YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 6

6
PEN. VI.
1 Duw yn sicrhau ei addewid a’m waredu Israel. 11 Ac yn danfon Moses ac Aaron at Pharao eilwaith. 14 Hiliogaeth Ruben, Simeon, a Lefi, lle y dangosir achau Moses ac Aaron.
1Yna y dywedodd ’r Arglwydd wrth Moses, y nawr y cei weled beth a wnaf i Pharao: canys trwy law gadarn y gollwng efe hwynt, a thrwy law gadarn y gyrr efe hwynt oi wlâd.
2Duw hefyd a lefarodd wrth Moses: ac a ddywedodd wrtho, myfi [ydwyf] Iehofa,
3A mi a ymddangosais i Abraham, i Isaac, ac i Iacob yn Dduw Hollalluoc: onid [yn] fy enw Iehofa ni bun hyspys iddynt.
4Hefyd mi a sicrheais fyng-hyfammod a hwynt a’m roddi iddynt wlâd y Canaaneaid: sef gwlâd eu hymdaith yr hon yr ymdeithiasant ynddi.
5A mi a glywais hefyd uchenaid meibion Israel y rhai y mae’r Aiphtiaid yn eu caethiwo: a chofiais fyng-hyfammod.
6A’m hynny dywet wrth feibion Israel, myfi [ydwyf] Iehofa, ac myfi a’ch dygaf chwi allan oddi tann lwythau yr Aiphtiaid, ac a’ch rhydd-hâf oi caethiwed hwynt: ac a’ch gwaredaf a braich estynnedic, ac mewn barnedigaethau mawrion.
7Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi [yw]’r Arglwydd eich Duw yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tann lwythau’r Aiphtiaid.
8A mi a’ch dygaf chwi i’r wlâd, yr hon a dyngais ar ei rhoddi i Abraham, i Isaac, ac i Iacob: ac ai rhoddâf i chwi yn etifeddiaeth, myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
9A Moses a lefarodd felly wrth feibion Israel: ond ni wrandawsant ar Moses, gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed galed.
10Yna’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
11Dôs i dywet wrth Pharao brenin yr Aipht, am iddo ollwng meibion Israel allan oi wlâd.
12A Moses a lefarodd ger bron yr Arglwydd gan ddywedydd: wele meibion Israel ni wrandawsant arnafi, a pha fodd i’m gwrandawe Pharao, a minne yn ddienwaededic o wefusaw.
13A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac Aaron, ac a roddodd orchymyn gyd a hwynt at feibion Israel, ac at Pharao brenin yr Aipht: yng-hylch dwyn meibion Israel allan o wlâd yr Aipht.
14Dymma eu penn cenedl hwynt: meibion Ruben y cyntaf-anedic i Israel, [oeddynt] Henoch a Phalu, Hesron, a Charmi, dymma deuluoedd Ruben.
15A meibion Simeon [oeddynt] Iemuel, ac Iamin, Ohad, ac Iachin, Sohar hefyd a Saul mâb y Ganaanites: dymma deuluoedd Simeon.
16Dymma hefyd henwau meibion Lefi yn ol eu cenhedlaethau, Gerson, Cehath hefyd a Merari: a blynyddoedd oes Lefi [oeddynt] gant, ac onid tair blynedd deugain.
17Meibion Gerson [oeddynt] Libni, a Simi yn ol eu teuluoedd.
18A meibion Cehath [oeddynt] Amram, ac Ishar, Hebron hefyd ac Uzziel: a blynyddoedd oes Cehath [oeddynt] dair ar ddec ar hugain, a chan mhlynedd.
19Meibion Merari [oeddynt] Mehali a Musi: dymma deuluoedd Lefi yn ol eu cenhedlaethau.
20Ac Amram a gymmerodd Iochebed ei fodryb o du ei dâd yn wraig iddo, a hi a ymddûg iddo Aaron a Moses: a blynyddoedd oes Amram [oeddynt] onid tair deugain a chan mhlynedd.
21A meibion Ischar [oeddynt] Corah, a Nepheg, a Sichri.
22A meibion Uzziel [oeddynt]: Misael, ac Elzaphan, a Zithri.
23Ac Aaron a gymmerodd Elizebah merch Aminadab chwaer #Num.1.3.Nahason yn wraig iddo: a hi a ymddûg iddo Nadâb, ac Abihu, Eleazar ac Ithamar.
24Meibion Corah hefyd [oeddynt] Assir, ac Elcanah, ac Abiasaph: dymma deuluoedd y Corahiaid.
25Ac Eleazar mâb Aaron a gymmerodd yn wraig iddo [vn] o ferched Puttiel, a hi a ymddûc iddo ef #Num.25.7.Phinees: dymma bennau cenedl y Lefiaid, yn ol eu teuluoedd.
26Dymma Aaron a Moses: y rhai y dywedodd yr Arglwydd wrthynt, dygwch feibion Israel allan o wlâd yr Aipht, yn ol eu lluoedd.
27Dymma Moses ac Aaron y rhai a lefarasant wrth Pharao brenin yr Aipht, am ddwyn meibion Israel allan o’r Aipht.
28A bu, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses yn nhir yr Aipht,
29Yna lefaru o’r Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd myfi [yw]’r Arglwydd: dywet wrth Pharao brenin yr Aipht yr hyn oll yr ydwyfi yn ei ddywedyd wrthit.
30A dywedodd Moses ger bron yr Arglwydd: wele fi yn ddienwaededic o wefusau, a pha fodd y gwrendu Pharao arnaf?

Currently Selected:

Exodus 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in