YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 14

14
PEN. XIIII.
Iesu yn cyssuro ei ddiscyblion erbyn blinder. 6 Yn dangos mai efe yw’r ffordd at y Tad. 16 Yn addo yr Yspryd glân iddynt. 21 Ac yn eu rhybuddio am ei fynediad at y Tad.
1 # 14.1-14 ☞ Yr Efyngil ar ddigwyl Philip ac Iaco. Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynofi hefyd.
2Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfannau, a phe amgen mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi.
3A phan elwyf, a pharatoi lle i chwi, mi a ddeuaf eilwaith ac a’ch cymmeraf ataf fy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd.
4A chwi a ŵyddoch i ba le yr wyfi yn myned, a’r ffordd a ŵyddoch.
5Dywedodd Thomas wrtho: ô Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le yr aei di, am hynny pa wedd y gallwn ni ŵybod y ffordd?
6A’r Iesu a ddywedodd wrtho ef. Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwof fi.
7Pes adnabasech fi, fy Nhad hefyd a adnabasech: ac weithian yr adwaenoch ef, a chwi a’i gwelsoch ef.
8Dywedodd Philip wrtho: ô Arglwydd, dangos i ni y Tad, a digon i ni [hynny.]
9Yr Iesu a ddywedodd, a ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac ni adnabuoch fi? Philip, y neb a’m gwelodd i, a welodd y Tad, pa wedd wrth hynny y dywedi di? dangos i ni y Tad.
10Onid wyt yn credu fy môd i yn y Tad, a’r Tad ynof-inne? y geiriau y rhai yr wyfi yn eu traethu wrthych, nid o honofi fy hun yr wyf yn eu traethu, ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
11Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof-inne: ond ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd.
12Yn wîr yn wîr meddaf i chwi yr hwn a gredo ynofi, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, yntef a’u gwna, a mwy nâ’r rhai hynny a wna efe: canys at y Tad yr wyf yn myned.
13 # Math.7.7. Marc.11.14. Ioa.16.23. A pha beth bynnac a ofynnoch yn fy enw, hynny a wnaf, fel y gogonedder y Tad yn y Mab.
14Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a’i gwnaf.
15 # 14.15-31 ☞ Yr Efengyl ar ddydd y Sulgwyn. O cherwch fi, cedwch fyng-orchymynnion.
16A mi a weddiaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi ddiddanwr arall, i aros gyd â chwi yn dragywyddol:
17Yspryd y gwirionedd yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, ac am nad yw yn ei adnabod ef. Ond chwi a’r hadwaenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe,
18Nis gadawaf chwi yn ymddifaid, mi a ddeuaf attoch chwi.
19Etto ennyd bach, a’r byd ni’m gwêl mwy: eithr chwi a’m gwelwch: canys byw wyfi, a byw fyddwch chwithau.
20Y dydd hwnnw y gŵybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwi ynofi, a mine ynoch chwithau.
21Y neb sydd a’m gorchymynnion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw’r hwn sydd yn fyng-haru i: a’r sawl sydd yn fyng-haru i a gerir gan fy Nhad i, a minne a’i caraf ef, ac a’m hegluraf fy hûn iddo ef.
22Dywedodd Iudas wrtho: (nid yr Iscariotes) ô Arglwydd, pa beth yw’r achos yr egluri dy hun i ni, ac nid i’r bŷd?
23A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho: os câr neb fi, efe a geidw fyng-air, a’m Tâd di câr yntef: a nyni a ddeuwn atto, ac a arhoswn gyd ag ef.
24Y neb ni’m câr i, ni cheidw mo’m geiriau, a’r gair a glywsoch, nid eiddo fi ydyw, ond eiddo y Tâd yr hwn a’m hanfonodd i.
25Hyn a ddywedais wrthych yn aros gyd â chwi.
26 # Ioan.15.20. Eithr y diddanudd [sef] yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, hwnnw a ddysc i chwi bob peth, ac a eilw bob peth yn eich cof chwi, a’r a ddywedais i wrthych.
27Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangneddyf yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi, nid fel y mae y byd yn rhoddi yr wyf fi yn rhoddi, na thralloder eich calon, ac nac ofned.
28Clywsoch fel y dywedais wrthych: yr wyf yn myned ymmaith, a deuaf attoch, pe carasech fi, llawenasech, am i mi ddywedyd: yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhâd yn fwy nâ myfi.
29Ac yr awr hon y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel y credoch pan ddelo.
30Yn ôl hyn ni ddywedaf nemmawr wrthych: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ond nid yw efe yn cael dim ynofi.
31Ond fel y gwypo yr bŷd fy mod i yn caru y Tad, ac megis y gorchymynnodd y Tâd i mi, felly yr wyf yn gwneuthur. Codwch, awn oddi ymma.

Currently Selected:

Ioan 14: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in