YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 33

33
PEN. XXXIII.
1 Duw yn addo ei angel i gyfarwyddo Israel. 3 A’r bobl am i Dduw neccau fyned ei hun gyd a hwynt yn alaethu. 11 Moses yn ymddiddan a Duw wyneb yn wyneb: ac yn ymbil am iddo fyned ei hun gyd a’r bobl. 17 Ac yn cael ei wrando. 18 Moses yn ymbil am gael gweled gogoniant Duw ac heb gael gweled onid peth o honaw.
1Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, cerdda, dos i fynu oddi ymma, ti a’r bobl y rhai a ddygaist i fynu o wlad yr Aipht: i’r wlad [am] yr honn y tyngais wrth Abraham, Isaac, ac Iacob gan ddywedyd, #Genes.12.7.i’th hâd di y rhoddaf hi.
2A mi #Exod.23.27. Ios.24.11.|JOS 24:11. Deut.7.21. Exod.32.9.a anfonaf angel o’th flaen di: ac a yrraf allan y Canaaneaid, yr Amoriaid, a’r Hethiaid, y Phereziaid yr Hefiaid, a’r Iubusiaid,
3I wlad yn llifeirio o laeth a mêl: o herwydd nid afi i fynu yn dy blith, o blegit #Deut.9.13.pobl war-galed wyt, rhac i mi dy ddifa ar y ffordd.
4Pan glywodd y bobl y drwg chwedl hwn galaru a wnaethant: ac ni osododd neb ei hardd-wisc am dano.
5O blegit yr Arglwydd a ddywedase wrth Moses, dywet wrth feibion Israel pobl war-galed [ydych] chwi, yn ddisymmwth y deuaf i fynu yn dy blith ac i’th ddifethaf: am hynny yn awr diosc dy hardd-wisc oddi am danat fel y gwypwyf beth a wnelwyf it.
6Felly meibion Israel a ddioscasant eu hardd-wisc [ennyd] oddi wrth fynydd Horeb.
7Yna Moses a gymmerodd y babell, ac ai hestynnodd o’r tu allan i’r gwerssyll ym mhell oddi wrth y gwerssyll, ac ai galwodd papell y cyfarfod: fel y bydde i bawb ar a geisie yr Arglwydd fyned allan i babell y cyfarfod yr hon [ydoedd] allan o’r gwerssyll.
8Pan aeth Moses i’r babell, yr holl bobl a godasant, ac a safasant bob vn [ar] ddrws ei babell: ac a edrychasant ar ol Moses nes ei ddyfod i’r babell.
9A phan aeth Moses i’r babell y descynnodd colofn o niwl, ac a safodd [wrth] ddrws y babell: a’r [Arglwydd] a lefarodd wrth Moses.
10Pan welodd yr holl bobl y golofn niwl yn sefyll [wrth] ddrws y babell: yna y cododd yr holl bobl, ac a addolasant bob vn [wrth] ddrws ei babell.
11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses wyneb yn wyneb, fel y llefare gŵr wrth ei gyfell: yna efe a ddychwelodd i’r gwerssyll, ond y llangc [sef] Iosua mab Nun ei wenidog ef ni syflodd o’r babell.
12A Moses a ddywedodd wrth yr Arglwydd gwel, ti a ddywedi wrthif dwg y bobl ymma i fynu, ac ni ddangosaist i mi yr hwn a anfoni gyd a mi: a thi a ddywedaist mi a’th adwen wrth [dy] enw, a chefaist hefyd ffafor yn fyng-olwg.
13Yn awr gan hynny o chefais ffafor yn dy olwg di, yspyssa i mi dy ffordd attolwg fel i’th adwaenwyf, ac fel y caffwyf ffafor yn dy olwg: gwel hefyd mai dy bobl di [yw] y genhedlaeth hon.
14Yntef a ddywedodd: fy wyneb a gaiff fyned [gyd a thi] a rhoddaf orphwysdra it.
15Yna efe a ddywedodd wrtho: onid aiff dy wyneb, [gyd a ni,] nac arwein ni i fynu oddi ymma.
16Pa fodd y gwyddîr yn awr gael o honofi ffafor yn dy olwg, mi a’th bobl? onid drwy fyned o honot ti gyd a ni? felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl [ydynt] ar wyneb y ddaiar.
17A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses gwnaf hefyd y peth hynn a leferaist: o blegit ti a gefaist ffafor yn fyng-olwg, a mi a’th adwen wrth [dy] enw.
18Yntef a ddywedodd: dangos i mi attolwg dy ogoniant.
19Ac efe a ddywedodd gwnaf i’m holl ddaioni fyned heb law dy wyneb, a chyhoeddaf Iehofa wrth [ei] enw o’th flaen di: ac mi #Rhuf.9.15a drugarhaf wrth yr hwn y cymmerwyf drugaredd, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
20Ac efe a ddywedodd ni elli edrych ar fy wyneb: canys ni’m gwel dŷn fi a byw.
21Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd, wele fann yn agos attafi: lle y cei sefyll ar y graig.
22A thra yr elo fyng-ogoniant heibio mi a’th osodaf o fewn ogof y graig: a mi a’th orchguddiaf a’m llaw nes i mi fyned heibio.
23Yna y tynnaf ymmaith fy llaw, a’m tu ol a gei di weled: ond ni welir fy wyneb.

Currently Selected:

Exodus 33: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in