YouVersion Logo
Search Icon

Luc 19

19
PEN. XIX.
Edifeirwch Zachæus, 12 y rhagor rhwng y dec gwâs y rhai a gawsant y dec darn arian, 28 Crist yn marchogaeth i Ierusalem, 45 yn bwrw allan y pryn-wyr a’r gwerth-wyr, 47 a’r Iddewon yn ceisio ei ddifetha ef.
1Ac efe a ddaeth i mewn, ac a aeth trwy Iericho.
2Ac wele, ryw ŵr a’i enw Zacheus, a hwn oedd bennaf o’r Publicanod, ac yr oedd efe yn gyfoethog.
3Ac efe a geisiodd weled pwy oedd yr Iesu, ac ni alle gan y dyrfa, am ei fôd yn fychan o gorpholaeth.
4Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sicomorwydden, fel y galle ei weled ef: canys yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5A phan ddaeth yr Iesu i’r lle [hwnnw,] efe a edrychodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Zacheus descyn ar frys, canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6Yna y descynnodd efe ar ffrwst, ac a’i derbynniodd ef yn llawen.
7A phawb pan welsant hyn a wrwgnachasant gan ddywedyd, ei fod efe wedi myned i mewn i letteua at ddŷn pechadurus.
8A Zacheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, wele Arglwydd, yr ydwyf yn rhoddi hanner fy na i’r tlodion: ac os dygum ddim oddi ar neb trwy dwyll, mi a’i talaf ar ei bedwerydd.
9A’r Iesu a ddywedodd wrtho, heddyw y daeth iechydwriaeth i’r tŷ hwn, am ei fôd yntef hefyd yn fâb i Abraham.
10 # Math.18.11. Canys Mâb y dŷn a ddaeth i geisio, ac i gadw yr hyn a gollasid.
11A hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a aeth rhagddo, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fôd efe yn agos at Ierusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangose teyrnas Dduw yn y fan.
12Am hynny y dywedodd, #Math.25.14.rhyw ŵr bonheddig a wnaeth daith i wlâd bell, i dderbyn iddo deyrnas, ac i ddyfod trachefn.
13Ac wedi iddo alw ei ddêc gwâs, efe a roddes ddec punt, ac a ddywedodd wrthynt, marchnattewch hyd oni ddelwyf.
14Eithr ei ddinas-wŷr a’i casâsant ef, ac a anfonasant gennadwriaeth ar ei ôl ef, gan ddywedyd: ni fynnwn ni mo hwn i deyrnasu arnom.
15Ac fe a ddarfu pan ddaeth efe yn ei ôl wedi derbyn ei deyrnas, yn ay gorchymynnodd efe alw y gweision hynny atto i’r rhai y rhoddase efe yr arian, fel y galle gael gwybod pa faint a elwase pôb vn wrth farchnatta.
16Y cyntaf a ddaeth, gan ddywedyd, arglwydd, dy bunt a enillodd ddec punt.
17Yntef a ddywedodd wrtho ef, wele ô wâs da, am i ti fôd yn ffyddlon yn ychydig, cymmer awdurod ar ddêc dinas.
18A’r ail a ddaeth gan ddywedyd, arglwydd dy bunt di a wnaeth bum punt.
19Ac efe a ddywedodd wrth hwnnw, bydd dithe lywodraeth-ŵr ar bum dinas.
20A’r llall a ddaeth, gan ddywedyd, arglwydd, wele dy bunt, yr hon a roddais i gadw mewn cadach.
21Canys mi a’th ofnais, am dy fôd yn ŵr tost, yn cymmeryd y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni hauaist.
22Yntef a ddywedodd wrtho ef, o’th enau dy hun y barnaf di, ty di wâs drwg, tidi a wyddit fy môd i yn ŵr tost, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni hauais,
23Paham gan hynny na roddaist ti fy arian i i’r bwrdd [cyfnewid,] fel y gallaswn i eu cael hwynt pan ddelwn, gŷd â mael?
24Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw: dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch hi i’r hwn sydd a dêc punt ganddo.
25(A hwy a ddywedasant wrtho, arglwydd, y mae ganddo efe ddêc punt)
26 # Pen.8.18.|LUK 8:18. Math.13.12. Mar.4.25. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y rhoddir i bob vn y byddo ganddo: a dygir oddi ar yr hwn ni byddo ganddo yr hyn fydd ganddo.
27A hefyd, dygwch ymma fyng-elynion hynny y rhai ni fynnent i mi deyrnasu arnynt, a lleddwch hwynt o’m blaen i.
28Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen gan fyned i fynu i Ierusalem.
29A #Math.21.1. Mar.11.1digwyddodd, pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i’r mynydd yr hwn a elwir Oliwydd: efe a anfonodd ddau o’i ddiscyblion,
30Gan ddywedyd, ewch i’r dref yr hon sydd ar [eich] cyfer, a phn ddeloch iddi, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dŷn erioed: gollyngwch ef a dygwch ymma.
31Ac os gofyn nêb i chwi, pa ham yr ydych yn ei ollwng ef? dywedwch wrtho fel hyn: am fôd yn rhaid i’r Arglwydd wrtho.
32Yna y rhai a ddanfonasid a aethant ymmaith, ac a gawsant fel y dywedase efe wrthynt.
33Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, pa ham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34Ac hwy a ddywedasant, am fôd yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef.
35Ac #Math.21.7. Ioh.12.14 hwy a’i dugasant ef at yr Iesu, ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwynt hwy a ddodasant yr Iesu arno ef.
36Ac efe yn myned, tanasant eu dillad ar hŷd y ffordd.
37Ac weithian pan ddaeth efe yn agos at ddescynfa mynydd Oliwydd, y dechreuodd yr holl liaws ddiscyblion gan lawenydd, glodfori Duw â llef vchel, am yr holl wrthiau nerthol a welsent,
38Gan ddywedyd, bēdigedic yw yr Brenin hwnnw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd: tangnheddyf yn y nef, a gogoniant yn yr vchelder.
39Yna rhai o’r Pharisæaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho ef, Athro, cerydda dy ddiscyblion.
40Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, pe tawe y rhai hyn, y cerrig a lefent.
41 # 19.41-47a ☞ Yr Efengyl y decfed Sul ar ol y Drindod. # Pen.21.5.|LUK 21:5. Math.24.1. Mar.13.1. Ac wedi iddo ef ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti,
42Gan ddywedyd, canys pe gwypit ti o’r lleiaf yn dy ddydd hwn y pethau a berthynant i’th heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedic rhagot.
43Canys fe a ddaw y dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bôb parth.
44Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r ddaiar a’th blant y rhai ydynt o’th fewn: ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adwaenit amser dy ymweliad.
45Ac #Math.21.13. Mar.11.17efe a aeth i mewn i’r Deml, ac a ddechreuodd daflu allā y rhai oeddynt yn gwerthu, ac yn prynu ynddi,
46Gan ddywedyd wrthynt, y mae yn scrifennedig, #Esai.56.7.|ISA 56:7. Iere.7.11. tŷ gweddi yw fy nhŷ i: a chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.
47Ac yr oedd efe beunydd yn dyscu yn y Deml, a’r arch-offeiriaid, a’r scrifennyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisiasant ei ddifetha ef.
48Ond ni fedrent wneuthur dim iddo ef, canys yr holl bobl a lŷnasant [wrtho] pan glywsant ef.

Currently Selected:

Luc 19: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in