YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 1

1
PENNOD. I.
Duwdab, dyndab, a swydd Iesus Grist, 15 Testiolaeth Ioan, 39 Galwedigaeth Andreas, Petr, Philip, a Nathanael.
1 # 1.1-14 ☞ Yr Efengyl ar ddydd nadalic Crist. Yn y dechreuad yr oedd y gair, a’r gair oedd gyd â Duw, a Duw oedd y gair.
2Hwn oedd yn y dechreuad gyd â Duw.
3Trwyddo ef y gwnaeth-pwyd pob peth, ac hebddo ef ni wnaed dim a’r a wnaethpwyd.
4Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion.
5A’r goleuni a lewyrchodd yn yr tywyllwch, a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan.
7Hwn a ddaeth yn destiolaeth, fel y testiolaethe efe am y goleuni, fel y crede pawb trwyddo ef.
8Nid efe oedd y goleuni hwnnw, eithr i destiolaethu am y goleuni.
9[Hwnnw] oedd y gwîr oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd.
10Yn y byd yr oedd efe, #Heb.11.3. Rhuf 1.21. Act.14.15.a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef: a’r byd * nid adnabu ef.
11At ei eiddo ei hun y daeth efe, a’i eiddo ei hun ni’s derbynniasant ef.
12Ond cynnifer a’r a’i derbynniasant ef, efe o roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, [sef] i’r sawl a gredent yn ei enw ef,
13Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw,
14A’r #Math.1.16. Luc.2.7.gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac #Math.17.2. 2.Pet.1.17.ni a welsom ei ogoniant ef, megis gogoniant yr vnic-ganedic [Fab yn dyfod] oddi wrth y Tad) #Col.1.19. & 2.9.yn llawn grâs, a gwirionedd.
15Ioan a destiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd: hwn oedd yr vn a ddywedais am dano, #isod.g.30.yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i, canys yr oedd efe o’m blaen i.
16Ac o’i gyflawnder ef nyni oll a dderbynniasom, a grâs am râs.
17Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, [ond] grâs a gwirionedd a daeth trwy Iesu Grist.
18 # 1.Tit.6.16.(sic.) 1.Ioh.4.12.Ni welodd neb Dduw er ioed: yr vnic-enedic Fab, yr hwn sydd ym monwes y Tâd, hwnnw a’i hyspysodd [ef.]
19 # 1.19-28 ☞ Yr Efengyl y pedwerydd Sul o’r Adfent. A hyn yw testiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon offeiriaid, a Lefiaid o Ierusalem i ofyn iddo, pwy ydwyt ti?
20Yna efe a gyffessodd, ac ni wadodd, ac efe a oddefodd, nid #Act.13.25.myfi yw’r Crist.
21A hwyntau a ofynnasant iddo, beth yntef? a’i Elias ydwyt ti? dywedodd yntef, Nagê, a’i #Mal.4.5. Deut.18.15.prophwyd ydwyt ti? ac efe a attebodd, Nagê.
22Yna y dywedasant wrtho ef, pwy ydwyt ti, fel y rhoddom ni atteb i’r rhai a’n hanfonodd ni? beth meddi di am danat dy hun?
23Eb yr efe, myfi [ydwyf] llef vn yn gweiddi yn y diffaethwch, Iniawnwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd #Esa.40.3. Math.3.3. Luc.3.4.Esay y prophwyd.
24A’r rhai a anfonasid oeddynt o’r Pharisæaid,
25A hwynt a ofynnasant iddo ef, ac a ddywedasant wrtho, pa ham gan hynny yr ydwyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti y Crist, na Elias, na’r prophwyd?
26Ioan a’u hattebodd hwynt, gā ddywedyd: Myfi sy yn bedyddio â dwfr, ond y mae vn yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwaenoch.
27 # Math.3.11. Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a daeth o’m blaen i, yr hwn nid ydwyfi deilwng i ddattod carre ei escid.
28Y pethau hyn a wnaed yn Bethabara y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod atto ef, ac efe a ddywedodd, wele oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau yr byd.
30Hwn yw efe, am yr hwn y dywedais, ar #Vchod.g.15.fy ôl y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a wnaed yn gynt nâ mi, canys yr oedd efe o’m blaen i.
31Ac nid adwaenwn i mo honaw ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, am hynny y daethum i, gan fedyddio â dwfr,
32Ac Ioan a destiolaethodd, gan ddywedyd: yn ddiau #Math.3.16. Marc.1.10. Luc.3.22.mi a welais yr Yspryd yn descyn megis colommen o’r nêf, ac efe a arhosodd arno ef.
33A nid adwaenwn i ef, ond yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedasse wrthif: ar yr hwn y gwelech yr Yspryd yn descyn, ac yn aros arno, hwnnw yw yr vn sydd yn bedyddio â’r Yspryd glân.
34Ac mi a welais, ac a destiolaethais, mai hwn yw Mab Duw.
35Trannoeth y safodd Ioan eil-waith, a dau o’i ddiscyblion:
36A phan welodd efe yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele’r oen Duw.
37A’r ddau ddiscybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
38Yna Iesu a droes, a phan welodd hwynt yn ei ganlyn ef, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? a hwynt a ddywedasant wrtho ef. Rabbi (yr hyn oi ddeongli yw Athro) pa le yr ydwyt ti yn trigo?
39Efe a ddywedodd wrthynt, deuwch, a gwelwch, hwyntau a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arhosasant gyd ag ef y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi yng-hylch y ddecfed awr.
40Andreas, brawd Simon Petr oedd vn o’r ddau a glywsent [hynny] gan Ioan, ac ill dilynasent ef.
41Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho: Nyni a gawsom y Messias, yr hwn o’i ddeongli yw Crist.
42Ac efe ai dug ef at yr Iesu, a’r Iesu a edrychodd arno ef [ac] a ddywedodd: Ti ydwyt Simon mab Iona a ti a elwir Cephas, yr hwn o’i ddeongli yw craig.
43Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned i Galilæa, ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi,
44A Philip oedd o Beth-saidd, o ddinas Andreas, a Phetr.
45Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, nyni a gawsom Iesu fab Ioseph hwnnw o Nazareth, am yr hwn yr scrifennodd #Genes.49.10. deut.18.18. Esay.40.10. & 42.10. & 45.8. Iere.23.5. Ezec.34.23. & 37.24. Dan. 9,24.Moses yn y gyfraith, *a’r prophwydi.
46A Nathanael a ddywedodd wrtho ef, a ddichon dim dâ ddyfod o Nazareth? Philip a ddywedodd wrtho ef, Tyret ti a gwêl.
47Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod atto ef, ac a ddywedodd am dano: wele Israeliad yn wîr, yn yr hwn nid oes dwyll.
48Nathanael a ddywedodd wrtho, pa fodd i’m hadwaenost? Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di pan oeddit tann y ffigus-bren, mi a’th welais di.
49Nathanael a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef: Rabbi, ti ydwyt Fab Duw, ti ydwyt Frenin Israel.
50Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef: o herwydd i mi ddywedyd wrthit ti, Mi a’th welais di tann y figus-bren, yr ydwyt ti yn credu, ti a gei weled pethau mwy nâ’r rhai hyn.
51Ac efe a ddywedodd wrtho, yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwêlwch y nêf yn agored, ac #Genes.28.12.angelion Duw yn escyn, ac yn descyn ar Fab y dyn.

Currently Selected:

Ioan 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in