YouVersion Logo
Search Icon

Luc 4:9-12

Luc 4:9-12 BWMG1588

Yna y dug ef i Ierusalem, ac a’i gosodes ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho: os Mab Duw ydwyt bwrw dy hun i lawr oddi ymma. Canys scrifennedic yw, y gorchymyn efe iw angelion o’th achos di, a’r dy gadw di: Ac yn eu dwylo y cyfodant di, fel na tharawech dy droed vn amser wrth garreg. A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, ddywedyd: na themptia’r Arglwydd dy Dduw.