YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 35

35
PEN. XXXV.
1 Iacob yn myned i Bethel wrth orchymmyn Duw i adailadu allor. 2 Efe yn puto tylwyth ei dy. 5 Duw’n gwneuthur i elynion Iacob ei ofni. 8 Debora mammaeth Rebecca’n marw. 12 Addo gwlad Canaan. 18 Rahel yn marw ar anedigaeth dyn bach. 23 Meibion Iacob. 27 Iacob yn dyfod at ei dâd Isaac. 29 Oes, a marwolaeth Isaac.
1Yna y dywedodd Duw wrth Iacob, cyfot, escyn i Bethel, a thrîg yno, a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti #Gene.28.14.pan ffoaist o wydd Esau dy frawd.
2Yna Iacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll [oeddynt] gyd ag ef: bwriwch ymmaith y duwiau dieithr, y rhai [ynt] yn eich plith chwi, ac ymlânhewch, a newidiwch eich gwiscoedd.
3O blegit cyfodwn, ac escynnwn i Bethel, ac yno y gwnaf allor i Dduw yr hwn a’m gwrandawodd yn nŷdd fyng-hystudd, ac a fu gyd a’m fi yn y ffordd, a gerddais.
4Yna y rhoddasant at Iacob yr holl dduwiau dieithr y rhai [oeddynt] yn eu llaw hwynt, a’r clust-dlysau, y rhai [oeddynt] yn eu clustiau hwynt: ac Iacob ai cuddiodd hwynt, tann y dderwen, yr hon [oedd] yn ymmyl Sichem.
5Felly y cychwynnasant, ac ofn Duw [oedd] ar y dinasoedd, y rhai [oeddynt] oi hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ol meibion Iacob.
6Ac Iacob a ddaeth i Luz, yng-wlad Canaan, hon [yw] Bethel, efe ai holl bobl y rhai [oeddynt] gyd ag ef:
7Ac a adailadodd yno allor, ac a henwodd y #Gene.28.19.lle El-bethel: o blegit yno yr ymddangosasse Duw iddo ef, pan ffoase efe o wydd ei frawd.
8A marw a wnaeth Debora mammaeth Rebecca, a hi a gladdwyd islaw Bethel dann y dderwen: am hynny y galwyd henw honno Alhon-bachuth.
9Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Iacob pan ddaeth efe o Mesopotamia ac ai bendithiodd ef.
10A Duw a ddywedodd wrtho, dy henw di [yw] Iacob, ni #Gene.32.28.elwir dy henw di Iacob mwy, onid Israel a fydd dy henw di: galwodd gan hynny ei enw ef Israel.
11Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, myfi [wyf] Dduw holl-alluog, cynnydda, ac amlhâ: cenedl, a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinnoedd a ddeuant allan o’th lwynau di,
12A’r wlâd yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th hâd ti ar dy ôl di y rhoddaf y wlâd [honno.]
13Yna’r escynnodd Duw oddi wrthaw ef yn y fan lle y llefarase efe wrtho ef.
14Ac Iacob a osododd golofn i sefyll yn y fann lle’r ymddiddanase efe ag ef, [sef] colofn faen, ac a daenellodd arni ddiod offrwm, ac a dywalltodd olew arni.
15Felly Iacob a alwodd henw y fann lle ’r ymddiddanodd Duw ag ef: Bethel.
16Yna’r aethant ymmaith o Bethel, ac yr oedd etto megis milltir o dîr i ddyfod i Ephrath: yno’r escorodd Rahel, a bu galed [arni hi] wrth escor.
17A darfu pan oedd yn galed [arni] wrth escor o honi, i’r fŷdwraig ddywedyd wrthi hi, nac ofna: o blegit llymma hefyd i ti fâb.
18Darfu hefyd wrth fyned oi henaid hi allan, (o blegit marw a wnaeth hi) yna iddi hi alw ei henw ef Benoni: ond ei dâd ai henwodd ef Ben-iamin.
19A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Ephrath: hon [yw] Bethlehem.
20Ac Iacob a osododd golofn i sefyll ar ei bedd hi, honno [yw] colofn bedd Rahel hyd heddyw.
21Yna Israel a gerddodd, ac a estynnodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal-eder.
22A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlâd honno, yna Ruben a aeth, ac a orweddodd #Gene.49.5.gyd a Bilha gordderchwraig ei dâd ef, a chlybu Israel [hynny:] yna meibion Iacob oeddynt ddeu-ddec.
23Meibion Lea, Ruben cyntafanedic Iacob, a Simeon, a Lefi, ac Iuda, ac Isacar, a Zabulon.
24Meibion Rahel, Ioseph a Beniamin.
25A meibion Bilha, llaw-forwyn Rahel: Dan, a Naphthali.
26A meibion Zilpha llaw-forwyn Lea: Gad, ac Aser. Dymma feibion Iacob, y rhai a anwyd iddo ym-Mesopotamia.
27Yna Iacob a ddaeth at Isaac ei dâd ef i Mamre i gaer Arba, hon [yw] Hebron, lle’r ymdeithiase Abraham, ac Isaac.
28A dyddiau Isaac [oeddynt] gan-mlwydd a phedwar ugain mlwydd.
29Yna Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasclwyd at ei bobl yn hên, ac yn gyflawn o oedran, ai feibion Esau ac Iacob ai claddasant ef.

Currently Selected:

Genesis 35: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in