YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 36

36
PEN. XXXVI.
Dechreu gwaith y babell. 3 Haelioni y bobl i’r gwaith hwn. 28 Y llenni. 19 Tô y babell. 20 Ystyllod y babell. 31 Y barrau.
1Yna y gweithiodd Besaleel ac Aholiab, a phôb gŵr celfydd y rhai y rhoddase yr Arglwydd gyfarwyddyd a deall ynddynt i fedru gwneuthur holl waith gwasanaeth y cyssegr: yn ôl yr hynn oll a orchymynnase yr Arglwydd.
2Canys Moses a alwase am Besaleel ac Aholiab, am bôb gŵr celfydd yr hwn y rhoddase yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo, pôb vn yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nessau at y gwaith iw weithio ef.
3A chymmerasant oddi ger bron Moses yr holl offrwm derchafel, yr hwn a ddygase meibion Israel i waith gwasanaeth y cyssegr iw weithio ef: a hwynt a ddugasant atto ef ychwaneg o offrwm gwir-fodd bôb borau.
4Felly yr holl rai celfydd a’r a oeddynt yn gweithio holl waith y cyssegr a ddaethant bôb vn oddi wrth ei waith yr hwn yr oeddynt yn ei wneuthur.
5A llefarasant wrth Moses gan ddywedyd y mae yr bobl yn dwyn mwy nac sydd digon: er gwasanaethu i’r gwaith yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6Yna Moses a orchymynnodd, a hwynt a barasant gyhoeddi yn y gwerssyll gan ddywedyd, na wnaed na gwr na gwraig waith mwy tu ac at offrwm derchafel y cyssegr: felly y gwaharddwyd y bobl rhac dwyn [mwy.]
7Canys yr ydoedd digon o ddefnydd i’r holl waith, er gwneuthur hynny, ac ychwaneg.
8A’r holl rai celfydd o’r rhai oeddynt yn gweithio gwaith y tabernacl, a wnaethant ddec llenn o sidan gwynn cyfrodedd, a sidan glâs, a phorphor, ac scarlat [yn llawn] Cerubiaid, o waith cywraint y gwnaethant hwynt.
9Hŷd pôb llenn [oedd] wyth gufydd ar hugain, a llêd pôb llen [oedd] bedwar cufydd: yr vn fesur [oedd] i’r holl lenni.
10Ac efe a gydiodd bum llenn wrth eu gylydd: ac a gydiodd y pum llenn [eraill] wrth eu gilydd.
11Ac efe a wnaeth ddolennau o sidan glâs ar ymyl y llenn gyntaf, ar [ei] chwrr eithaf yn y cydiad: felly y gwnaeth efe ar ymyl llenn eithaf yn yr ail cydiad.
12Dec dolen a deugain a wnaeth efe ar vn llenn, a dec dolen a deugain a wnaeth efe yn y cwrr eithaf i’r llen yr hon [ydoedd] yn yr ail cydiad: y dolennau oeddynt yn dal y naill [lenn] wrth y llall.
13Ac efe a wnaeth ddec a deugain o dderbynniadau aur: ac a gydiodd y naill lenn wrth y llall a’r derbynniadau, fel y bydde [hynny] yn vn tabernacl.
14Efe a wnaeth hefyd lenni [o flew] geifr [i fod] yn babell-len ar y tabernacl: yn vn llenn ar ddec y gwnaeth efe hwynt.
15Hŷd vn llen oedd ddec cufydd ar hugain, a llêd vn llenn [oedd] bedwar cufydd: a’r vn fesur oedd i’r vn llenn ar ddec.
16Ac efe a gydiodd bum llenn wrthynt eu hunain: a chwe llenn wrthynt eu hunain.
17Efe a wnaeth hefyd ddec dolen a deugain ar ymyl y llenn eithaf yn y cydiad: a dec dolen a deugain a wnaeth efe ar ymyl llenn yr ail cydiad.
18Ac efe a wnaeth ddec a deugain o derbynniadau prês: i gydio y babell-len i fod yn vn.
19Ac efe a wnaeth dô i’r babell-lenn o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion: a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.
20Ac efe a wnaeth styllod i’r tabernacl o goed Sittim yn eu sefyll.
21Dec cufydd [oedd] hŷd styllenn: a chufydd a hanner cufydd lled pôb styllen.
22Dau dyno [oedd] i’r vn styllenn wedi gosod fel ffynn yscal y naill ar gyfer y llall: felly y gwnaeth efe i holl styllod y tabernacl.
23Ac efe a wnaeth styllod y tabernacl: yn vgain styllen i’r tu dehau tua’r dehau.
24A deugain mortais arian a wnaeth efe dann yr vgain styllen: dwy fortais dann vn styllen iw dau dyno, a dwy fortais dann styllen arall iw dau dyno.
25Ac i ail ystlys y tabernacl o du’r y gogledd: efe a wnaeth vgain styllen.
26Ai deugain mhortais o arian: dwy fortais tann vn styllen, a dwy fortais tann styllen arall.
27Ac i du gorllewyn y tabernacl y gwnaeth efe chwech styllen.
28A dwy styllen a wnaeth efe yng-honglau y tabernacl i’r ddau ystlys.
29Ac yr oeddynt #Exod.26.24.wedi eu cydio oddi tanodd, ac yr oeddynt hefyd wedi eu cydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y gwnaeth iddynt ill dwy yn y ddwy gongl.
30Ac yr oedd wyth styllen ai morteisiau yn vn ar bymthec o forteisiau arian: #Exod.25.27,31. exod.30.4.sef dwy fortais tann bôb styllen.
31Ac efe a wnaeth farrau o goed Sittim: pump i styllod vn ystlys i’r tabernacl.
32A phum barr i styllod ail ystlys y tabernacl, a phum barr i styllod y tabernacl i’r ystlys o du yr gorllewyn.
33Ac efe a wnaeth y barr canol i farrio yng-hanol yr styllod o gwr i gwrr.
34Ac efe a oreurodd y styllod ag aur, ac a wnaeth eu modrwyau hwynt o aur i fyned am y barrau: ac a oreurodd y barrau ag aur.
35Ac efe a wnaeth wahan-lenn o sidan glâs, a phorphor a scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: o waith cywraint y gwnaeth efe hi [yn llawn] Cerubiaid.
36Ac efe a wnaeth iddi bedair colofn [o goed] Sittim, ac ai goreurodd hwynt ag aur, ai pennau [oeddynt] o aur: ac efe a fwriodd iddynt bedair mortais o arian.
37Ac efe a wnaeth gaead-len i ddrws y tabernacl o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: o waith edef a nodwydd.
38A’i phump colofn, ai pennau, ac a oreurodd eu pennau hwynt, ai cylchau ag aur: ai pum mortais [oeddynt] o brês.

Currently Selected:

Exodus 36: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in