YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 3

3
PEN. III.
1 Cyfraith am aberth hedd o eidionnau. 6 Defaid. 7 Wun. 12 A geifr.
1Ac os aberth hedd [fydd] ei offrwm ef, pan offrymmo efe eidion, offrymmed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith-gwbl pwy vn bynnac ai yn wryw ai yn fenyw.
2A rhodded ei law ar benn ei offrwm a lladded ef [wrth] ddrws pabell y cyfarfod, a thaenelled meibion Aaron yr offeiriaid y gwaed ar yr allor o amgylch.
3Ac offrymmed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd: [sef] y weren fol, a’r #Exod.29.22.holl wêr yr hwn[a fydd]ar y perfedd,
4A’r ddwy aren, a’r gwêr [a fydd] arnynt, yr hwn [fydd] ar y perfedd, a’r rhwyden hefyd [a fydd] ar yr afi a dynn efe ymmaith yng-hyd a’r arennau.
5A allosged meibion Aaron hynny ar yr allor, yng-hyd ar offrwm poeth yr hwn [fydd] ar y coed, y rhai [fyddant] ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
6Ac os o’r praidd [y bydd] yr hyn a offrymmo efe yn hedd aberth i’r Arglwydd, offrymmed ef yn wryw neu yn fenyw perffaithgwbl.
7Os oen a offrymma efe yn ei offrwm, yna dyged ef ger bron yr Arglwydd.
8A gosoded ei law ar benn ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod, a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.
9Ac offrymmed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd ei weren, a’r gloren ei gyd, torred hi ymmaith wrth asgwrn y cefn yng-hyd a’r weren fol, a’r holl wêr yr hwn [fydd] ar y perfedd.
10A’r ddwy aren, a’r gwêr yr hwn [a fydd] arnynt, yr hwn [fydd] ar y perfedd, a’r rhwyden ar yr afi, yng-hyd a’r arennau a dynn efe ymmaith.
11A llosged yr offeiriad hynn ar yr allor, [fel] bwyd aberth tanllyd yr Arglwydd.
12Felly os gafr [fydd] ei offrwm ef, dyged hi ger bron yr Arglwydd:
13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod, a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.
14Ac offrymmed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd, sef y weren fol, a’r holl wêr yr hwn [fydd] ar y perfedd.
15A’r ddwy âren a’r gwêr yr hwn [fydd] arnynt, yr hwn [fydd] ar y perfedd a’r rhwyden ar yr afi, yng-hyd ar arennau a dynn efe ymmaith.
16A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yr holl wêr [fydd] i’r Arglwydd yn fwyd aberth tanllyd o arogl esmwyth.
17Deddf dragwyddawl drwy eich oesoedd yn eich holl anneddau [yw] na fwyttaoch ddim gwêr na dim #Genes.9.4.gwaed.

Currently Selected:

Lefiticus 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in