YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 15

15
PEN. XV.
Israel yn moliannu Duw am y fuddugoliaeth. 23 Chwerw ddyfroedd Maiah. 27 ffynhonnau Elim.
1Yna y #Deut.10.20.cânodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant gan ddywedyd: canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn, taflodd y march, ai farchog i’r môr.
2Fy nerth a’m cân [yw]’r Arglwydd, ac y mae efe yn iechydwriaeth i mi: dymma fy Nuw, efe a ogoneddafi, [dymma] Dduw fynhad, a mi ai derchafaf ef.
3Yr Arglwydd [sydd] ryfel-wr: yr Arglwydd [yw] ei enw.
4Efe a daflodd gerbydau Pharao ai fyddin yn y môr: ei gaptenniaid dewisol a foddwyd yn y môr côch.
5Y dyfnderau ai toasant hwynt: descynnasant i’r gwaelod fel carrec.
6Dy ddeheu-law Arglwydd sydd ardderchoc o nerth: a’th ddeheu-law Arglwydd y ddrylli y gelyn.
7Yn amldra dy ardderchawgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist [allan,] ac efe ai hyssodd hwynt fel sofl.
8Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd, y ffrydau a safasant fel pen-twrr: y dyfnderau a geulasant yng-hanol y môr.
9Y gelyn a ddywedodd mi a erlidiaf, mi a ddaliaf, mi a rannaf yr yspail: caf fyng-wynfyd arnynt, tynnaf fyng-hleddyf, fy llaw ai gorescyn hwynt.
10Ti a chwythaist a’th wynt, y môr ai tôawdd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.
11Pwy [sydd] debyg i ti ô Arglwydd ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn rhagorawl mewn sancteiddrwydd? yn ofnadwy o foliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?
12Estynnaist dy ddeheulaw, llyngcodd y ddaiar hwynt.
13Arweiniaist yn dy drugaredd y bôbl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist [hwynt] i anheddle dy sancteiddrwydd.
14Y bobloedd a glywant [ac] a ofnant: dolur a ddeil bresswyl-wyr Palestina.
15Yna y synna ar ddugiaid Edom [a] hyrddod Moab, ofn ai deil hwynt: holl bresswyl-wyr Canaan a lesmeiriant.
16Ofn #Deut.2.25. Iosu.2.9.ac arswyd a syrth arnynt, gan fawredd dy fraich y tawant fel carrec: nes myned trwodd o’th bôbl di Arglwydd, nes myned o’r bôbl y rhai a enillaist ti trwodd.
17Ti ai dygi hwynt i mewn, ac ai plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost ô Arglwydd yn anneddle it: y cyssegr Arglwydd a ddarparodd dy ddwylaw.
18Yr Arglwydd a deyrnasa byth, ac yn dragywydd.
19O herwydd meirch Pharao ai gerbydau, ai farchogion a ddaethant i’r môr, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel aethant a’r dîr sych drwy ganol y môr.
20A Miriam y brophwydes chwaer Aaron a gymmerodd dympan yn ei llaw: a’r holl fenwyaid a aethant allan ar ei hol a thympanau, ac a phibellau.
21A dywedodd Miriam wrthynt: cenwch i’r Arglwydd, canys gwnaeth yn ardderchog, bwriodd y march a’r marchog i’r môr.
22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch, ac aethant allan i anialwch Sur: a hwynt a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch ac ni chawsant ddwfr.
23Pan ddaethant i Marah ni allent yfed dyfroedd Mara, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.
24Yna’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses gan ddywedyd, beth a yfwn?
25Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd, a’r Arglwydd a ddangossodd iddo ef brenn, ac efe a fwriodd [hwnnw] i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno efe a osododd iddo ddeddf, a chyfraith, ac efe ai profodd ef yno.
26Ac a ddywedodd, os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn a fyddo inion yn ei olwg ef, a rhoddi clust iw orchymynnion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef: ni roddaf arnat vn o’r clefydau y rhai a roddais ar yr Aiphtiaid, o herwydd myfi [ydwyf] yr Arglwydd dy iachawdur.
27A daethant #Num.33.9.i Elim, ac yno yr oedd deuddec ffynnon o ddwfr, a dec palm-wydden, a thrivgain: a hwynt a werssyllasant yno wrth y dyfroedd.

Currently Selected:

Exodus 15: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in