YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 12

12
PEN. XII.
1 Bwyta yr oen Pasc. 26 Bod ar dadau a mammau ddangos iw plant ddirgelwch y sacrament hwn. 29 Lladdedigaeth y cyntaf-anedic 35 Yr Iddewon yn yspeilio yr Aiphtiaid. 37 Ac yn myned o’r Aipht. 43 Y chwaneg o athrawiaeth am yr oen Pasc.
1Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron yn nhîr yr Aipht, gan ddywedyd:
2Y mîs hwn [fydd] i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf [fydd] i chwi o fisoedd y flwyddyn.
3Lleferwch wrth holl gynnulleidfa Israel gan ddywedyd, ar y decfed [dydd] o’r mîs hwn: cymmerant iddynt bôb vn oen, yn ol teulu [eu] tadau, [sef] oen dros bôb teulu.
4Os llai fydd y teulu nac y gallo fwytta yr oen, yna cymmered efe hefyd ei gymydog nessaf iw dŷ, wrth y rhifedi o ddynion: pôb vn yn ol ei fwytta a gyfrifwch at yr oen.
5Bydded yr oen gennych yn berffaith-gwbl, yn wryw, [ac] yn llwdn blwydd: o’r defaid neu o’r geifr y cymmerwch [ef.]
6A bydded yng-hadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs hwn: yna lladded holl dyrfa cynnulleidfa Israel ef, yn y cyfnos.
7A chymmerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlys-bost, ac ar gappan y drws: yn y tai, y rhai y bwytaant ef ynddynt.
8A’r cîg a fwytânt y nôs honno: wedi ei rostio [wrth] dân, a bara croiw gyd a [dail] surion y bwytaant ef.
9Na fwytewch o honaw yn amrwd, nac yn ferwedic wedi ei ferwi mewn dwfr: eithr wedi ei rostio [wrth] tân: ei ben gyd ai draed, ai berfedd [a fwytewch.]
10Ac na weddillwch [ddim] o honaw hyd y boreu: ond yr hyn fydd yng-weddill o honaw erbyn y boreu, lloscwch yn tân.
11Ac fel hyn y bwytewch ef, wedi ymwregysu eich lwynau, a’ch escidiau am eich traed, a’ch ffynn yn eich dwylo: bwytewch ef ar ffrŵst, [canys] Pasc i’r Arglwydd [ydyw] efe.
12O herwydd mi a drammwyaf drwy wlad yr Aipht y nos honno, ac a darawaf bôb cyntaf-anedic o fewn tîr yr Aipht, yn ddŷn ac yn anifail: a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau’r Aipht, myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
13A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar eich tai lle [y byddoch] chwi: pan welwyf y gwaed yna’r af heibio i chwi: felly ni bydd plâ dinistriol yn eich mysc chwi pan darawyf dîr yr Aipht.
14A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth iwch, a chwi ai cedwch ef yn ŵyl arbennic i’r Arglwydd: yn eich oesoedd y cedwch ef yn ŵyl drwy ddeddf dragywyddol.
15Saith niwrnod y bwyttewch fara croiw, y dydd cyntaf y gwnewch na byddo sur-does o fewn eich tai: o herwydd pwy bynnac a fwyttu fara lefeinllyd o’r dydd cyntaf hyd y seithfed dydd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith oddi wrth Israel.
16Ar y dydd cyntaf hefyd [y bydd] i chwi gymanfa sanctaidd, a chymanfa sanctaidd ar y seithfed dydd: dim gwaith ni wneir ynddynt, onid yr hyn a fwytu pôb dŷn yn vnic a geir ei arlwyo i chwi.
17Cedwch hefyd [ŵyl] y bara croiw, o herwydd o fewn corph y dydd hwn y dygaf eich lluoedd chwi allan o wlad yr Aipht: am hynny cedwch y dydd hwn yn eich oesoedd, drwy ddeddf dragywyddol.
18Yn y [mîs] cyntaf ar y pedwerydd dydd ar ddec o’r mîs y bwyttewch fara croiw yn y cyfnos: hyd yr vnfed dydd ar hugain o’r mîs yn yr hwyr.
19Na chaffer surdoes yn eich tai saith niwrnod: canys pwy bynnac a fwyttu fara lefeinllyd, yr enaid hwnnw a dorrir ymmaith o gynnulleidfa Israel, yn gystal y dieithr a’r priodor.
20Na fwyttewch ddim lefeinllyd: bwyttewch fara croiw yn eich holl gyfanneddau.
21A galwodd Moses am holl henuriaid Israel, ac a ddywedodd wrthynt: tynnwch a chymmerwch i chwi oen drwy eich teuluoedd a lleddwch yr [oen] Pasc.
22 # Hebr.11.28. A chymmerwch dussw o yssop, a throchwch yn y gwaed yr hwn [a fyddo] mewn cawg, a rhoddwch ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost o’r gwaed yr hwn [fyddo] yn y cawg: ac nac ewch chwithau allan neb o ddrws ei dŷ hyd y borau.
23O herwydd yr Arglwydd a bassia i daro’r Aipht, a phan welo efe y gwaed ar gappan y drws, ac ar y ddau ystlysbost: yna’r Arglwydd a bassia heb law’r drws, ac ni âd i’r dinistrudd ddyfod i’ch tai chwi i ddinistrio.
24Am hynny cedwch y peth hynn: yn ddeddf i ti, ac i’th feibion yn dragywydd.
25A phan ddeloch i’r wlad yr hon a rydd yr Arglwydd i chwi megis y dywedodd: yna cedwch y gwasanaeth hwn,
26A #Iosu.4.6.phan ddywedo eich meibion wrthich: pa wasanaeth [yw] hwn gennych?
27Yna y dywedwch, aberth Pasc yw ef ir Arglwydd yr hwn a bassiodd heb law tai meibion Israel yn yr Aipht pan darawodd efe yr Aipht, ac yr achubodd efe ein tai ni: yna yr ymgrymmodd y bobl, ac yr addolasant.
28A meibion Israel a aethant, ac a wnaethant: megis y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses, ac Aaron, felly y gwnaethant.
29Ac #Exod.11.4.ar hanner nos y tarawodd yr Arglwydd bob cyntafanedic yng-wlad yr Aipht, o gyntafanedic Pharao’r hwn a eistedde ar ei frenhin-faingc ef, #doeth.18.5.hyd gyntafanedic y gaethes yr hon [oedd] yn y carchar-dŷ: a phôb cyntafanedic i anifail.
30Yna Pharao a gyfododd liw nos, efe ai holl weision, a’r holl Aiphtiaid; ac yr oedd gweiddi mawr yn yr Aipht: o blegit nid [oedd] dŷ ar nad [ydoedd] vn marw ynddo.
31Ac efe a alwodd ar Moses ac Aaron liw nos, ac a ddywedodd, codwch, ewch allan o fysc fy mhobl, chwi a meibion Israel hefyd: ewch a gwasanaethwch yr Arglwydd fel y dywedasoch.
32Cymmerwch eich defaid, a’ch gwarthec hefyd fel y dywedasoch, ac ewch ymmaith: a bendithiwch finne.
33A’r Aiphtiaid a fuant dairion ar y bobl gan eu gyrru a’r ffrwst allan o’r wlad: o blegit dywedasant [dynion] meirw ydym oll.
34Am hynny y cymmerodd y bobl eu toes cynn ei lefeinio: ai toes oedd wedi rwymo yn eu dillad ar eu hyscwyddau.
35A meibion Israel a wnaethant yn ol gair Moses: ac a geisiasent #Exod.3.22.|EXO 3:22. exod.11.2.|EXO 11:2. iosua.24.6.gan yr Aiphtiaid dlysau arian, a thlysau aur, a gwiscoedd.
36A’r Arglwydd a roddase i’r bobl hawddgarwch yng-olwg yr Aiphtiaid fel yr echwynasant iddynt: felly’r ysbeiliasant yr Aiphtiaid.
37Yna #Num.33.3.meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth: yng-hylch chwe chant mil o wŷr traed heb law plant.
38A phobl gymmysc lawer a aethant i fynu hefyd gyd a hwynt: defaid hefyd a gwarthec [a] chyfoeth trwm iawn.
39A hwynt a bobasant y toes yr hwn a ddygasent allan o’r Aipht yn deisennau croiw, o herwydd nad [oedd ganddynt] sur-does: canys gwthiasid hwynt o’r Aipht, ac ni allasant aros, ac ni pharatoesent iddynt eu hun lynniaeth.
40A phresswyliad meibion Israel tra y trigasant yn yr Aipht: [oedd] ddeng mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd.
41Ac ym mhen y deng-mlhynedd ar hugain a phedwar can mlhynedd: ie o fewn corph y dydd hwnnw, yr aeth holl luoedd yr Arglwydd allan o wlad yr Aipht.
42Nos yw hon iw chadw i’r Arglwydd pan ddygwyd hwynt allan o wlad yr Aipht: nos yr Arglwydd yw hon i holl feibion Israel iw chadw drwy eu hoesoedd.
43Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, ac Aaron dymma ddeddf y Pasc: na fwytaed neb dieithr o honaw.
44Ond pôb gwasanaethwr wedi ei brynnu am arian: pan enwaedech ef, yna a fwytu o honaw.
45Yr estron a’r gwas cyflog ni chaiff fwyta o honaw.
46Mewn vn tŷ y bwytteuir ef, na ddwg [ddim] o’r cîg allan o’r tŷ: ac #Num.9.12. ioan.19.36.na thorrwch ascwrn ynddo ef.
47Holl gynnulleidfa Israel a wnant hynny.
48A phan arhoso dieithr gyd a thi, ac cheisio cadw Pasc i’r Arglwydd, enwaeder ei holl yrfiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny, a bydded megis yr hwn a aned yn y wlad: ond na fwytaed neb dienwaededic o honaw.
49Yr vn gyfraith fydd i’r priodor, ac i’r dieithr a arhoso yn eich mysc.
50Yna holl feibion Israel a wnaethant fel y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses ac Aaron: felly y gwnaethant.
51Ac o fewn corph y dydd hwnnw: y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht yn ol eu lluoedd.

Currently Selected:

Exodus 12: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in