YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 7

7
PEN. VII.
6 Iesu yn argyoeddu ymgymmeriad ei geraint. 12 Amryw dyb am Grist ym mhlith y bobl. 17 Efe yn dangos pa ddelw ’r adweinir y gwirionedd. 20 Y camwedd a wnaent ag ef. 47 Y Pharisæaid yn ceryddu y swyddogion am na ddalient ef, 52 Ac yn rhoddi senn i Nicodemus am ddadleu gyd ag ef.
1AC ar ôl y pethau hyn, Iesu a rodiodd i Galilæa, canys ni fynne efe orymddaith yn Iudæa: o blegit yr Iddewon a geisient ei ladd ef.
2A gŵyl yr Iddewon [sef] gŵyl y #Lefit.23.34.pebyll oedd yn agos.
3Am hynny ei frodyr ef a ddywedâsant wrtho, cerdda ymmaith oddi ymma, a dos di i Iudæa, fel y gwelo dy ddiscyblion dy weithredoedd di y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.
4Gan nad oes neb a wnâ ddim yn y dirgel, ac yntef yn ceisio bod yn enwoc: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn eglura dy hun i’r byd.
5Canys nid oedd ei frodyr yn credu ynddo.
6Yna’r Iesu a ddywedodd wrthynt hwy, ni ddaeth fy amser i etto: ond eich amser chwi sydd yn wastat yn barod.
7Ni ddichon y byd eich casâu chwi, ond efe a’m casâ i: o herwydd fy mod i yn testiolaethu am dano, am fod ei weithredoedd ef yn ddrwg.
8Ewch chwi i fynu i’r ŵyl hon, nid âfi i fynu etto i’r ŵyl hon: o blegit ni #Ioan.8.20.chyflawnwyd fy amser i etto.
9Pan ddywedodd efe y pethau hyn wrthynt hwy, efe a arhosodd yn Galilæa.
10A chyn-gynted, ac yr aeth ei frodyr ef i fynu, yna yntef a aeth i fynu i’r ŵyl, nid yn oleu, onid megis yn ddirgel.
11Yna’r Iddewon a’i ceisiâsant ef yn yr ŵyl, ac a ddywedâsant, pa le y mae efe?
12A murmur mawr oedd a’m dano ef ym mysc y dyrfa: rhai a ddywedent mai gŵr da oedd efe, eraill a ddywedent, nadê, eithr y mae efe yn twyllo’r bobl.
13Er hynny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef rhag ofn yr Iddewon.
14Ac yn awr pan ddarfu hanner yr ŵyl, Iesu a aeth i fynu i’r Deml, ac a ddyscodd [y bobl.
15A’r Iddewon a ryfeddâsant gan ddywedyd: pa fodd y gŵyr hwn yr Scrythurau, [ac yntef er ioed] heb ddyscu?
16Gan hynny ’r Iesu a’u hattebodd hwynt, ac a ddywedodd: fy nysceidiaeth nid yw eiddo maufi, eithr eiddo yr hwn a’m hanfonodd fi.
17Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff ŵybod am y ddysceidiaeth, pa vn ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru.
18Y mae yr hwn sydd yn llefaru o honaw ei hun yn ceisio ei ogoniant ei hun, ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a’i hanfonodd, hwnnw sydd gywir, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
19Oni roddes #Exod.24.3.Moses i chwi gyfraith, ac nid oes neb o honoch yn gwneuthur y gyfraith, a pha ham yr ydych yn ceisio fy lladd i?
20Y bobl a attebodd, ac a ddywedodd, y mae gennit ti gythrael: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?
21Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwythau, vn weithred a wneuthym i, ac y mae yn rhyfedd gennych oll.
22Moses am hynny a roddes i chwi #Lefit.12.3.enwaediad, (nid o herwydd ei fod o Moses eithr o’r #gen.17.10.tadau,) ac yr ydych chwi yn enwaedu ar ddŷn ar y Sabboth.
23Os yw dŷn yn derbyn enwaediad ar y Sabboth heb dorri y Sabboth, a ydych chwi yn llidiog wrthifi am wneuthur dŷn ei gyd yn iach ar y Sabboth?
24Na #Deut.1.16.fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn.
25Yna y dywedodd rhai o’r Ierusalomitaniaid: onid hwn yw yr hwn y maent hwy yn ceisio ei ladd?
26Ac wele y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a ŵybu y pennaethiaid mewn gwirionedd mai hwn sydd Grist yn wir?
27Eithr nyni a wyddom o ba le y mae hwn, a phan ddel Crist ni ŵyr neb o ba le y mae.
28Am hynny yr Iesu yn athrawiaethu yn y deml a lefodd, ac a ddywedodd, chwi a’m hadwaenoch i, ac a ŵyddoch o ba le yr ydwyfi, ac ni ddaethym i o honof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn am hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
29Ond myfi a’i hadwen: o blegit o honaw ef yr ydwyfi, ac efe am hanfonodd i.
30Am hynny hwynt hwy a geisiasant ei ddal, ond ni osododd neb law arno ef, am na ddaethe ei awr ef etto.
31A llawer o’r bobl a gredasant ynddo ef, ac a ddywedâsant: pan ddelo Christ a wna efe fwy o arwyddion nâ’r rhai hyn y rhai a wnaeth hwn?
32Y Pharisæaid a glywsant y bobl yn grwgnach hyn am dano ef, a’r Pharisæaid a’r arch-offeiriaid a anfonasant swyddogion iw ddal ef.
33Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, yr wyfi ychydig o amser gyd â chwi, yna yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd.
34Chwi #Ioan.13.33.a’m ceisiwch, ac ni’m cewch, ac lle yr ydwyfi ni ellwch chwi ddyfod.
35Am hynny y dywedodd yr Iddewon yn eu mysc eu hun: i ba le yr aiff hwn fel na chaffom ni ef? a aiff efe at y rhai a wascarwyd ym mysc y Groegiaid, ac a ddysc efe y Groegiaid?
36Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe? chwi a’m ceisiwch, ac ni’m cewch, ac lle yr ydwyfi ni ellwch chwi ddyfod.
37Ac ar y #Lefit.23.36.dydd mawr diwethaf o’r ŵyl yr Iesu a safodd, ac a lefodd gan ddywedyd, od oes ar neb syched, deued attafi, ac yfed.
38Yr hwn sydd yn credu ynofi (megis y dywedodd yr scrythyr) afonydd o ddwfr bywiol a ddilifant o’i groth ef.
39(A hyn a ddywedodd efe am yr #Ioel.2.28. Act.2.17.Yspryd, yr hwn a gae y rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys etto ni buase yr Yspryd glân, am na ogoneddasid yr Iesu etto)
40Am hynny llawer o’r bobl, wedi clywed yr ymmadrodd [hwn] a ddywedasant, yn wir hwn yw’r #Deut.18.15.prophwyd.
41Eraill a ddywedasant, hwn yw Crist, ac eraill a ddywedasant, ai o’r Galilæa y daw Crist?
42Ond ydyw yr #Mich.5.2. math.2.5.scrythyr yn dywedyd, mai o hâd Dafydd, ac o dref Bethlehem lle y bu Dafydd, y daw Crist?
43Felly yr aeth ymbleidio ym mysc y bobl o’i blegit ef.
44A rhai o honynt a fynnasent ei ddal ef, ond ni osododd neb ddwylo arno ef.
45Felly y daeth y swyddogion at yr archoffeiriaid a’r Pharisæaid, ac hwynt hwy a ddywedasant wrthynt hwy: pa ham na ddugasoch chwi ef?
46A’r swyddogion a attebasant, ni lefarodd dyn er ioed fel y dŷn hwn.
47Yna y Pharisæaid a attebasant, a hudwyd chwithau?
48A gredodd neb o’r pennaethiaid ynddo ef, neu o’r Pharisæaid?
49Eithr y gwerin hyn y rhai ni ŵyddant y gyfraith sydd felldigedig.
50Nicodemus a ddywedod wrthynt, (yr #Ioan.3.2.hwn a ddaethe at yr Iesu [liw] nos, ac oedd vn o honynt hwy)
51A ydyw ein #Deut.17.8. & 19.15.cyfraith ni yn barnu neb oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gŵybod beth a wnaeth efe?
52Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef: a ydwyt tithe o Galilæa? chwilia a gwêl na chododd prophwyd o Galilæa.
53Ac fe aeth pob vn iw dŷ.

Currently Selected:

Ioan 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in