YouVersion Logo
Search Icon

Luc 4

4
PEN. IIII.
Crist yn cael ei demtio. 14 Yn pregethu yn Galilæa. 16 Yn Nazareth. 30 Ac yn Capernaum yn iachau chwegr Petr. 41 Ac yn bwrw allan gythreuliaid heb adel iddynt ei gyfaddef ef.
1A’r #Math.4.1. Marc.1.12.Iesu yn llawn o’r Yspryd glân a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a yrrwyd gan yr yspryd i’r anialwch
2Ddeugain nhiwrnod, a diafol yn ei demptio, ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: eithr wedi eu diweddu hwynt, daeth arno chwant bwyd.
3Yna dywedodd diafol wrtho: os Mab Duw ydwyt, dywet wrth y garreg hon am fyned yn fara.
4A’r Iesu a attebodd iddo gan ddywedyd: scrifennedic yw, nid #Deut.8.3. Math.4.4. ar fara yn vnic y bydd dŷn fyw, ond ar bôb gair Duw.
5Yna wedi i ddiafol ei ddwyn ef i fynydd vchel, efe a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaiar, mewn munyd awr:
6A diafol a ddywedodd wrtho, i ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt, canys i mi y rhoddwyd, ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finne hi.
7Felly os ti a addoli o’m blaen, eiddo ti fyddant oll.
8A’r Iesu a attebodd gan ddywedyd, dos ymmaith Satan ar fy ôl: canys scrifennedic yw: #Deut.6.13. & 10.20 addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn vnic a wasanaethi.
9Yna y dug ef i Ierusalem, ac a’i gosodes ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho: os Mab Duw ydwyt bwrw dy hun i lawr oddi ymma.
10Canys scrifennedic yw, y #Psal.91.11. gorchymyn efe iw angelion o’th achos di, a’r dy gadw di:
11Ac yn eu dwylo y cyfodant di, fel na tharawech dy droed vn amser wrth garreg.
12A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, ddywedyd: #Deut.6.16. na themptia’r Arglwydd dy Dduw.
13Ac wedi i ddiafol orphen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef tros amser.
14A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr Yspryd i Galilæa, a sôn a aeth am dano ef, trwy’r holl fro oddi amgylch.
15Ac yr oedd efe yn dyscu yn eu Synagogeu hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16Ac #Math.13.54. Marc.6.1. Ioan. 4.43efe a ddaeth i Nazareth lle y magesid ef, ac (yn ôl ei arfer) efe a aeth i’r Synagog ar y dydd Sabboth, ac a safodd i fynu i ddarllen.
17Yna y rhoed atto lyfr y prophwyd Esaias, ac wedi iddo agoryd y llyfr, y cafodd y lle yr scrifennid,
18* Yspryd yr Arglwydd arnafi, o herwyddyr hwn yr eneiniodd fi: fel yr efangylwn i’r tlodion yr anfonodd fi i iachau y drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, caffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, #Esa.61.1.
19I bregethu blwyddyn gymmeradwy’r Arglwydd.
20Ac wedi iddo gaeu’r llyfr a’i roddi i’r gweinidog yr eisteddodd: a llygaid pawb oll yn y Synagog oedd yn craffu arno.
21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt: heddyw y cyflawnyd yr scrythyr hon yn eich clustiau chwi.
22Ac yr oedd pawb yn dwyn testiolaeth iddo: ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddaent allan o’i enau ef, gan ddywedyd: onid hwn yw mab Ioseph?
23Ac efe a ddywedodd wrthynt: yn hollawl y dywedwch y ddihareb hon wrthif: y meddig, iachâ di dy hun, y pethau a glywsom i ti eu gwneuthur yn Capernaum, gwna ymma yn dy wlâd dy hun.
24 # Ioan.4.44. A dywedodd yntef, yn wir meddaf i chwi, nad yw vn prophwyd yn gymmeradwy yn eu wlad ei hun.
25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, llawer o wragedd gweddwon yn nyddiau Elias oedd yn Israel, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe-mis, hyd pan oedd newyn mawr tros yr holl dir:
26Ac nid at yr vn o honynt yr anfonwyd Elias, ond i #1.Bren.17.9.Sarepta yn Sidon, at wraig weddw.
27A llawer o wahan-gleifion oeddynt yn Israel yn amser #1.Bren.5.14.Eliseus y prophwyd: ac ni lanhawyd yr vn o honynt ond Naaman y Syriad.
28Yna y llanwyd hwynt oll o ddigofaint yn y Synagog, panh glywsant y pethau hyn.
29A chan godi i fynu hwynt hwy a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dugasant hyd ar ael y bryn yr adeiladasid eu dinas arno, ar fedr ei fwrw ef bendro-mwnwgl i lawr.
30Yntef gan fyned drwy eu canol hwynt a aeth ymmaith.
31Ac efe a ddaeth i wared i Capernaum dinas Galilæa, ac #Math.4.13. Marc.1.21. yno y dyscodd efe hwynt ar y dyddiau Sabboth.
32A rhyfeddu a wnaethant wrth ei athrawiaeth ef, canys ei ymadrodd #Math.7.29. Marc.2.22ef oedd gyd ag awdurdod.
33Ac #Mar.1.23.yr oedd yn y Synagog ddŷn a chanddo yspryd cythreul aflan, yr hwn a waeddodd â llef vchel,
34Gan ddywedyd, ô beth [sydd] i ni â thi Iesu o Nazareth? a ddaethost di i’n difetha ni? myfi a wn pwy ydwyt ti, [sef] Sanct Duw.
35A’r Iesu a’i ceryddodd gan ddywedyd: distawa, a dos allan o honaw, yna y cythrael, wedi ei daflu ef yn y canol, a aeth allan o honaw, heb wneuthur dim niwed iddo.
36A daeth ofn arnynt oll, a ymddiddanent wrth eu gilydd gan ddywedyd: pa beth yw hyn, gan ei fod efe trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysprydion aflan, a hwynt yn myned allan?
37A sôn a aeth am dano ym mhob man yn y wlâd o amgylch.
38Pan #Math.8.14. Marc.1.30. gyfododd [yr Iesu] o’r Synagog yr aeth i mewn i dŷ Simon, ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o grŷd blin, a hwynt hwy a ymbiliasant ag ef trosti hi.
39Yna y safodd efe vwch ei phen hi, ac efe a geryddodd y crŷd, ac efe a’i gadawodd hi, ac yn y fan y cyfodes hi, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40Pan fachludodd yr haul, pawb a’r oeddynt ganddynt rai cleifion o amryw glwyfau, a’u dygasant hwynt atto ef, ac efe gan roi ei ddwylo ar bob vn o honynt ac a’u hiachaodd hwynt.
41A #Marc.1.35. chythreuliaid a aethant allan o lawer dann lefain a dywedyd: ti yw Crist Mab Duw, eithr efe a’i ceryddodd hwynt, ac ni adawe iddynt ddywedyd, y gwyddent mai efe oedd y Crist.
42A phan aeth hi yn ddydd yr a aeth efe oddi yno ymmaith i’r diffaethwch a’r bobl a’i ceisiasant ef, ac hwy a ddaethant atto, ac a’i hattaliasāt ef rhag myned ymmaith oddi wrthynt hwy.
43Yna y dywedodd efe wrthynt, yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill, canys i hyn i’m danfonwyd.
44Ac efe a bregethodd yn Synagogau Galilæa.

Currently Selected:

Luc 4: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in