YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 32

32
PEN. XXXII.
1 Duw yn cyssuro Iacob trwy ei angylion. 6 Esau a phedwar cant o wyr yn dyfod i gyfarfod Iacob. 10 Iacob yn gweddio ar Dduw gan gyfadde ei anheilyngdod 13 Efe yn anfon anrhegion at Esau. 24 Efe yn ymaflyd cwymp a’r angel. 28 A’r angel yn ei henwi ef Israel.
1A Iacob a gerddodd iw daith yntef: ac angylion Duw a gyfarfuant ag ef.
2Ac Iacob a ddywedodd pan welodd hwynt, dymma wersyll Duw, ac a alwodd henw y lle hwnnw Mahanaim.
3Ac Iacob a anfonodd gennadau oi flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir [i] faes Edom.
4Ac a orchymynnodd iddynt gan ddywedyd: fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd [sef] wrth Esau, fel hyn y dywed dy wâs di Iacob: gyd a Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.
5Ac y mae i mi eidionnau, ac assynnod, defaid, a gweision, a morwynion, ac anfon a wneuthum i fynegu i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.
6A’r cennadau a ddychwelasant at Iacob gan ddywedyd, daethom at dy frawd [sef] at Esau yr hwn hefyd [sydd] yn dyfod i’th gyfarfod ti, a phedwar cant o wŷr gyd ag ef.
7Yna Iacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arnaw, ac a rannodd y bobl oedd y rhai [oeddynt] gyd ag ef, a’r defaid, a’r eidionnau, a’r camelod yn ddwy fintai.
8Ac a ddywedodd, os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddiangol.
9Yna y dywedodd Iacob, ô Duw fy-nhâd Abraham, a Duw fy-nhâd Isaac, ô Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthif, dichwel i’th wlâd, ac at dy genhedl dy hun, a mi a wnaf ddaioni i ti.
10Ni ryglyddais ddim o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd, yr hyn a wnaethost a’th wâs di: o blegit a’m ffonn y daethym tros yr Iorddonen hon, ond yn awr ’r ydwif yn ddwy fintai.
11Achub fi atolwg o law fy mrawd, o law Esau, o blegit yr ydwyfi yn ei ofni ef, rhac dyfod o honaw, a’m taro fi, [a’r] fam gyd a’r plant.
12O blegit ty di a ddywedaist, gwnaf ddaioni i ti yn ddiau: a’th hâd ti a osodaf fel tyfod y môr, yr hwn o amlder ni rifir.
13Ac yno y trigodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth iw law ef y cymmerth efe anrheg iw frawd Esau,
14Dau cant o eifr, ac ugain o fychod, deu cant o ddefaid, ac ugain o hyrddod:
15Dêc ar hugain o gamelod blithion ai llydnod, deugain o warthec, a dêc o deirw, ugain o assynnod, a dec o ebolion.
16Felly efe a roddes yn llaw ei weision, bôb gyr o’r nailltu, ac a ddywedodd wrth ei weision: ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch gyfrwng rhwng pob gyrr ai gilydd.
17Ac efe a orchymynnodd i’r blaenaf gan ddywedyd: os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn a thy di gan ddywedyd: I bwy [y perthyni] di? ac i ba le ’r ei? ac eiddo pwy [yw] y rhai hyn o’th flaen di?
18Yna y dywedi, anrheg dy wâs Iacob yw honn, wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntef hefyd ar ein hol ni.
19Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oeddynt yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd: yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gyfarfyddoch ag ef.
20A dywedwch hefyd, wele dy wâs Iacob ar ein hol ni o blegit (eb ef) bodlonaf ei wyneb ef a’r anrheg yr hon [sydd] yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef, onid antur efe a dderbin fy wyneb inne.
21Felly yr anrheg a aeth oi flaen ef, ac efe a drigodd y noson honno yn y gwersyll.
22Ac efe a gyfododd y noson hōno, a gymmerth ei ddwy wragedd, ai ddwy law-forwyn, ai vn mâb ar ddêc, ac a aeth dros rŷd Iabboc.
23Ac ai cymmerth hwynt, ac ai trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn [oedd] ganddo.
24Ac Iacob a adawyd ei hunan, yna yr ymdrechodd gŵr ag ef, nes codi’r wawr.
25A phan welodd na bydde drech nac ef: yna y cyffyrddodd ag afal ei glun ef; fel y llaessodd afal clun Iacob, wrth ymdrech o honaw ag ef.
26A’r [Angel] a ddywedodd, gollwng fi ymmaith, o blegit y wawr a gyfododd: yntef a attebodd #Ose.12.4.nith ollyngaf on i’m bendithi fi.
27Hefyd [yr angel] a ddywedodd wrtho, beth [yw] dy henw di? ac efe a attebodd Iacob.
28Yntef a ddywedodd, #Genes.35.10.mwyach ni elwir dy henw di Iacob, ond Israel: o blegit ymdrechaist gyd a Duw fel tywysog, felly [yr ymdrechi] gyda dynion a thi a orchfugi.
29Yna Iacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd mynega attolwg dy henw, ac yntef a attebodd, i ba beth y gofynni hyn am fy henw i? ac yno efe ai bendithiodd ef.
30Ac Iacob a alwodd henw y fann Peniel: o blegit gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a diangodd fy enioes.
31A’r haul a gyfodase arno fel yr oedd yn myned trwy Peniel, ac ac efe [oedd] yn gloff oi glûn.
32Am hynny meibion Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd yr hwn [sydd] o fewn afal y glun hyd y dydd hwn, o blegit cyfwrdd ag afal clun Iacob ar y gewyn a giliodd.

Currently Selected:

Genesis 32: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in