YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 3

3
PEN. III.
1 Moses yn bugeilio defaid ei chwegrwn. 2 Duw yn ymddiddan a Moses allan o’r berth. 10 Ac yn ei yrru yn waredydd i Israel.
1Pan oedd Moses yn bugeilio defaid Iethro ei chwegrwn offeiriad Madian: yna efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i fynydd Duw [sef] mynydd Horeb.
2Yna angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn fflam dân o ganol y berth: ac efe a edrychodd ac wele y berth yn llosci yn dân, a’r berth heb ei difa.
3A dywedodd Moses mi a giliaf yn awr ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon: pa ham na lysc y berth.
4Pan welodd yr Arglwydd mai cilio yr oedd efe i edrych: yna Duw a alwodd arno o ganol y berth ac a ddywedodd Moses, Moses: a dywedodd yntef welefi.
5Ac efe a ddywedodd na nessâ ymma, diosc dy escidiau oddi am dy draed, o herwydd y lle’r hwn yr wyti yn sefyll arno sydd ddaiar sanctaidd.
6Ac efe a ddywedodd myfi [yw] Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Iacob: yna Moses a guddiodd ei wyneb, o blegit ofni’r ydoedd rhac edrych ar Dduw.
7A dywedodd yr Arglwydd, gan weled y gwelais gystudd fy mhobl y #Matth.22.32.|MAT 22:32. Act.7.32.rhai [ydynt] yn yr Aipht: ai gwaedd rhac eu gorthrymwyr a glywais, canys adwen eu doluriau.
8Am hynny y descynnais iw gwaredu hwynt o law’r Aiphtiaid, ac iw dwyn o’r wlâd honno, i wlad dda, a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl: i lê y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid.
9Ac yn awr wele waedd meibion Israel a ddaeth attafi: a hefyd mi a welais y gorthrymder a’r hwn y gorthrymmodd yr Aiphtiaid hwynt.
10Tyret gan hynny yn awr a mi a’th anfonaf at Pharao: fel y dygech allan o’r Aipht fy mhobl Israel.
11Yna y dywedodd Moses wrth Dduw, pwy ydwyfi fel yr awn i at Pharao? ac y dygwn feibion Israel allan o’r Aipht?
12Dywedodd yntef diau y byddaf gyd a thi: a hyn a fydd arwydd it mai myfi a’th anfonodd: wedi it ddwyn fy mhobl allan o’r Aipht, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn.
13Yna y dywedodd Moses wrth Dduw, wele [pan] ddelwyfi at feibion Israel a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd attoch: os dywedant wrthif beth [yw] ei enw ef? beth a ddywedafi wrthynt?
14Yna Duw a ddywedodd wrth Moses Ydwyf yr hwn ydwyf: dywedodd hefyd fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel Ydwyf a’m hanfonodd attoch.
15A Duw a ddywedodd trachefn wrth Moses fel hyn y dywedi wrth feibion Israel, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Iacob, a’m hanfonodd attoch: dymma fy enw byth, a dymma fyng-hoffadwriaeth yn oes oesoedd.
16Dos a chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau [sef] Duw Abraham, Isaac, a Iacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd: gan ymweled yr ymwelais a chwi, ac yr hynn a wnaed i chwi yn yr Aipht.
17A dywedais mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Phereziaid yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid: i wlâd yn llifeirio o laeth a mêl.
18Felly y gwrandawant ar dy lais: ac y deui di a henuriaid Israel at frenin yr Aipht ac dywedwch wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebræaid a gyfarfu a ni, gan hynny yn awr gad i ni fyned attolwg daith tri diwrnod yn yr anialwch fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
19A mi a wn na edu brenin yr Aipht i chwi fyned: onid mewn llaw gadrn.
20Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a darawaf yr Aipht a’m holl ryfeddodau y rhai a wnaf yn ei chanol: ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymmaith.
21A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hynn yng-olwg yr Aiphtiaid: a bydd pan eloch nad eloch yn wâglaw.
22Canys [pob] gwraig a gais gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cyttal a hi ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwiscoedd: a chwi ai gosodwch [hwynt] am eich meibion, ac am eich merched; ac a yspeiliwch yr Aiphtiaid.

Currently Selected:

Exodus 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in