’r #Dan.12.3. Ioan.5.29.rhai hyn a ânt i boen tragywyddol: a’r rhai cyfiawn i fywyd tragywyddol.

Currently Selected:

Mathew 25: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in