YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 14

14
PEN. XIIII.
Rhwyddeb gair Duw. 6 Erlid yr Apstolion. 10 Iachau y cloff efrydd. 12 Cam addoli yr Apostolion, 19 Llabyddio Paul agos hyd angeu. 21 Trafel yr Apostoliō.
1Ac fe ddarfu iddynt ill dau yn Iconium fyned yng-hyd i Synagog yr Iddewon, a llefaru fel y credodd lliaws mawr o’r Iddewon, ac o’r Groeg-wŷr hefyd.
2Ond yr Iddewon anghredadwy a gyffroesant, ac a lygrâsant feddyliau y cenhedloedd yn erbyn y brodyr.
3Am hynny yr arhosasant [yno] amser mawr, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr hwn a roddes destiolaeth i air ei râd ef, ac a roddes wneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.
4Yna y rhannwyd cynnulleidfa y ddinas, rhai oedd gyd â’r Iddewon, a rhai gyd â’r Apostolion.
5A phan wnaethpwyd rhuthr gan y cenhedloedd, a’r Iddewon a’r llywodraethwŷr iw hamherchi hwynt, ac iw llabyddio:
6Deall hynny a wnaethant, a chilio i Lystra, a Derba, dinasoedd o Lycaoma, ac i’r wlad o bob tu.
7Ac yno y pregethasant yr Efengyl.
8Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd yn efrydd o groth ei fam, ac ni cherddase er ioed.
9Hwn a glybu Paul yn pregethu, yr hwn wrth edrych arno, a gweled fod ganddo ffydd i gael iechyd;
10A ddywedodd â llef vchel: saf yn dy iniawn sefyll ar dy draed, ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.
11Yna pan welodd y dyrfa y peth a wnaethe Paul, hwy a godâsant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia: duwiau a ddescynnasant attom yn rhith dynion.
12Ac hwy a alwasant Barnabas yn Iupiter, a Phaul yn Mercurius: o blegit efe oedd yr ymadroddwr pennaf.
13Yna offeiriad Iupiter yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau ger bron y pyrth, ac a fynnase gyd â’r bobl aberthu.
14Yr hwn beth pan glybu yr Apostolion Barnabas a Phaul hwy a rwygâsant eu dillad, ac a neidiasant ym mhlith y bobl gan lefain,
15A dywedyd, ha wŷr, pa ham y gwnewch chwi hynny? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigiō ymma at Dduw byw, yr hwn #Gen.1.1.|GEN 1:1. Psal.146.5.|PSA 146:5. Gwele.14.7.|REV 14:7. Psal.81.13.|PSA 81:13. Rufein.1.14. a wnaeth nef a daiar, a’r môr, a phob peth oll a’r sydd ynddynt.
16Yr hwn a* adawodd yn yr oesoedd gynt i’r holl gēhedlaethau gerdded eu ffyrdd eu hunain.
17Er hynny, ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o’r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â llynniaeth, ac â llawenydd.
18A thra fuant yn traethu y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19Yna y daeth Iddewon o Antiochia, ac Iconium, y rhai wedi iddynt gynghori y dyrfa, a #Mar.11.25. llabyddio Paul a’i lluscasant allan o’r ddinas gan tybied ei fod efe yn farw.
20Ac fel yr oedd y discyblion yn sefyll o’i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i’r ddinas, a thrannoeth efe a aeth allan, ac a ddaeth i Derbe efe a Barnabas.
21A phan bregethâsant i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddiscyblion, hwy a ddychwelâsant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22Gan gadarnhau calonnau y discyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd: ac mai trwy lawer o gystudd y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23Ac wedi ordeinio o honynt henuriaid iddynt ym mhob eglwys trwy etholedigaeth, a gweddio, at ymprydio, hwy a’i gorchymynnasant i’r Arglwydd yr hwn y credent ynddo.
24Ac wedi iddynt fyned tros Pisidia, y daethant i Pamphilia.
25Ac wedi pregethu y gair yn Perga, y daethant i wared i Attalia.
26Ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, #Pen.13.3. o’r lle y gorchymynnasid hwynt i râs Duw er mwyn y gorchwyl a gyflawnâsent hwy.
27Ac wedi iddynt ddyfod a chasclu yr eglwys yng-hyd; adrodd a wnaethant faint y gweithredoedd a wnaethe Duw drwyddynt hwy, ac iddo ef agoryd i’r cenhedloedd ddrws y ffydd.
28Ac yno yr arhosasant hwy dros hir o amser gyd â’r discyblion.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in