YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 9

9
PEN. IX.
Duw yn bendithio Noah ai feibion 3 yn caniatâu bwyta cig. 4 Ac yn gwahardd gwaed. 9 Duw yn addo na ddifethir y byd mwy trwy ddwfr. 12. Yr enfys yn wystl o hynny. 21 Meddwdod Noah. 22 Cam yn amherchi ei dâd, 25 ei dâd yn ei felldigo yntef 29 oedran a marwolaeth Noah.
1Duw hefyd a fendithiodd Noah, ai feibion: ac a ddywedodd wrthynt, ffrwythwch, a lluosogwch a llenwch y ddaiar.
2Eich ofn hefyd, a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaiar, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a sathr ar y ddaiar, ac ar holl byscod y môr: yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
3Pôb ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lyssieun y rhoddais i chwi bôb dim.
4 # Gene.1.29. Lefit.17.14. Er hynny na fwytewch gîg yng-hyd ai enioes [sef] ei waed.
5Canîs yn ddiau gwaed eich enioes chwithaw hefyd a ofynnaf fi, o law pôb bwyst-fil y gofynnaf ef; ac o law dŷn, o law pôb brawd iddo, y gofynnaf enioes dŷn.
6A #Mat.26.52.|MAT 26:52. gwel.13.10.dywalldo waed dŷn, drwy ddŷn y tyweldir ei waed yntef, o herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddŷn.
7Ond ffrwythwch, ac amlhewch, heigiwch ar y ddaiar, a lluosogwch ynddi.
8Duw a lefarodd wrth Noah, ac wrth ei feibion gyd ag ef: gan ddywedyd,
9Wele fi hefyd yn cadarnhau fyng-hyfammod a chwi, ac a’ch hâd chwi ar eich ôl chwi.
10Ac â phôb peth byw’r hwn [sydd] gyd a chwi, a’r ehediaid, a’r anifeiliaid, ac a phôb bwyst-fil y tîr gŷd a chwi, o’r rhai oll ydynt yn myned allan o’r Arch: drwy holl fwyst-filod y ddaiar.
11Ac #Esai.54.9.mi a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi, fel na thorrir ymmaith bôb cnawd mwy gan y dwfr diluw, ac ni byddo diluw mwy i ddifetha y ddaiar.
12A Duw a ddywedodd, dymma arwydd y cyfammod yr hwn yr ydwyfi yn ei roddi rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw yr hwn [sydd] gyd a chwi, tros oesoedd tragywyddol.
13Fy mŵa a roddais yn y cwmmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngofi a’r ddaiar.
14A bydd pan #Eccle.43.12.godwyf gwmwl ar y ddaiar, ac ymddangos o’r bŵa yn y cwmwl,
15Y cofiaf fyng-hyfammod yr hwn [sydd] rhyngofi a chwi, ac a phôb peth byw o bôb cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddiluw mwy, i ddifetha pôb cnawd.
16A’r bŵa a fydd yn y cwmwl; ac mi a edrychaf arno ef i gofio cyfammod tragywyddol, rhwng Duw a phôb peth byw, o bôb cnawd yr hwn [sydd] ar y ddaiar.
17A Duw a ddywedodd wrth Noah, dymma arwydd y cyfammod yr hwn a gadarnheais rhyngofi, a phôb cnawd: yr hwn sydd ar y ddaiar.
18A meibion Noah y rhai a ddaeth allan o’r Arch, oeddynt Sem, Cam, ac Iapheth: a Cham hwnnw [oedd] dâd Canaan.
19Y tri hyn [oeddynt] feibion Noah: ac o’r rhai hyn yr eppiliodd yr holl ddaiar.
20A Noah a ddechreuodd [fod] yn llafurwr, ac a blannodd win-llan.
21Ac a yfodd o’r gwîn, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng-hanol ei babell.
22Yna Cam tâd Canaan a welodd noethni ei dâd, ac a fynegodd iw ddau frodyr allan.
23Yna y cymmerodd Sem, ac Iapheth, ddilledyn, ac ai gossodasant ar eu hyscwyddau ill dau, ac a gerddasant yn-wysc eu cefn, ac a orchguddiasant noethni eu tâd: ai hwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24Yna y a ddeffrôdd Noah oi wîn, ac a wybu beth a wnaethe ei fab ieuangaf iddo.
25Ac efe a ddywedodd, melltigêdic [fyddo] Canaan, gwâs gweision iw frodyr fydd.
26Ac efe a ddywedodd, bendigêdic yw Arglwydd Dduw Sem, a Chanaan fydd wâs iddynt.
27Duw a helaetha ar Iapheth, ac efe a bresswylia ym mhebyll Sem: a Chanaan fyddo wâs iddynt hwy.
28A Noah fu fyw wedi yr diluw, dry-chan mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain.
29Felly holl ddyddiau Noah oeddynt, naw can mlhynedd, a deng mlhynedd a deugain ac efe a fu farw.

Currently Selected:

Genesis 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in