YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 31

31
PEN. XXXI.
Duw yn rhoddi i Besalel, ac i Aholiab athrylith i ddychymmygu pob cywrein-waith i’r babell. 13 Y pethau y rhai y mae y Sabboth yn eu harwyddocau. 18 Duw ai fys yr hwn yw ei yspryd yn scrifennu dwy lech.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
2Gwel, mi a elwais wrth [ei] enw ar Besaleel fab Uri, fab Hurr o lwyth Iuda;
3Ac ai llawnais ef ag yspryd Duw: mewn doethineb, ac mewn deall, mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob gwaith.
4I ddychymmygu cywreinrwydd i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês.
5Ac mewn cyfarwyddyd i [osod] meini, ac mewn saerniaeth prenn i weithio ym mhob gwaith.
6Ac wele mi a roddais gyd ag ef Aholiab fab Achisamah o lwyth Dan: ac yng-halon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynnais wrthit.
7Sef pabell y cyfarfod, ac Arch y destiolaeth, a’r drugareddfa yr hon [sydd] arni: a holl lestri y babell.
8A’r bwrdd ai lestri, a’r canhwyll-bren pur, ai holl lestri: ac allor yr arogl-darth.
9Ac allor y poethoffrwm, ai holl lestri: a’r noe ai throed.
10A gwiscoedd y wenidogaeth: a’r gwiscoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu [ynddynt.]
11Ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysseuoc i’r cyssegr a wnant yn ol yr hyn oll a orchymynnais wrthit.
12A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
13Llefara di hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, er hynny cedwch fy Sabboth: canys arwydd yw rhyngofi a chwithau drwy eich oesoedd, i wybod mai myfi yr Arglwydd [ydwyf] eich sancteiddudd.
14Am #Exod.20.8. Ezec.20.12.hynny cedwch y Sabboth, o blegit sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn ai halogo ef: o herwydd pwy bynnac a wnelo waith arno, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl.
15Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd [y mae] Sabboth gorphwysdra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnac a wnelo waith y seithfed dydd llwyr rodder ef i farwolaeth.
16Am hynny cadwed meibion Israel y Sabboth: gan orphwyso [arno] drwy eu hoesoedd yn gyfammod tragywyddol.
17Rhyngofi a meibion Israel y mae yn arwydd tragywyddol, #Genes.1.31.|GEN 1:31. Genes.22.(sic.)|GEN 2:2. Exod.20.11.mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaiar, ac [mai] ar y seithfed dydd y peidiodd ac y gorphwysodd efe,
18Ac efe a roddodd i Moses wedi iddo lefaru wrtho ym mynydd Sinai #Deut.9.19.ddwy lêch y destiolaeth: [sef] llechau o gerric wedi eu scrifennu â bys Duw.

Currently Selected:

Exodus 31: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in