YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 29

29
PEN. XXIX.
Y modd y cyssegryd offeiriaid Lefi. 38 yr aberth gwastadol.
1Dymma hefyd y peth yr hwn a wnei di iddynt hwy wrth eu cyssegru, i offeiriadu i mi: #Leuit.9.2.cymmer vn bustach ieuangc, a dau hwrdd perffeith-gwbl.
2A bara croiw, a theisennau croiw wedi eu cymmyscu ag olew, ac afrllad croiw wedi eu hiro ag olew: o beillied gwenith y gwnei hwynt.
3A dod hwynt mewn vn cawell, a dwg yn y cawell hwynt gyda’r bustach a’r ddau hwrdd.
4Dwg hefyd Aaron ai feibion i ddrws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.
5A chymmer y gwiscoedd a gwisc am Aaron y bais, a mantell yr Ephod, a’r Ephod hefyd, a’r ddwyfronnec: a gwregyssa [hynny] a gwregys yr Ephod.
6A gosot y meitr ar ei benn ef, a dod y #Exod.28.36.goron gyssegredic ar y meitr.
7Yna y cymmeri #Exod.30.23.olew’r eneiniad, ac y tywellti ar ei benn ef: ac yr enneini ef.
8A dwg ei feibion ef: a gwisc beisiau am danynt.
9A gwregysa hwynt a gwregysau, [sef] Aaron ai feibion, a gwisc hwynt a chappiau fel y byddo yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragywyddol: #Exod.28.41.felly y cyssegri Aaron ai feibion.
10A phar di ddwyn y bustach ger bronn pabell y cyfarfod: a #Lefit.1.4.rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn y bustach.
11Yna lladd y bustach ger bron yr Arglwydd: [wrth] ddrws pabell y cyfarfod.
12A chymmer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor a’th fŷs: a thywallt yr holl waed [arall] wrth droed yr allor.
13 # Lef.3.3. Cymmer hefyd yr holl wêr a fydd yn gorchguddio y perfedd, a’r rhwyden [a fyddo] ar yr afi, a’r ddwy aren, a’r gwêr yr hwn [a fyddo] arnynt: a llosc ar yr allor.
14Ond cîg y bustach ai groen, ai fiswel, a losci mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth tros bechod yw.
15Cymmer hefyd vn hwrdd: a gosoded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yr hwrdd.
16Wedi y lleddech yr hwrdd: cymmer ei waed ef a thaenella ar yr allor o amgylch.
17A darnia yr hwrdd yn ddarnau: a golch ei berfedd, ai draed, a dod hwynt yng-hyd ai ddarnau, ac ai benn.
18Felly y llosci yr hwrdd ar yr allor, poeth offrwm i’r Arglwydd yw: arogl esmwyth [ac] aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
19A chymmer yr ail hwrdd: a rhodded Aaron ai feibion eu dwylo ar benn yr hwrdd.
20Yna lladd yr hwrdd, a chymmer oi waed, a dod ar flaen clust ddehau Aaron, ac ar flaen clust ddehau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddehau hwynt, ac ar fawd eu troed dehau hwynt: a thaenella y gwaed [arall] ar yr allor o amgylch.
21A chymmer o’r gwaed yr hwn a fyddo ar yr allor, ac olew’r eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiscoedd ei feibion gyd ag ef: felly sanctaidd fydd efe ai wiscoedd, ei feibion hefyd, a gwiscoedd ei feibion gyd ag ef.
22Cymmer hefyd o’r hwrdd #Leuit.8.25.y gwêr, a’r gloren, a’r gwêr yr hwn sydd yn gorchguddio y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren a’r gwêr yr hwn [sydd] arnynt, a’r yscwyddoc ddehau: canys hwrdd cyssegriad yw.
23Ac vn dorth o fara, ac vn deisen o fara olewedic, ac vn afrlladen o gawell y bara croiw yr hwn [sydd] ger bron yr Arglwydd.
24A dod y cwbl ar ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion: a chwhwfana hwynt yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.
25A chymmer hwynt ganddynt, a llosc ar yr allor yn boeth offrwm: yn arogl esmwyth ger bron yr Arglwydd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
26Cymmer hefyd barwyden hwrdd y cyssegriad yr hwn [fyddo] tros Aaron, a chyhwfana ef yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: ac i ti y bydd yn rhann.
27A sancteiddia barwyden yr offrwm cwhwfan, ac yscwyddoc yr offrwm derchafel, yr hwn a gwhwfanwyd, a’r hwn a dderchafwyd, o hwrdd y cyssegriad, o’r hwn [a fyddo] tros Aaron, ac o’r hwn [a fyddo] tros ei feibion.
28Ac i Aaron ai feibion y bydd yn ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm derchafel yw, ac offrwm derchafael a fydd oddi wrth feibion Israel, oi haberthau hedd [sef] eu hoffrwm derchafel i’r Arglwydd.
29A’r dillad sanctaidd y rhai a [wneir] i Aaron a fyddant iw feibion ar ei ol ef: iw heneinio ynddynt, ac iw cyssegru.
30Yr hwn oi feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, ai gwisc hwynt saith niwrnod: pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cyssegr.
31A chymmer hwrdd y cyssegriad, a berw ei gîg yn y lle sanctaidd.
32A bwytaed Aaron ai feibion gîg yr hwrdd, #Lefit.8.31.|LEV 8:31. Matt.12.4.a’r bara yr hwn [fydd] yn y cawell: [wrth] ddrws pabell y cyfarfod.
33Felly hwynt a fwytânt y pethau hyn [sef] y rhai y gwnaed iawn a hwynt wrth eu cyssegru hwynt ai sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwytta, canys cyssegredic ydynt.
34Ac os gweddillir o gig y cyssegriad, neu o’r bara hyd y boreu: yna ti a losci y gweddill a thân, ni cheir ei fwytta o blegit cyssegredic yw.
35A gwna i Aaron, ac iw feibion, yn ôl yr vn modd, yn ol yr hyn oll a orchymynnais it: saith niwrnod y cyssegri hwynt.
36A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth tros bechod, er iawn: a glanhâ’r Allor pan wnelech iawn arni, ac eneinia hi iw chyssegru.
37Saith niwrnod y gwnei iawn ar yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaiddbeth cyssegredig, pob peth a gyffyrddo a’r allor a sancteiddir.
38A dymma yr hyn a offrymmi ar yr allor: dau oen flwyddiaid bob dydd yn oestadol.
39Yr oen cyntaf a offrymmi di y borau: a’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos.
40A chyd a’r oen cyntaf decfed rann [Epha] o beillied wedi ei gymmyscu trwy bedwaredd rann Hinn o olew coethedic, a phedwaredd rann Hinn o wîn yn ddiod offrwm.
41A’r ail oen a offrymmi di yn y cyfnos: ti a wnei iddo yr vn modd, ac i fwyd offrwm, ac i ddiod offrwm y borau, i fod yn arogl esmwyth [ac] yn aberth tanllyd i’r Arglwydd:
42Yn boeth offrwm gwastadol drwy eich oesoedd [wrth] ddrws pabell y cyfarfod ger bronn yr Arglwydd: lle y cyfarfyddaf a chwi i lefaru wrthit yno.
43Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf a meibion Israel: ar [lle] a sancteiddir drwy fyng-ogoniant mau fi.
44A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor: ac Aaron ai feibion a sancteiddiaf i offeiriadu i mi.
45A #Lefit.26.12. 2.Cor.6.16.mi a bresswyliaf ym mysc meibion Israel: ac a fyddaf yn Dduw iddynt.
46Yna y caant wybod mai myfi [ydwyf] yr Arglwydd eu Duw hwynt, yr hwn ai dygais hwynt allan o dir yr Aipht fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi [yw] yr Arglwydd eu Duw hwynt.

Currently Selected:

Exodus 29: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in