YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 30

30
PEN. XXX.
Allor yr arogl-darth. 12 Treth y babell. 18 Y noe, neu yr golch-lestr prês. 23 Yr olew sanctaidd. 35 Defnydd yr arogl-darth.
1Gwna hefyd allor (i arogl-darthu arogl-darth: ) o goed Sittim y gwnei di hi.
2Pedairongl fydd hi, yn gufydd ei hŷd, ac yn gufydd ei llêd, a dau gufydd ei huchter: ei chyrn [fyddant] o honi ei hun.
3A goreura hi ag aur coeth, ai chaead ai hystlysau o amgylch, ai chyrn: gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch.
4A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tann ei choron wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei [hwynt] fel y byddant i wisco am drosolion iw dwyn hi arnynt.
5A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a goreura hwynt ag aur.
6A gosot hi o flaen y llenn yr hon [sydd] wrth Arch y destiolaeth: o flaen y drugareddfa, yr hon [sydd] ar y destiolaeth lle y cyfarfyddaf a thi.
7Ac arogl-darthed Aaron arni arogl-darth llyseuoc bob boreu, pan daclo efe y lusernau, yr arogl-dartha efe.
8Arogl-darthed Aaron hefyd yn y cyfnos, pan osotto y lusernau i fynu: [i fod] yn arogl-darth gwastadol ger bron yr Arglwydd drwy eich oesoedd.
9Nac offrymmwch arni arogl-darth dieithr, na phoeth offrwm, na bwyd offrwm: ac na thywelltwch ddiod offrwm arni.
10A gwnaed Aaron iawn ar ei chyrn vnwaith yn y flwyddyn a gwaed pech aberth yr iawn, vnwaith yn y flwyddyn y gwna efe iawn arni drwy eich oesoedd: sancteidd-beth cyssegredic i’r Arglwydd [yw] hi.
11A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
12 # Num.1.2. Pan rifech feibion Israel dan eu rhifedi yna rhoddant bob vn iawn am ei enioes i’r Arglwydd pan rifer hwynt: fel na byddo plâ yn eu plith pan rifer hwynt.
13Hynn a ddyru pob vn a elo tann rîf, hanner sicl, yn ol sicl sanctaidd: #Lefit.27.25. Num.3.47. Ezec.45.12.vgain Gerah [yw] yr sicl: hanner sicl [fydd] yn offrwm derchafel i’r Arglwydd.
14Pob vn a elo tann rîf o fab vgain mlwydd ac vchod, a rydd offrwm derchafel i’r Arglwydd.
15Na rodded y cyfoaethog fwy, ac na rodded y tlawd lai na hanner sicl: i roddi offrwm derchafel i’r Arglwydd, i wneuthur iawn tros eich enioes.
16A chymmer yr arian iawn gan feibion Israel, a dod ti hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod: fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel ger bron yr Arglwydd i fod yn iawn am eich enioes.
17A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
18Gwna noe bres, ai throed o brês i olchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi dwfr.
19A golched Aaron ai feibion o honi eu dwylo ai traed.
20Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant a dwfr, fel na byddont feirw: neu pan ddelont wrth yr allor i weini gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd.
21Golchant eu dwylo ai traed fel na byddont feirw: a bydded [hynn] iddynt yn ddeddf dragywyddol, iddo ef, ac iw hâd, drwy eu hoesoedd.
22Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
23Cymmer it ddewis lyssiau, o’r Myrr pur [pwys] pum cant [sicl] a hanner hynny o’r Cinamon pur [sef pwys] deu cant, a dec a deugain [o siclau:] ac o’r Calamus peraidd [pwys] deucant a dec a deugain [o siclau.]
24Ac o’r Casia [pwys] pum cant [o siclau] yn ol sicl sanctaidd: a Hinn o olew oliwydden.
25A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd yn eli cymmyscadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe.
26Ac #Lefit.8.10.eneinia ag ef babell y cyfarfod: ac Arch y destiolaeth.
27Y bwrdd hefyd ai holl lestri, a’r canhwyll-bren ai holl lestri: ac allor yr arogl-darth.
28Ac allor y poeth offrwm ai holl lestri, a’r noe ai throed.
29A chyssegra hwynt fel y byddant yn sanctaidd bethau cyssegredic: pob peth a gyffyrddo a hwynt a sancteiddir.
30Eneinia hefyd Aaron ai feibion: a sancteiddia hwynt i offeiriadu i mi.
31A llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd: olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi trwy eich oesoedd.
32Nac îrer ef ar gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych.
33Pwy bynnac a gymmysco ei fâth, a’r hwn a roddo o honaw ef ar [ddŷn] dieithr: a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.
34Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses cymmer it lyssiau [sef] blodau Myrr, Onycha, a Galbanum, y llyssiau [hynn,] a Thus pur: yr vn feint o bob vn.
35A gwna ef yn arogl-darth arogl-ber o waith yr apothecari: yn gymmyscedic, yn bur ac yn sanctaidd.
36Gan fâlu mâla ef, a dod o honaw ef ger bron [Arch] y destiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf a thi: sancteidd-beth cyssegredic fydd efe i chwi.
37A’r arogl-darth yr hwn a wnelech na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennit yn gyssegredic i’r Arglwydd.
38Pwy bynnac a wnel ei fath ef i arogldarthu o honaw: a dorrir ymmaith oddi wrth ei bobl.

Currently Selected:

Exodus 30: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in