YouVersion Logo
Search Icon

Luc 13

13
PEN. XIII.
Crist yn dangos nad y mwyaf ei adfyd sydd fwyaf ei bechod 6 a bôd Duw yn ymarhous wrth bechaduriaid. 11 yn iachau y wraig grepach, ac yn atteb llywydd y Synagog am y Sabboth. 18 Dammeg yr hâd mwstard a’r surdoes. 25 gwrthodiad yr Iddewon a derbynniad y cenhedloedd. 34 Crist yn tosturio am ddinistr Ierusalem.
1Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw, rai yn mynegu iddo am y Galilæaid y rhai, y cymmyscase Pilatus eu gwaed a’u haberthau.
2A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn tybied fôd y Galilæaid hynn, yn fwy pechaduriaid mwy n’âr holl Galilaeaid [eraill] am iddynt oddef y cyfryw bethau?
3Nac oeddynt meddaf i chwi: ac oni edifarheuwch chwithau, chwi a gollir oll yn yr vn modd oll.
4Neu yr daunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloe, ac ai lladdodd: a ydych chwi yn tybied eu bôd hwynt yn bechaduriaid mwy nâ’r rhai oll a oeddynt yn cyfanneddu yn Ierusalem?
5Nac oeddynt meddaf i chwi, eithr onid edifarheuwch, derfydd am danoch chwi oll yn yr vn modd.
6Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: yr oedd gan vn ffiguspren wedi ei blannu yn ei winllan, ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd.
7Yna y dywedodd wrth y gwinllannudd, wele, tair blynedd y daethym i geisio ffrwyth ar y ffiguspren hwn, ac nid ydwyf yn cael dim: torr ef i lawr: pa ham y mae efe yn diffrwytho’r tir?
8Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, o arglwydd, gâd iddo’r flwyddyn hon, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch a bwrw tail:
9Ac os dwg efe ffrwyth, [gâd ef,] onid ’ê gwedi hynny y torri ef i lawr.
10Ac yr oedd efe yn dyscu yn vn o’r Synagogau ar y dydd Sabboth.
11Ac wele’r oedd yno wraig, ac ynddi yspryd gwendid er ys daunaw mlynedd, ac oedd wedi myned yn grom, ac ni alle hi mewn modd yn y bŷd iniawni.
12Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi, ac a ddywedodd wrthi, y wraig, rhyddhauwyd ti oddi wrth dy wendid.
13Ac efe a roddes ei ddwylaw arni, ac yn ebrwydd hi a iniawnwyd, ac a foliānodd Dduw.
14A’r archsynagogudd (yn ddicllon am i’r Iesu iachau ar y Sabboth) a ddywedodd wrth y bobl: chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hynny deuwch, ac iachaer chwi, ac nid ar y dydd Sabboth.
15A’r Arglwydd a’i attebodd ef, ac a ddywedodd, ô ragrithiwr, oni ollwng pawb o honoch chwi ei ŷch neu ei asyn o’r preseb, au dwyn i’r dŵfr ar y dydd Sabboth?
16A hon gan ei bod yn ferch Abraham, yr hon a rwymase Satan er ys daunaw mlynedd, oni ddylid ei gollwng oi rhwym ar y dydd Sabboth?
17A phan ddywedodd efe y pethau hyn, ei holl wrthwynebwŷr ef a gywilyddiasāt: ond yr holl bobl a lawenychasant am yr holl weithredoedd gogoneddus a’r a wnaethe efe.
18Yna #Math.13.31. mar.4.31.efe a ddywedodd, i ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg: neu i ba beth y cyffelybaf hi?
19Tebyg yw i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ac a’i hauodd yn ei ardd, ac efe a dyfodd yn bren mawr, ac adar yr awŷr a nythasant yn ei ganghennau.
20Ac * eilwaith y dywedodd, i ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac ai cuddiodd mewn tri mesur o flawd hyd oni surodd y cwbl oll.
22 # Math.9.35. marc.6.6. Ac efe a drammwyodd drwy’r holl ddinasoedd a threfi gan ddyscu [pawb] wrth ymdaith i Ierusalem.
23A dywedodd vn wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw [sydd] o’r rhai cadwedig? ac efe a ddywedodd wrthynt:
24 # Math.7.13. Ymdrechwch am fyned i mewn i’r porth cyfing, canys llawer meddaf i chwi a geisiant fyned i mewn, ac ni’s gallant.
25Pan gyfodo gŵr y tŷ, a chaeu y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a churo’r drws gan ddywedyd, arglwydd, arglwydd, agor i ni, ac atteb o honaw yntef, a dywedyd wrthych, nid adwen ddim o honoch o ba le yr ydych.
26Yna y dechreuwch ddywedyd, bwyttasom, ac a yfasom yn dy ŵydd di, a dyscaist yn ein heolydd ni.
27Ac efe a ddywed, yr wyf yn dywedyd i chwi nid adwaen chwi o ba le yr ydych: #Math.7.25. Psal.6.8.ewch ymmaith oddi wrthif, chwy-chwi oll weithred-wŷr anwiredd.
28Yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, ac Iacob, a’r holl brophwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
29Yna y daw [llawer] o’r dwyrain, a’r gorllewyn, a’r gogledd, a’r dehau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.
30Ac wele, y diweddaf fyddant gyntaf, a’r cyntaf fyddant ddiweddaf.
31Ar y dydd hwnnw y daeth atto rai o’r Pharisæaid, ac a ddywedasant wrtho, dos ymaith, a cherdda oddi ymma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32Yna y dywedodd efef wrthynt: ewch, a dywedwch i’r cadnaw hwnnw, wele, bwriaf allan gythreuliaid, a gorphennaf iachâu heddyw, ac y foru, a’r trydydd dydd i’m perffeithir.
33Er hynny rhaid i mi ymdaith heddyw, ac y foru, a thrennydd: canys ni all darfod am brophwyd allan o Ierusalem.
34O #Math.23.37. Ierusalem, Ierusalem, yr hon ydwyt yn lladd y prophwydi ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn i gasclu dy blant, fel y cascl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac ni’s mynnit ti.
35Wele eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd: yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, na welwch fi, hyd oni ddel yr amser pan ddywettoch: bendigedic yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Currently Selected:

Luc 13: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in