YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 23

23
PEN. XXIII.
1 Marwolaeth Sara. 4 Abraham yn prynu iddi feddrod. 19 Claddedigaeth Sara.
1Ac oes Sara ydoedd gan-mlhynedd a saith-mlhynedd ar hugain [dymma] flynyddoedd oes Sara.
2A Sara a fu farw yng-haer Arbah, honno [yw] Hebron yn nhîr Canaan, ac Abraham aeth i alaru am Sara, ac i wylofain [am deni] hi.
3Yna y cyfododd Abraham i fynu oddi ger bron ei [gorph] marw ac a lefarodd wrth feibion Heth gan-ddywedyd:
4Dieithr ac alltud ydwyfi gyd a chwi; rhoddwch i mi etifeddiaeth beddrod gyd a chwi, fel y claddwyf fy marw o’m gwydd.
5A meibion Heth a attebasant Abraham gan ddywedyd wrtho.
6Clyw ni fy arglwydd, tywysog Duw [wyt] ti, yn ein plith: cladd dy farw yn [dy] ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb o honom ni ei fedd i ti, i gladdu dy farw.
7Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymmodd i bobl y tîr [sef] i feibion Heth,
8Ac a ymddiddanodd a hwynt gan ddywedyd: os yw eich ewyllys at gladdu fy marw o’m gŵydd, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Ephron fab Zohar:
9Ar roddi o honaw ef i mi yr ogof Machpelah, yr hon [sydd] eiddo ef, ac [sydd] yng-hwrr ei faes, er ei llawn [werth] o arian rhodded hi i mi yn etifeddiaeth beddrod yn eich plith chwi.
10Ac Ephron oedd yn aros ym-mysc meibion Heth: yna Ephron yr Hethiad a attebodd Abraham, lle y clywodd holl feibion Heth: yng-wydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd:
11Nage fy arglwydd clyw fi, rhoddais y maes i ti, a’r ogof yr hon [sydd] ynddo, i ti y rhoddais hi, yng-wydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw.
12Yna Abraham a ymgrymmodd o flaen pobl y tîr.
13Ac efe a lefarodd wrth Ephron lle y clybu pobl y tîr, gan ddywedyd: etto os tydi [yw ef] ô na’m gwrandewit fi: rhoddaf werth y maes, cymmer gennif ac mi a gladdaf fy marw yno.
14Ac Ephron a attebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho,
15Gwrando fi fy arglwydd, y tîr [a dâl] bedwar cant sicl o arian, beth yw hynny rhyngof fi a thithe? am hynny cladd dy farw.
16Felly Abraham a wrandawodd ar Ephron, a phwysodd Abraham i Ephron yr arian y rhai a ddywedase efe lle y clybu meibion Heth: pedwar-cant sicl o arian cymmeradwy ym mhlith marchnad-wyr.
17Felly y siccrhauwyd maes Ephron yr hwn [oedd] ym-Machpelah, yr hon [oedd] o flaen Mamre, y maes a’r ogof yr hon [oedd] ynddo, a phôb pren yr hwn [oedd] yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch,
18Yn feddiant i Abraham, yng-olwg meibion Heth gyd a phawb a ddelynt i borth ei ddinas ef.
19Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig, yn ogof maes Machpelah ar gyfer Mamre, honno [yw] Hebron yn nhir Canaan.
20Felly y siccrhauwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham yn etifeddiaeth beddrod, oddi wrth feibion Heth.

Currently Selected:

Genesis 23: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in