Lefiticus 24
24
PEN. XXIIII.
1 Olew y lusernau. 10 Cospedigaeth y cabludd. 17 Cyfraith y cyffelyb.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Gorchymyn i feibion Israel ddwyn attat olew oliwydden pur coethedic yn oleuni, #Exod.27.20.i beri i’r lusernau gynneu bôb amsêr.
3O’r tu allan i wahan-len y destiolaeth ym mhabell y cyfarfod y trefna Aaron ef o hwyr hyd forau ger bron yr Arglwydd bôb amser, deddf dragywyddol drwy eich cenhedlaethau [yw hynn.]
4 #
Exod.25.31. Ar y canhwyllbren pûr y trefna efe y llusernau ger bron yr Arglwydd bôb amser.
5A chymmer beillied a phoba ef yn ddeuddec teissen: dwy ddecfed ran [Epha] fydd pôb teissen.
6A gosot hwynt yn ddwy rês, #Exod.25.30.chwech [yn] y rhês, ar y bwrdd pur ger bron yr Arglwydd.
7A dod ti thus pur ar y rhesau, fel y byddo yn fara coffadwriaeth, [ac] yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.
8Ar bôb dydd Sabboth y trefna efe hynn ger bron yr Arglwydd bôb amsêr, yn gyfammod tragywyddol oddi wrth feibion Israel.
9A bydd eiddo Aaron ai feibion, #Exod, 29.33.|EXO 29:33. lefit.8.31.|LEV 8:31. mat.12.4.hwynt ai bwyttu yn y lle sanctaidd, canys sancteidd-beth cyssegredic yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd [drwy] ddeddf dragywyddol.
10A mab gwraig o Israel, a hwnn yn fab gŵr o’r Aipht, a aeth allan ym mysc meibion Israel, a mab yr Israelities, a gŵr o Israel a ymgynhenuasant yn y gwerssyll.
11A mab y wraig o Israel a felldithiodd enw [yr Arglwydd,] ac a gablodd: yna y dygasant ef at Moses, ac enw ei fam oedd Selomit merch Dibri o lwyth Dan.
12A gosodasant ef yng-harchar nes hysbysu iddynt o enau’r Arglwydd [beth a wnaent.#Num.15.34.
13Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
14Dug y cabludd i’r tu allan i’r gwerssyll, #Deut.13.9. deut.17.7.a rhodded pawb ai clywsant ef eu dwylo ar ei benn ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.
15A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd: pôb vn pann gablo ei Dduw a ddwg ei bechod.
16A lladder yn farw yr hwnn a felldithio enw’r Arglwydd, yr holl gynnulliedfa gan labyddio ai llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw[’r Arglwydd.]
17A phan laddo neb ddyn, #Exod.21.12.lladder yntef yn farw.
18A’r hwn a laddo anifail, taled efe vn byw am dano.
19A phan roddo vn amaf ar ei gymydog, fel y gwnaeth gwneler iddo.
20Torriad am dorriad, llygad am lygad, #Exod.21.24. Deut.19.21. mat.5.38.dant am dant, megis y rhoddes anaf ar ddyn, felly rhodder arno yntef.
21A’r hwn a laddo anifail ai tâl, a laddo ddyn a leddir.
22Bydded vn farn i chwi bydded i’r diethr fel i’r priodor, #Exod.12.49.myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw.
23Yna y mynegodd Moses [hyn] i feibion Israel, a hwynt a ddugasant ŷ cabludd i’r tu allan i’r gwerssyll, ac ai llabyddiasant ef a cherric, felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
Currently Selected:
Lefiticus 24: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.