YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 42

42
PEN. XLII.
Brodyr Ioseph yn dyfod ’ir Aipht i brynnu yd. 7 Ioseph yn eu hadnabod, ac yn eu holi hwynt. 24 yn rhoddi Simeon yng-harchar. 25 yn peri rhoi arian pob vn o honynt yn ei sachau hwynt. 26 Hwythau yn cychwyn a dref at eu tad i gyrchu Beniamin.
1Pan welodd Iacob fod ŷd yn yr Aipht, yna y dywedodd Iacob wrth ei feibion, pa ham yr edrychwch ar eich gilydd?
2Dywedodd hefyd, wele clywais fod ŷd yn yr Aipht, ewch i wared yno, a phrynnwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.
3Yna #Act.7.12. Gen.37.5.dêc o frodyr Ioseph a aethant i wared i brynnu ŷd o’r Aipht.
4Ond ni ollynge Iacob Beniamin brawd Ioseph gyd ai frodyr: o blegit eb efe, [ofni ’r ydwyf] rhac digwyddo angau iddo ef.
5Felly meibion Israel a ddaethant i brynnu ym mhlith y rhai oeddynt yn dyfod: o blegit yr ydoedd y newyn trwy wlad Canaan.
6Ac Ioseph oedd yr hwn oedd lywydd ar y wlad oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlâd: felly brodyr Ioseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef [ar eu] hwynebau.
7Yna Ioseph a ganfu ei frodyr, ac ai hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a ymddiddanodd a hwynt yn galed, ac a ddywedodd wrthynt hwy, o ba le y daethoch? hwythau a attebasant, o wlâd Canaan, i brynnu llyniaeth.
8Ac Ioseph oedd yn adnabod ei frodyr, ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.
9Ioseph wrth hynny a gofiodd ei freuddwydion, yr rhai a freuddwydiase ef ’am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt: spiwyr [ydych] chwi; i edrych noethder y wlâd y daethoch.
10Hwythau a ddywedasant wrtho ef, nage fy arglwydd: ond dy weision a ddaethant i brynnu llyniaeth.
11Nyni oll [ydym] feibion vn gŵr: inion [ydym] ni: nid yw dy weision di spiwyr.
12Yntef a ddywedodd wrthynt hwy, nage onid i edrych noethder y wlâd y daethoch.
13Hwythau a ddywedasant, dy weision di [a fuant] ddeuddeng mhrodyr: ny ni [ydym] feibion vn gŵr yng-wlâd Canaan: ac wele [y mae] yr ieuangaf heddyw gyd a’n tâd ni, a’r llall nid yw [fyw.]
14Yna Ioseph a ddywedodd wrthynt, dymma yr hynn a adroddais wrthych, gan ddywedyd: spiwir [ydych] chwi.
15Wrth hyn i’ch profir: enioes Pharao [a goller] os ewch allan oddi ymma, onid drwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf ymma.
16Hebryngwch vn o honoch, i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwitheu, fel y profer eich geiriau chwi, a [oes] gwirionedd ynoch: o blegit onid [oes] (myn enioes Pharao) spiwŷr yn ddiau [ydych] chwi.
17Felly efe ai rhoddodd hwynt i gyd yng-harchar dridiau.
18Ac yn y trydydd dydd y ddywedodd Ioseph wrthynt, gwnewch hyn fel y byddôch fyw, ofni Duw ’r wyf fi.
19Os inion [ydych] chwi, rhwymer vn brawd i chwi yn eich carchardŷ: ac ewch chwitheu, dygwch ŷd [rhac] newyn i’ch tylwyth.
20A #Gen.45.5.dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddoch feirw: hwythau a wnaethant felly.
21Ac a ddywedasant bôb vn wrth ei gilydd diau bechu o honom yn erbyn ein brawd: o blegit gweled a wnaethom gyfyngdra ei galon ef, pan ymbiliodd efe ani, ac nis gwrandawsom ef: ’am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnō ni.
22A #Gen.37.21.Ruben ai hattebôdd hwynt gan ddywedyd, oni ddywedais wrthych gan ddywedyd: na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech, wele am hynny ynte y gofynnir ei waed ef.
23Ac nis gwyddynt hwy fod Ioseph yn clywed: ’am [fod] cyfiaithudd rhyngddynt.
24Yntef a ddychwelodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwel attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth oi mysc hwynt Simeon, ac ai rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
25Ioseph hefyd a orchymynnodd lenwi o honynt eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi trachefn arian pôb vn [o honynt] hwy yn ei sach ef, a rhoddi bwyd iddynt iw fwytta ar y ffordd, ac felly y gwnaeth iddynt hwy.
26Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hassynod hwynt, ac a aethant oddi yno.
27Ac vn a agorodd ei sach ar fedr rhoddi ebran iw assyn yn y llettŷ ac a ganfu ei arian, canys wele hwynt yng-enau ei ffetan.
28Ac a ddywedodd wrth ei frodyr rhoddwyd adref fy arian, ac wele [hwynt] hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwynt, ac a ddychrynnasant gan ddywedyd bawb wrth ei gilydd: pa ham y gwnaeth Duw ini hyn?
29Felly y daethant at Iacob eu tâd hwynt, i wlâd Canaan, ac a fynegasant iddo ef eu holl ddamweiniau hwynt, gan ddywedyd.
30Dywedodd y gŵr [yr hwn oedd] arglwydd y wlâd wrthym ni yn galed: ac a’n rhoddodd ni fel spiwyr y wlâd.
31Ninnau a ddywedasom wrtho ef [yr ydym] ni yn inion: nid spiwyr ydym.
32Deuddec o frodyr [oeddem] ni, meibion ein tâd ni: vn nid yw [fyw,] ac [y mae] yr ieuangaf heddyw gyd a’n tâd ni yng-wlâd Canaan.
33Yna y dywedodd y gŵr [yr hwn] oedd arglwydd y wlâd wrthym ni: wrth hyn y caf wybod mai inion [ydych] chwi, gedwch gyd a myfi vn o’ch brodyr chwi, a chymerwch [lyniaeth i dorri] newyn eich teuluoedd, ac ewch ymmaith.
34A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi fel y gwybyddwyf nad spiwyr [ydych] chwi, onid [eich bod] chwi’n inion: [yna] y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta trwy’r wlâd.
35Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau hwynt: yna wele goded arian pôb vn yn ei sâch: a phan welsant y codeidiau arian, hwynt ai tâd a ofnasant.
36Yna Iacob eu tâd hwynt a ddywedodd wrthynt hwy, diblantasoch fi: Ioseph nid yw [fyw,] a Simeō yntef nid [yw fyw] a Bēiamin a ddygech ymmaith, yn fy erbyn y mae hyn oll.
37Yna y dywedodd Ruben wrth ei dâd, gan ddywedyd: cei ladd fy nau fâb i, oni ddygaf ef trachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi ai dygaf ef attat ti eilwaith.
38Yntef a ddywedodd, nid aiff fy mâb i wared gyd a chwy, o blegit bu farw ei frawd, ac yntef a adawyd ei hunan: pe digwydde iddo ef farwolaeth ar y ffordd, yr hon yr ewch rhyd-ddi, yna chwi a barech im pen-wynni ddescyn i’r bedd mewn gofid.

Currently Selected:

Genesis 42: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in