YouVersion Logo
Search Icon

Baruch 2

2
PEN. II.
Y mae y bobl yn cyfaddef eu beiau am na chredasent i’r Arglwydd, ac na wasanaethasent frenin Babilon fel yr archase efe.
1AM hynny y cyflawnodd yr Arglwydd ei air yr hwn a lefarodd efe wrthym ni, ac wrth ein barn-wŷr y rhai a farnent Israel, ac wrth ein brenhinoedd, ac wrth ein tywysogion ac wrth wŷr Israel ac Iuda,
2Gan ddwyn arnom ni ddryg-fyd mawr, megis na bu tann y nefoedd fel y mae yn Ierusalem, yn ôl #Deut.28.53.yr hyn a scrifennwyd yng-hyfraith Moses:
3Y bwytae dyn gnawd ei fab ei hun, a ch­nawd ei ferch ei hun.
4Efe hefyd ai rhoddes hwynt yn weision caethion i’r holl deyrnasoedd y rhai [a ydynt] o’n hamgylch ni, i fod yn wradwyddus ac yn ang­hyfannedd ym mysc yr holl bobloedd y rhai a ydynt o’n hamgylch, lle y gwascarodd yr Arglwydd hwynt.
5Felly i’n dygwyd ni i wared, ac nid i fynu, am bechu o honom ni yn erbyn yr Arglwydd ein Duw heb wrando ar ei lais ef.
6Ein Harglwydd Dduw sydd gyfiawn: i ninnau ac i’n tadau #Pen.1.15.[y mae] gwarthrudd goleu fel [y gwelir] heddyw.
7Yr Arglwydd a ddychymygodd yr holl ddrygau hyn, y rhai a ddaethant arnom ni.
8Ac ni weddiasom ni ger bron yr Arglwydd ar droi o bob vn oddi wrth feddyliau eu calon ddrygionus.
9Am hynny y gwiliodd yr Arglwydd am ddrygfyd, ac ai dug arnom ni: o blegit cyfiawn yw ’r Arglwydd yn ei holl weithredoedd y rhai a orchymynnodd efe i ni.
10Ond ni wrandawsom ni ar ei lais ef, gan rodio yn ei orchymynnion ef y rhai a roddes efe o’n blaen ni.
11 # Dan.9.15. Ac yn awr ô Arglwydd Dduw Israel yrhwn a ddugaist dy bobl allan o dir yr Aipht trwy law gadarn, trwy arwyddion a rhyfeddo­dau a thrwy allu mawr a braich estynnedic, ac a wnaethost it enw fel [y gwelir] heddyw,
12O ein Harglwydd Dduw, nyni a bechasom, a fuom annuwiol, ac a wnaethom yn anghyfiawn yn dy holl gyfiawnder di.
13Troer [attolwg] dy lid ti oddi wrthym ni, oherwydd ychydig a adawed o honō ni ym mysc y cenhedloedd lle y gwasceraist ti nyni.
14Gwrando Arglwydd ein Gweddi a’n deisyf, a rhyddhâ ni er dy fwyn dy hun, a gwna i ni gael ffafr yng-olwg y rhai a’n caethgludasant ni,
15Fel y gŵypo pob gwlad mai ti ydwyt yr Arglwydd ein Duw ni, [ac] mai ar dy enw di y geilw Israel ai genedl.
16Edrych i lawr o’th dŷ sanctaidd, meddwl am danom ni, gostwng dy glust ô Arglwydd a gwrando.
17 # Deut.26.15. esa.63.15. Agor dy lygaid a gwêl o herwydd nid y meirw yn vffern y rhai y dygwyd eu heneidiau ai cyrph a #Psal.6.5. & 115.17. esa.38.18.roddant ogoniant a chyfiawnder i’r Arglwydd:
18Eithr yr enaid yr hwn sydd athrist am amldra [ei anwiredd] yr hwn sydd yn peri iddo fyned yn grwm, ac yn llesc: a’r llygaid palledic, a’r enaid newynog a roddant ogoniant a chyfiawnder i ti ô Arglwydd.
19O blegit nid am gyfiawnder ein tadau a’n brenhinoedd yr ydym ni yn tywallt ein gweddi ger dy fron di ein Harglwydd Dduw,
20[Eithr] am anfon o honot dy lid a’th ddigofaint arnom ni, fel y dywedaist trwy law dy weision y prophwydi gan ddywedyd:
21 # Ier.27.7. Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, gostyngwch eich yscwyddau a’ch gwarrau a gwasanaethwch frenin Babilon, fel yr arhosoch yn y wlâd yr hon a roddais i i’ch tadau chwi.
22Ac oni wrandewch ar lais yr Arglwydd gan wasanaethu brenin Babilon,
23Mi a wnaf ddinistr yn ninasoedd Iuda, ac allan o Ierusalem [y torraf ymmaith] lais gorfoledd a llais llawenydd, llais priodfab a llais priod-ferch, a’r holl wlâd a fydd anghyfannedd heb drigolion.
24Ond ni wrandawsom ni ar dy lais di gan wasanaethu brenin Babilon, am hynny y cyflawnaist ti dy eiriau y rhai a leferaist trwy wenidogaeth dy weision y prophwydi [sef] y dugid escyrn ein brenhinoedd, ac escyrn ein tadau oi lle.
25Ac wele hwynt a daflwyd allan yng-wrês y dydd, ac yn oerni y nôs, ac a fuant feirw mewn gofid mawr trwy newyn a chleddyf, ac mewn herwriaeth.
26Dy dŷ hefyd (lle y gelwid ar dy enw) a wrthodaist di, fel [y gwelir] heddyw, am ddrygioni tŷ Israel a thŷ Iuda.
27A thi a wnaethost â ni o Arglwydd ein Duw yn ôl dy gyfiawnder oll, ac yn ôl dy fawr drugaredd oll.
28Fel y lleferaist trwy dy wâs Moses y dydd y gorchymynnaist ti iddo ef scrifennu dy gyfraith di o flaen meibion Israel gan ddywedyd,
29 # Lefit.26.14. Deut.18.15. Oni wrandewch chwi ar fy llais i, y dyrfa fawr luosoc hon a droir yn ddiau yn ychydic ym mysc y cenhedloedd lle y gwascaraf fi hwynt.
30Er hynny mi a wn na wrandawant hwy arnafi: o blegit pobl wargaled ydynt hwy: eithr yn y tir lle y caethgludir hwynt y meddyliant hwy am danynt eu hun,
31Ac y gwybyddant mai myfi ydwyf eu Harglwydd Dduw hwynt pan roddwyf fi iddynt hwy galon [i ddeall,] a chlustiau i wrando.
32Yna i’m moliannant i yn y wlâd lle y caeth-gludir hwynt, ac y cofiant fy enw i.
33Ac y troant oddi wrth eu hanufydd-dod ai drwg weithredoedd, o blegit mi a gofiaf ffordd eu tadau y rhai a bechasant yng-ŵydd yr Arglwydd.
34Felly y dygaf hwynt drachefn i’r tir yr hwn trwy lw a addewais i iw tadau hwynt i A­braham, i Isaac, ac i Iacob, ac hwy ai meddiannant, ac mi ai hamlhaf hwynt, ac ni’s lleiheir hwynt.
35Ac mi a wnaf â hwynt gyfammod tragywyddol, y byddaf fi yn Dduw iddynt hwy, ac y byddant hwythau yn bobl i mi, ac ni symudaf mwyach fy mhobl Israel o’r tîr yr hwn a roddais iddynt hwy.

Currently Selected:

Baruch 2: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in