YouVersion Logo
Search Icon

Luc 21

21
PEN. XXI.
Crist yn canmol offrwm y weddw dlawd. 5 Yn proffwydo am ddinistr Ierusalem, 8 Am ddyfodiad gau athrawon. 9 Ac arwyddion blinder a diwedd y byd. 37 Ac arfer Crist tra fu efe yn Ierusalem.
1Ac #Mar.12.41.fel yr ydoedd efe yn edrych, efe o ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r tryssor-dŷ.
2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3Ac efe a ddywedodd, yn wîr meddaf i chwi, y weddw dlawd hon a fwriodd fwy i mewn nâ hwynt oll.
4Canys hwy oll o’u gweddillion a fwriasant yr hyn a roddent i Dduw: a hon a fwriodd o’i phrinder hyn oll a fedde.
5 # Math.24.1. Mar.13.1. Yna, a rhai yn dywedyd am y Deml fel yr addurniesid hi â meini gwychiō, a rhoddion, efe a ddywedodd,
6Ai ar y pethau hyn yr ydych chwi yn edrych? fe a ddaw y dyddiau pan na adawer maen ar faen a’r na fwrier i lawr.
7Yna y gofynnasant iddo gan ddywedyd, Athro, pa bryd y bydd y pethau hynn? a pha arwydd fydd pan ddêl y pethau hynn?
8 # Ephes.5.6. 2.Thess.2.3. Ac efe a ddywedodd, mogelwch rhac eich twyllo: canys llawer a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, myfi yw [Crist,] a’r amser hwnnw sydd yn nesau, am hynny na chanlynwch hwynt.
9A phan glywoch [sôn] am ryfeloedd a therfyscoedd, nac ofnwch: canys rhaid i’r pethau hynn fôd yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man.
10Yna y dywedodd efe wrthynt, cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
11A #Math.24.7. Mar.13.8.daiar-grynfau mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a dychrynedigaethau, ac arwyddiō mawrion o’r nef.
12Eithr o flaen hyn oll y rhoddāt eu dwylo arnoch, ac [a’ch] erlidiant, gan eich rhoddi yn y Synagogau, ac mewn carcharau, a’ch dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraethwŷr er mwyn fy enw i.
13A hyn a dry i chwi yn destiolaeth.
14Am hynny #Pen.12.12.|LUK 12:12. Math.10.19. Mar.13.11. rhoddwch eich brŷd ar na fyfyrioch, pa beth a atteboch.
15Canys mi a roddaf i chwi enau a doethineb, y rhai nis gall eich holl wrthwynebwŷr na dywedyd yn eu herbyn, na’i gwrthwynebu.
16Bradychir chwi hefyd gan eich rhieni a’ch brodyr, a’ch cenedl, a’ch cymdeithion, a [rhai] o honoch a laddant.
17A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i.
18Eithr #Math.10.30.ni chyll blewyn o’ch pen chwi.
19Meddiannwch eich eneidiau trwy eich amynedd.
20A #Math, 24.15.|MAT 24:15. Marc.13.14. Dan.9.27.phan weloch amgylchynu Ierusalem â lluoedd, yna gwybyddwch fôd ei anghyfannedd-dra hi yn agos.
21Yna ffoed y rhai sy yn Iudæa i’r mynyddoedd: ac elant y rhai a fyddo yn ei chanol hi ymaith: a’r rhai a fyddo yn y meusydd nac elont i mewn iddi.
22Canys dyddiau’r dial yw y rhai hyn fel y cyflawner cwbl ag sydd scrifennedig.
23Gwae y rhai beichiogiō a’r mamaethod yn y dyddiau hynny: canys angen mawr fydd yn y wlâd hon, a digofaint wrth y bobl hynn.
24A hwy a syrthiant ar fîn y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bôb cenhedlaeth: ac Ierusalem a fethrir gan y cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y cenhedloedd.
25 # 21.25-33 ☞ Yr Efengyl yr ail Sul o Adfent. # Esai.13.10.|ISA 13:10. Ezech.32.7.|EZK 32:7. Math.24.29. Marc.13.24. Yna y bydd arwyddion yn yr haul, a’r sêr, ac ar y ddaiar ing cenhedloedd gan gyfing gyngor, am fod y môr a’r rhyferthwy yn dadseinio,
26[A] bod dynion yn llewygu gan ofn a disgwil am y pethau a ddeuant ar y bŷd, o blegit nerth y nefoedd a siglir.
27Ac yna y gwelant Fab y dŷn yn dyfod yn cwmwl mewn gallu a gogoniant mawr.
28A phan ddechreuo’r pethau hynn ddyfod, edrychwch, a chodwch eich pennau i fynu: #Rhuf.8.23.canys y mae eich ymwared yn nesau.
29Ac efe a ddywedodd wrthynt y ddammeg [hon:] edrychwch ar y ffigus-bren, a’r holl brennau,
30Pan ddeiliant hwy weithian, chwychwi yn gweled a ŵyddoch o honoch eich hun fod y cynhaiaf yn agos.
31Felly chwithau, pan weloch wneuthur y pethau hyn, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.
32Yn wir meddaf i chwi, nid aiff yr oes hon heibio, nes gwneuthur y pethau [hyn] oll.
33Y nef a’r ddaiar a ânt heibio, ond fyng-eiriau maufi nid ânt heibio.
34Edrychwch arnoch eich hunain, rhag gorchfygu eich calonnau â glothineb, â meddwdod, â gofalon y bŷd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.
35Canys efe a ddaw fel magl ar wartha pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaiar.
36Gwiliwch gan hynny, a gweddiwch bôb amser ar eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll y rhai a ddeuant, ac i sefyll ger bron Mâb y dŷn.
37A lliw dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y Deml: a’r nôs gan fyned allan yr arhose efe yn y mynydd a elwyd [mynydd] Oliwydd.
38A’r holl bobl a ddeuent y boreu atto ef iw glywed yn y Deml.

Currently Selected:

Luc 21: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in