YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 12

12
PEN. XII.
Mair yn eneinio traed yr Iesu ag enaint. 4 Iudas yn grwgnach. 10 Yr Iddewon yn ceisio dal Crist a Lazarus. 14 Iesu yn marchogeth yr assyn. 28 Gogonedd Crist o’r nef. 42 Rhai yn credu ac heb gyffesu.
1Yna #Math.26.6. Marc.14.3.yr Iesu chwe diwrnod cyn y Pasc a ddaeth i Bethania lle yr oedd Lazarus yr hwn a fuase farw, yr hwn a godase efe o farw.
2Yno y gwnaethant iddo ef swpper, a Martha oedd yn gwasanaethu: a Lazarus oedd vn o’r rhai a eisteddent gyd ag ef.
3Yna y cymmerth Mair bwys o enaint nard gwlyb, gwerthfawr, ac a eneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd eu draed ef â’i gwalt, a’r tŷ a lanwyd gan aroglau yr enaint.
4Am hynny y dywedodd vn o’i ddiscyblion ef [sef] Iudas [mab] Simon Iscariotes yr hwn oedd ar ei fradychu ef,
5Pa ham na werthid yr enaint hwn er trychant ceiniog, ai roddi i’r tlodion?
6Ac efe a ddywedodd hyn, nid o herwydd ei fod yn gofalu dros y tlodion, ond am ei fod efe yn lleidr, ac yn cadw yr #Ioan.13.29.pwrs, ac yn arwain yr hyn a roddid ynddo.
7A’r Iesu a ddywedodd: gedwch iddi, erbyn dydd fyng-hladdedigaeth y cadwodd hi hyn.
8Canys yr ydych chwi yn cael y tlodion bob amser gyd â chwi, ond ni’m cewch fi bob amser.
9Felly tyrfa fawr o’r Iddewon a wybu ei fod efe yno, ac a ddaethant nid er mwyn yr Iesu yn vnic, ond er mwyn gweled Lazarus hefyd, yr hwn a godase efe o feirw.
10Yna yr ymgynghorodd yr arch-offeiriaid am ladd Lazarus hefyd:
11Am fyned o lawer o’r Iddewon ymmaith o’i achos ef, a chredu yn yr Iesu.
12 # Math.21.8. Marc.11.8. Luc.19.35. Trannoeth tyrfa fawr, yr hon a ddaethe i’r ŵyl, pan glywsant ddyfod o Iesu i Ierusalem,
13Hwy a gymmerasant geingciau o’r palmwŷdd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna, #Psal.118.26.bendigedic yw’r neb sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd, yn Frenin ar Israel.
14A’r Iesu a gafodd assynnau, ac a eisteddodd arni, megis y mae yn scrifennedic:
15Nac ofna ô ferch Sion: #Zach.9.9.wele, dy Frenin yn dyfod gan eistedd ar ebol assyn.
16Ac ni ŵybu ei ddiscyblion ef beth oedd hyn ar y cyntaf, eithr wedi gogoneddu yr Iesu, yna y cofiâsant fod y pethau hyn yn scrifennedic am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
17A’r dyrfa yr hon oedd gyd ag ef pan alwodd efe Lazarus o’r bedd, a’i godi ef o farw, a ddug destiolaeth.
18Am hynny, y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed o honynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19A’r Pharisæaid a ddywedâsant yn eu plith eu hunain, a welwchi nad ydych chwi yn tyccio dim? wele y mae y byd [oll] yn myned ar ei ôl ef.
20Ac yr oedd rhai Groegiaid o’r rhai ddaethent i fynu i addoli ar yr ŵyl.
21A’r rhai hynny a ddaethant at Philip yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilæa, ac a ofynnâsant iddo, gan ddywedyd, arglwydd: ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
22Ac Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas, Andreas hefyd a Philip a ddywedâsant i’r Iesu.
23A’r Iesu a attebodd iddynt, fe ddaeth yr awr y gogoneddir Mab y dŷn.
24Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi: oni syrth y gronyn gwenith i’r ddaiar a marw, hwnnw a erys yn vnic, eithr os bydd efe marw, efe a ddwg lawer o ffrwyth.
25Y #Math.10.39. Marc.8.35. Luc.9.24.neb a garo ei enioes a’i cyll hi, a’r neb a gasâo ei enioes yn y byd hwn, a’i ceidw hi i fywyd tragywyddol.
26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi, #Ioan.17.24.a pha le bynnac y byddwyf fi, yna y bydd fyngweinidog i hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tad a’i hanrhydedda ef.
27Y mae fy enaid yr awr hon yn drallodus, a pha beth a ddywedaf, ô Dad gwaret fi rhag yr awr hon, eithr er mwyn hyn y daethym i’r awr hon.
28Oh Dad gogonedda dy enw, yna y daeth llef o’r nef: [sef] mi a’i gogoneddais, ac a’i gogoneddaf eil-waith.
29A’r dyrfa yr hon oedd yn sefyll, ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedâsant, Angel a ymddiddanodd ag ef.
30A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, nid o’m hachos i y bu y llais hwn: ond o’ch achos chwi.
31Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
32A minne os derchefir fi oddi ar y ddaiar, a dynnaf bawb attaf fy hun.
33A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo, o ba angeu y bydde farw.
34A’r dyrfa a attebodd iddo, ni a glywsom #Psal.89.36. Ezech.37.25.o’r ddeddf fod Crist yn aros yn dragywyddol: pa wedd wrth hynny y dywedi di fod yn rhaid derchafu Mab y dŷn? pwy ydyw hwnnw, Mab y dyn?
35A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, etto ychydig ennyd y mae y #Ioan.1.9.goleuni gyd â chwi: rhodiwch tra fyddo i chwi oleuni, rhag i’r tywyllwch eich goddiwes, a’r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni ŵyr i ba le yr êl.
36Tra fyddo gennych oleuni credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni, hyn a ddywedodd yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
37Ac er gwneuthur o honaw ef gymmaint o wrthiau yn eu gwydd hwynt, ni chredâsant ynddo.
38Fel y cyflawnid ymadrodd #Esai.53.1.Esaias y prophwyd, yr hwn a ddywedodd efe: ô Arglwydd pwy a gred ein ymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
39Am hynny ni allent gredu, am i Esaias ddywedyd eil-waith.
40 # Esai.6.9.|ISA 6:9. Math.13.14. Marc.4.12. Luc.8.10. Act.28.26. Rom.11.8. Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon, fel na’s gwelent â’u llygaid, na deall â’u calon, nac ymchwelyd, ac i mi eu hiachâu hwynt.
41Y pethau hyn a ddywedodd Esaias, pan welodd ei ogoniant ef, a phan lefarodd am dano ef.
42Er hynny llawer o’r pennaduriaid a gredasant ynddo, ond o blegit y Pharisæaid, ni chyffesasant rhag eu rhoi allan o’r Synagog.
43 # Ioan.5.41. Canys hwy a garent foliant dynion yn fwy nâ moliant Duw.
44A’r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid ynof fi y mae efe yn credu, ond yn yr hwn a’m danfonodd i.
45A’r hwn sydd yn fyng-weled i sydd yn gweled yr hwn a’m anfonodd i.
46Mi a ddaethym #Ioan.3.19.yn oleuni i’r byd, fel na’d arhose neb mewn tywyllwch a’r y sydd yn credu ynof fi.
47Ac os clyw neb fyng-eiriau, ac ni chred, nid ydwyf fi yn ei farnu ef, am na ddaethym i farnu y byd, eithr i achub y byd.
48Y sawl a’m dirmygo i, ac ni dderbyn fyngeiriau, y mae iddo ef vn a’i barn: y #Marc.16.16.gair a ddywedais i, hwnnw a’i barn ef yn y dydd diweddaf.
49Canys ni leferais i o honof fy hun, ond y Tad yr hwn a’m hanfonodd i, efe a orchymynnodd i mi beth a ddywedwn, a pheth a lefarwn.
50A mi a wn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragywyddol, am hynny y pethau yr wyfi yn eu llefaru, felly yr wyf yn llefaru, fel y dywedodd y Tâd wrthif.

Currently Selected:

Ioan 12: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in