YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 19

19
PEN. XIX.
Lot yn derbyn angylion iw dy. 4 Anaturiol bechod y Sodomiaid. 10 Yr angylion yn achub Lot. 24 Dinistr Sodoma. 26 Cosp gwraig Lot. 31 Merched Lot yn meddwi eu tad iw ddwyn ef i ymlosgach a hwynt.
1Yna y ddau angel a ddaethant i Sodoma yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym-mhorth Sodoma a phā welodd Lot, efe a gyfododd iw cyfarfod hwynt ac a ymgrymmodd [ai] wyneb tua yr ddaiar.
2Ac efe a ddywedodd wele yn awr, fy Arglwyddi, troiwch attolwg i dŷ eich gwâs, lleteuwch hefyd a #Genes.18.4.golchwch eich traed, yna codwch yn foreu ac ewch i’ch taith: hwynt a ddywedasant na [wnawn] o herwydd nyni a allwn letteu yn yr heol.
3Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy, yna y troesant atto, ac y daethant iw dŷ ef, ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croiw, a hwynt a fwyttasant.
4Yna cyn gorwedd o honynt, gwyr y ddinas, [sef] gwyr Sodoma, hên ac ieuangc, a amgylchasant o amgylch y tŷ [sef] yr holl bobl o eithaf [y ddinas.]
5Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, mae y gwyr y rhai a ddaethant attat ti heno? dŵg hwynt allan attom ni, fel yr adwaenom hwynt.
6Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl,
7Ac a ddywedodd atolwg fy-mrodyr na wnewch ddrwg.
8Wele yn awr [y mae] dwy ferched genifi, y rhai nid adnabuant ŵr: dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn ddâ, yn unic na wnewch ddim i’r gwyr hyn, o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gyscod fyng-hronglwyd mau fi.
9Yna y dywedasant, nessa hwnt: dywedasant hefyd, efe a ddaeth i ymdaith yn unic, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti, nac iddynt hwy. felly buant daer iawn #2.Pet.2.7.ar y gwr [sef] ar Lot, a hwy a nessasant i dorri y ddôr.
10Yna y gwŷr a estynnasant eu llaw, ac a ddygasant Lot attynt hwy i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr.
11 # Doeth.9.16. Tarawsant hefyd y dynion y rhai [oeddynt wrth] ddrws y tŷ a dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.
12A’r gwyr a ddywedasant wrth Lot, pwy sydd genniti ymma etto, [dy] ddawō, ath feibiō, a’th ferched, a’r hyn ôll [sydd] i ti yn y ddinas, a ddŷgi di allan o’r fangre hon.
13O blegit yr ydym ni ar ddinistrio y lle hwn #Genes.18.20.am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni iw ddinistrio ef.
14Yna yr aeth Lot allan ac a lefarodd wrth ei ddawon y rhai oeddynt yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd: cyfodwch, deuwch allan o’r fann ymma: o herwydd y mae’r Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac yng-olwg ei ddawon yr ydoedd efe fel [un] yn cellwair.
15Ac ar godiad y wawr yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd: cyfot ti cymmer dy wraig, a’th ddwy ferched, y rhai ydynt iw cael, rhac dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas hon.
16Yntef a oedd hwyr-frydic, yna y #Doeth.10.6.gwyr a ymafelasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ferched, am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef: ac ai dygasant ef allan, ac ai gossodasant o’r tu allan i’r ddinas.
17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd diangc am dy enioes, nac edrych ar dy ôl, ac na sâf yn yr holl wastadedd, diangc i’r mynydd rhac dy ddifetha.
18Yna y dywedodd Lot, nid [felly] atolwg fy arglwyddi.
19Wele yn awr y cafodd dy wâs ffafor yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd yr hon a wnaethost a mi gan gadw fy enioes yn fyw: ac ni allaf fi ddiangc i’r mynydd rhac i’r drwg fyng-oddiweddyd, a marw o honof.
20Wele yn awr y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw, atolwg gad ti i mi ddiangc yno: (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.
21Yntef a ddywedodd wrtho, wele, mi a ganiadheais dy ddymuniad hefyd am y pêth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas [am] yr hon y dywedaist.
22Bryssia, diangc di yno, o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Zoar.
23Cyfodase yr haul a’r y ddaiar, pan ddaeth Lot i Zoar.
24Yna’r Arglwydd a #Deut.29.23. Isai.13.19.|ISA 13:19. Ier.50.40. Ezec.16.49. Oze.11.8.|HOS 11:8. Amos.4.11. Luc.17.29lawiodd ar Sodoma a Gomorra frwmstan, a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd.
25Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaiar.
26Yna ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn oi du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.
27Ac Abraham a gododd yn foreu i’r lle yr hwn safase efe ynddo ger bron yr Arglwydd.
28Ac efe a edrychodd tua Sodoma, a Gomorra, a thua hôll dir y gwastadedd, yna y gwelodd, ac wele cyfododd mwg y tir fel mwg ôdyn.
29A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.
30A Lot a escynnodd o Zoar, ac a drigodd yn y mynydd ai ddwy ferched gyd ag ef, o herwydd efe a ofnodd drigo yn Zoar, ac a drigodd mewn ogof, efe ai ddwy ferched.
31Yna y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, ein tad ni [sydd] hên, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl dir.
32Tyret rhoddwn i’n tâd wîn iw yfed, fel y gorweddwn gyd ag ef ac y cadwom hâd yn fyw o’n tâd.
33Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno, a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd ai thâd, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
34A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, wele gorweddais neithwyr gyd a’m tâd, rhoddwn wîn iddo ef iw yfed heno hefyd, a dos di, a gorwedd gyd ag ef, fel y cadwom yn fyw hâd o’n tâd.
35Felly hwynt a roddasant wîn iw tâd i yfed y noson honno hefyd, a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd ag ef, ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.
36Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd oi tâd eu hun.
37A’r hynaf a escorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tâd y Moabiaid hyd heddyw.
38A’r ieuangaf hefyd a escorodd hithe ar fab, ac a alwodd ei enw efe Bennammi: ef yw tad meibion Ammon hyd heddyw.

Currently Selected:

Genesis 19: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in