YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 7

7
PEN. VII.
1 Mynediad Noah ai eiddo i’r Arch 17 y diluw yn dyfod, ac yn difetha y rhann arall o’r byd.
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, dôs di, a’th holl dŷ i’r Arch: canys tydi a #2.pet,2.5.welais i yn gyfiawn yn yr oes hon, ger fy mron i.
2O bôb anifail glân y cymmeri gyd a thi bôb yn saith, y gwryw ai fanyw, a dau o’r anifailiaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw ai fanyw:
3O ehediaid y nefoedd hefyd, bôb yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw hâd yn fyw, ar wyneb yr holl ddaiar.
4O blegit wedi saith niwrnod etto, mi a lawiaf ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs: a mi a ddeleaf oddi ar wyneb y ddaiar bôb peth byw a’r a wneuthum i.
5 # Mat.24.37.|MAT 24:37. Luke 17.26.|LUK 17:26. 1.Pet.3.20 A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynnase yr Arglwydd iddo.
6Noah hefyd [ydoedd] fâb chwe chan mlwydd, pan fu y diluw dyfroedd ar y ddaiar.
7Yna y daeth Noah, ai feibion, ai wraig, a gwragedd ei feibion gyd ag ef i’r Arch, rhac y dwfr diluw.
8O’r anifeiliaid glân, ac o’r anifeiliaid y rhai nid [oeddynt] lân, o’r ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusce ar y ddaiar,
9Y daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, yn wryw, ac yn fanyw, fel y gorchymynnase Duw i Noah.
10Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaiar.
11Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mîs, ar yr ail dydd ar bymthec o’r mîs, ar y dydd hwnnw y rwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.
12Ar glaw fu ar y ddaiar ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos.
13O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Iapheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd a hwynt i’r Arch.
14Hwynt, a phôb bwyst-fil wrth ei rywogaeth, a phôb anifail wrth ei rywogaeth, a phôb ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar wrth ei rywogaeth, a phôb ehediad wrth ei rywogaeth, [sef] pôb rhyw aderyn.
15A daethant at Noah i’r Arch bôb yn ddau, o bôb cnawd yr hwn [yr oedd] ynddo anadl enioes.
16A’r rhai a ddaethant, yn wryw, a banyw y daethant o bôb cnawd, fel y gorchymynnase Duw iddo, yna’r Arglwydd a gaeodd arno ef.
17A’r diluw fu ddeugain nhiwrnod ar y ddaiar, a’r dyfroedd a amlhausant, fel y dygasant yr Arch, ac y codwyd hi oddi ar y ddaiar.
18A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a amlhausant yn ddirfawr ar y ddaiar, a’r Arch a rodiodd ar hyd wyneb y dyfroedd.
19A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaiar, a gorchguddiwyd yr holl fynyddoedd uchel yr rhai oeddynt tann yr holl nefoedd.
20Pymthec cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd, tuac i fynu wedi gorchguddi y mynyddoedd.
21 # Eccles. 39.28. Yna y bu farw pôb cnawd yr hwn a ymlusce ar y ddaiar, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid ac yn fwyst-filod, ac yn bôb [rhyw] ymlusciad a ymlusce ar y ddaiar, a phôb dŷn [hefyd.]
22Yr hyn oll [yr oedd] ffûn anadl enioes yn ei ffroenau: o’r hyn oll [ydoedd] ar y sych-dir a fuant feirw.
23Ac efe a ddeleodd bôb sylwedd byw a’r a [oedd] ar wyneb y ddaiar, yn ddŷn, ac yn anifail, yn ymlusciaid, ac yn ehediaid o’r nefoedd; ie, delewyd hwynt o’r ddaiar: a Noah a’r rhai [oedynt] gyd ag ef yn yr Arch yn unic a adawyd yn fyw.
24A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaiar, ddeng nhiwrnod a deugain, a chant.

Currently Selected:

Genesis 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy