YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 21

21
PEN. XXI.
Y discyblion yn pyscotta yn ofer nes ymddangos o Grist iddynt, ac yn pyscotta wrth archiad Crist, ac yn ffynnu, 13 yr Iesu yn torri y bara a’r pyscod, 15 Iesu yn gorchymyn porthi ei ddefaid, 18 ac yn dangos i Betr y bydde raid iddo ddioddef hefyd, 20 Geiriau Crist a Phetr yng-hylch Ioan Efengyl-wr.
1Gwedi hynny yr ymddangosodd yr Iesu eil-waith iw ddiscyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymddangosodd.
2Simon Petr a Thomas, hwn a elwir Didymus, a Nathanael yr hwn oedd o Cana yn Galilæa, a [meibion] Zebedêus a dau eraill o’i ddiscyblion ef oeddynt yng-hŷd.
3A dywedodd Simon Petr wrthynt, mi a âf i byscotta: hwythau a ddywedasant, ninnau a awn gyd â thi, ac hwy a aethant, ac yn y man hwy a ddringâsant i’r llong, ac ni ddaliasant hwy ddim y nôs honno.
4Ac yn awr wedi dyfod y boreu, yr Iesu a safodd ar y lann: ond ni ŵydde y discyblion mai Iesu ydoedd.
5Yna Iesu a ddywedodd wrthynt, ô blant a oes gennwch ddim bwyd? attebasant iddo, nac oes.
6Yntef a ddywedodd wrthynt, bwriwch allan y rhwyd i’r tu dehau i’r llong, a chwi a gewch, felly y bwriasant allan, ac ni allent ei thynnu rhag maint lliaws y pyscod.
7Yna y dywedodd y discybl yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu wrth Petr: yr Arglwydd yw efe, yna Simon Petr pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregysodd ei amwisc (canys noeth oedd efe,) ac a’i bwriodd ei hun i’r môr.
8Eithr y discyblion eraill a ddaethant mewn llong, (o blegit nid oeddynt bell oddi wrth dir ond yng-hylch dau-cant cufydd) dan dynnu y rhwyd [yn llawn] pyscot,
9A chyn gynted y daethant i dîr, hwy a welent farwar a physcod wedi eu dodi arnynt, a bara.
10Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Moeswch ymma [rai] o’r pyscod a ddaliasoch yr awron.
11Simon Petr a escynnodd, ac a dynnodd y rhwyd i dir yn llawn o byscod mawrion, cant a thri ar ddêc a deugain, ac er bod cymmaint, ni thorodd y rhwyd.
12Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, dewch cinniewch, ac ni feiddie vn o’r discyblion ofyn iddo, pwy wyt ti? am eu bod yn gŵybod mai yr Arglwydd oedd efe.
13Yna y daeth yr Iesu, ar a gymmerth fara, ac a’i dodes iddynt, a’r pyscod yr vn modd.
14Dymma yr awr hon y drydedd waith yr ymddangosod Iesu iw ddiscyblion, wedi iddo adgyfodi o feirw.
15Ac wedi iddynt giniâwa, Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyng-haru i, yn fwy nag y [mae] y rhai hyn? efe a ddywedodd, ydwyf, Arglwydd: ti a ŵyddost y caraf di: yna y dywedodd wrtho, portha fy ŵyn.
16Ac efe a ddywedodd wrtho eil-waith, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyng-haru i? yntef a ddywedodd wrtho, ydwyf Arglwydd, ti a ŵyddost fy môd yn dy garu: efe a ddywedodd wrtho, portha fy nefaid.
17Ac efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon [Mab] Iona, a wyt ti yn fyngharu i? [a] Phetr a dristâodd, am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, a wyt ti yn fyngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho: Arglwydd ti a ŵyddost bob peth, ti a ŵyddost y caraf di, Iesu a ddywedodd wrtho: portha fy nefaid.
18Yn wîr, yn wir meddaf i ti, pan oeddit iangach ti a ymwregysit, ac a rodiit lle mynnit, eithr pan fych hên, ti a estynni dy ddwylaw, ac arall a’th wregysa, ac a’th arwain lle ni byddo ewyllys gennit.
19A hyn a ddywedodd efe gan arwyddo, drwy ba fath angeu y gogonedde efe Dduw, ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, canlyn fi.
20Yna y troes Petr, ac y gwelodd y discybl yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn, yr hwn hefyd #Ioan.13.23.a bwysase ar ei fron ef ar swpper, ac a ddywedase: Arglwydd pwy yw hwnnw a’th fradycha di?
21Gan hynny pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrth Iesu, Arglwydd, beth [am] hwn?
22 # 21.22-25 ☞ Yr Efengyl ar ddigwy Ioan Efangyl-wr. Yr Iesu a ddywedodd wrtho: os ewyllysiaf iddo aros oni ddelwyf, beth [yw hynny] i ti? canlyn di fy-fi.
23Yna yr aeth y gair hwn ym mhlith y brodyr, na fydde y discybl hwnnw farw: eithr ni ddywedase Iesu wrtho na fydde efe farw, ond, os ewyllysiaf iddo aros oni ddelwyf, beth [yw hynny] i ti?
24Dymma y discybl hwnnw, yr hwn sydd yn testiolaethu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a ŵyddom fod ei destiolaeth ef yn wîr.
25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai pe scrifennid bob yn vn, #Ioan.20.30.ac vn, nid wyf yn tybied y cynhwyse y byd y llyfrau a scrifennid, Amen.
Terfyn y sanctaidd Efengyl yn ôl S. Ioan.

Currently Selected:

Ioan 21: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in