YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 17

17
PEN. XVII.
Gweddi Crist at Dduw Tad yn gyntaf am ogoniant iw enw. 9 Yna dros ei ddiscyblion. 20 A thros yr holl eglwys.
1Y Pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd. Y Tâd, daeth yr a wr, gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo yr Fab dithe.
2Fel y rhoddaist iddo feddiāt ar bôb cnawd, i roddi o honaw ef fywyd tragywyddol i bôb vn a’r a roddaist iddo.
3A hyn yw’r bywyd tragywyddol, dy adnabod ti yn vnic wîr Dduw, a’r hwn a anfonaist ti, Iesu Crist.
4Mi a’th ogoneddais di ar y ddaiar, mi a gwblheais y gwaith a roddaist i’m iw wneuthur.
5Ac yr awron gogonedda fi (ô Dâd) gyd â thi dy hun, â’r gogoniant yr hwn oedd i mi gyd â thi cyn bôd y bŷd.
6Eglurais dy enw i’r dynion, a ddodaist i mi o’r byd: eiddot ti oeddynt, ac i mi y dodaist hwynt, a hwy a gadwasant dy air di.
7Yr awr hon y gwyddant, fod y pethau oll a roddaist i mi oddi wrthit ti.
8Canys y geiriau a roddaist i mi a roddais iddynt, y rhai a gymmerasant hwy, ac a ŵyddant yn wîr ddyfod #Ioan.16.27.o honof oddi wrthit ti, ac a gredâsant mai tydi a’m hanfonodd.
9Trostynt hwy yr ŵyf fi yn gweddio, nid tros y bŷd yr wyf yn gweddio, ond tros y rhai a roddaist i mi, canys eiddot ydynt.
10A’r eiddofi oll sydd eiddot ti, a’r eidot ti sydd eiddofi, ac mi a ogoneddwyd ynddynt.
11Ac nid ŵyf mwyach yn y bŷd, ond y rhai hyn sydd yn y bŷd, a myfi sydd yn dyfot attat y Tâd sancteiddiol, cadw drwy dy enw, y rhai a roddaist i mi, fel y byddont vn megis ninnau.
12Tra fum gyd â hwynt yn y bŷd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhaî a roddaist i mi a gedwais, #Ioan.18.9.ac ni chollwyd vn o honynt, ond mab y cyfyrgoll, er cyflawni yr scrythur.
13Yr awr hon yr ydwyf yn dyfod attat, #Psal.109.8. act.1.1,16.a’r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, i gael o honynt fy llawenydd yn gyflawn ynddynt.
14Dodais iddynt dy air, a’r bŷd ai casâodd, am nad ydynt o’r bŷd, fel nad wyf finne o’r býd.
15Nid wyf yn gweddio ar i ti eu tynnu hwynt o’r bŷd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y Drwg.
16Nid ynt hwy o’r bŷd, megis ac nid wyf finne o’r bŷd.
17Sancteiddia hwynt â’th wirionedd, dy air yw’r gwirionedd.
18Fel yr anfonaist fi i’r bŷd, felly yr anfonais i hwythau i’r bŷd.
19Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddo fy hun, fel y byddo hwynt wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.
20Nid trostynt hwy yn vnic yr wyf yn gweddio, eithr tros y rhai hefyd a gredant ynof trwy eu hymmadrodd hwynt.
21Fel y byddant oll yn vn, fel yr wyt ti y Tâd ynof fi a minne ynot ti, fel y byddont hwythau yn vn ynom ni, fel y credo y bŷd mai dy di a’m hanfonodd i.
22Ac mi a roddais iddynt hwy y gogoniant a roddaist i mi, fel y byddont vn megis yr ydym ni vn.
23Myfi ynddynt hwy, a’ thithe ynof fi, fel y bônt berffaith yn vn: fel y gŵybyddo y byd mai tydi a’m hanfonodd: a’th fod ti yn eu caru hwynt, megis y ceraist fi.
24Y Tâd, ewyllysio yr wyf, am y rhai a roddaist ti i mi, eu bôd hwy gyd â mi lle y bwyf fi, fel y gwelant fyng-ogoniant a roddaist i mi, canys ceraist fi cyn seiliad y bŷd.
25Tâd cyfiawn, nid adnabu y bŷd mo honot, eithr mi a’th adnabum, a’r rhai hyn a ŵybuant mai dy di a’m hanfonodd i.
26Mi a yspysais iddynt dy enw, ac a’i yspysaf: fel y byddo y cariad â’r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minne ynddynt hwy.

Currently Selected:

Ioan 17: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in