YouVersion Logo
Search Icon

Luc 16

16
PEN. XVI.
Crist trwy siampl y gorchwiliwr ang-hyfiawn yn annog i haelioni cyfiawn ac elusen. 13 Gan ddangos na all neb wasanaehu dau feistr. 18 Ac na ddyle neb yscar â’i wraig a phriodi arall. 19 Ac yn ddiweddaf yn gosod allan hanes y gwr goludog a Lazarus.
1 # 16.1-9 ☞ Yr Efengyl y nawed Sul wedi y Drindod. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: yr oedd rhyw ŵr goludog, ac iddo orchwiliwr, ac fe a gyhuddwyd wrtho ei fod efe yn afradloni ei dda ef.
2Efe ai galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho: pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o’th orchwiliaeth, canys ni elli fôd mwy yn orchwiliwr.
3A’r gorchwiliwr a ddywedodd wrtho ei hun, pa beth a wnaf canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr orchwiliaeth oddi arnaf? ni fedraf gloddio, a chardotta sydd gywilyddus gennif.
4Gwnn beth a wnaf, fel pan i’m bwrier allan o’r orchwiliaeth, y derbyniant fi iw tai.
5Ac wedi iddo alw pôb vn o ddyledwŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, pa faint sydd arnat o ddyled i’m harglwydd.
6Ac efe a ddywedodd, can mesur o olew: ac efe a ddywedodd wrtho, cymmer dy scrifē ac eistedd yn ebrwydd, ac yscrifenna ddec a daugain.
7Yna y dywedodd efe wrth vn arall, pa faint o ddylêd sydd arnat ti? ac efe a ddywedodd, can mesur o wenith: yna y ddywedodd wrtho, cymmer dy scrifen ac yscrifenna bedwar vgain.
8A’r Arglwydd a ganmolodd y gorchwiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall, o blegit y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaethau eu hun, nâ phlant y goleuni.
9Ac yr wyfi yn dywedyd, gwnewch i chwi gyfeillion o’r golud twyllodrus, fel pan fo eisieu arnoch, i’ch derbyniant i’r tragywyddol bebyll.
10Y nêb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer: a’r nêb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y golud anghyfiawn, pwy a ymddyried i chwi am y gwir [olud?]
12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi’r eiddoch eich hun?
13Ni ddichon #Math.6.24.vn gwâs wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ vn, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga’r llall: ni ellwch chwi wasanaethu Duw a golud [byddol.].
14A’r Pharisæaid hefyd y rhai oeddynt gybyddion a glywsant y pethau hynn oll, ac a’i gwatwarasant ef.
15Yna efe a ddywedodd wrthynt: chwy-chwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hun ger bronn dynion: eithr Duw a ŵyr eich calonnau: canys y peth sydd vchel gŷd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw.
16Y #Math.11.12.gyfraith a’r prophwydi [a barhaodd] hyd Ioan: ac er hynny o amser y pregethwyd teyrnas Dduw, a phawb sydd yn ymmwthio iddi.
17A #Math.5.18.haws yw i nef a daiar fyned heibio, nag i vn tippyn o’r gyfraith ballu.
18Y mae #Math.5.32. & 19.9. 1.Cor.7.11.pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ac a briodo vn arall, yn godinebu: a phwy bynnag a briodo hon a ollyngwyd ymmaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
19 # 16.19-31 ☞ Yr Efengyl y Sul cyntaf wedi y Drindod. Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac yn gwisco porphor a sidan main, ac yn cymmeryd ei fyd yn ddainteithiol ac yn fwythus beunydd.
20Yr oedd hefyd ryw gardottyn a elwyd Lazarus, yr hwn a orwedde wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21Ac yn chwēnychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthie oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog: ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22A darfu i’r cardottyn farw, ac efe a dducpwyd gan yr angelion i fynwes Abraham, a’r gŵr goludog a fu farw hefyd, ac a gladdwyd.
23Ac efe yn vffern mewn poenau wrth godi ei olwg, ac efe, a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.
24Yna efe a lefodd, gan ddywedyd, y tâd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Lazarus i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy-nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon.
25Ac Abraham a ddywedodd, hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd: ac felly Lazarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithe.
26Ac heb law hyn oll y mae gagendor wedi gosod rhyngom ni a chwi, fel na allo y rhai a fynnent drammwy oddi ymma attoch chwi, na dyfod oddi yna ymma.
27[Yntef] a ddywedodd, attolwg i ti dâd, etto danfon ef i dŷ fy nhâd.
28[Canys] y mae i mi bump o frodyr: fel y testiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.
29Abraham a ddywedodd wrtho, y mae ganddynt Moses a’r prophwydi, gwrandawant arnynt hwy.
30Yntef a ddywedodd, nâg e, y tâd Abraham, eithr os aiff vn o’r meirw attynt, hwy a ediferhânt.
31[Yna Abraham] a ddywedodd wrtho: oni wrandawant ar Moses a’r prophwydi, ni chredent pe code vn oddi wrth y meirw.

Currently Selected:

Luc 16: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in