YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 11

11
PEN. XI.
Petr yn bodloni y rhai o’r enwaediad, 22 Barnabas a Phaul yn pregethu yn Antiochia, 28 Agabus yn dangos y doe drudaniaeth.
1Yr Apostolion a’r brodyr oeddynt yn Iudaea a glywsant ddarfod i’r cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.
2Wedi dyfod Petr i fynu i Ierusalem, y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,
3Gan ddywedyd: ti a aethost i mewn at wŷr dienwaediol, ac a fwytêaist gyd â hwynt.
4A Phetr a ddechreuodd, ac a eglurodd [bob peth] mewn trefn iddynt, gan ddywedyd:
5Myfi oeddwn yn gweddio yn ninas Ioppa, ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, [sef] rhyw lestr vnwedd a llen-lliain fawr yn descyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl, ac hi a ddaeth hyd attaf fi:
6Yn yr hwn pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais, bedwar carnolion y ddaiar, a bwyst-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nef.
7Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthif, cyfot Petr, lladd, a bwyta.
8Ac mi a ddywedais, na [wnaf] Arglwydd: canys dim cyffredin nac aflan nid aeth er ioed yn fyng-enau.
9Eithr y llais a’m hattebodd i eil-waith o’r nef: yr hyn a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.
10A hynny a wnaed dair gwaith, a’r holl bethau a gymmerwyd i fynu i’r nef trachefn.
11Ac wele yn y man, y daeth try-wŷr i’r tŷ (lle yr oeddwn) wedi eu gyrru o Cæsarea attaf.
12Ac archodd yr Yspryd i mi fyned gyd â hwynt heb ammeu dim, a’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyd â mi, ac ni a ddaethom i dŷ y gŵr.
13Yr hwn a ddangosodd i ni y modd y gwelse yntef angel yn ei dy, yr hwn a safodd, ac a ddywedodd wrtho: Anfon ryw rai i Ioppa, a galw am Simon a gyfenwir Petr.
14Efe a draetha eiriau wrthit trwy y rhai i’th iachauir di a’th holl dŷ.
15Ac a myfi yn dechreu llefaru, y daeth yr Yspryd glân arnynt, #Pen.2.4. megis arnom ninnau yn y dechreuad.
16Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedase efe: #Pen.1.5. Math.3.11. Mar.1.8. Luc.3.16. Ioan.1:26. Ioan a fedyddiodd â dwfr, eithr chwi a fedyddir â’r Yspryd glân.
17Yn gymmaint gan hynny a rhoddi o Dduw iddynt y cyfryw ddawn, ac a roddes i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist: pwy oeddwn i, i luddio Duw?
18Pan glywsant hwy hyn, distawi a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, rhoddes Duw gan hynny i’r cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
19Hefyd y rhai a #Pen.8.1. wascarasid o herwydd y blinder a godase yng-hylch Stephan, a ddaethant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb pregethu y gair i neb, ond i’r Iddewon yn vnic.
20A rhai o honynt yn wŷr o Cyprus, ac ô Cirene, pan ddaethant i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu.
21A llaw yr Arglwydd oedd gyd â hwynt, a nifer mawr a gredodd, ac a drôdd at yr Arglwydd.
22Ac felly y daeth y gair o’r pethau i glustiau yr eglwys yr hon oedd yn Ierusalem, #11.22-26 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl Barnabe. a hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia.
23Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i barhau yn yr Arglwydd.
24Canys gŵr da oedd efe, yn llawn o’r Yspryd glân, a ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd.
25Yna yr aeth Barnabas i Tharsus i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia.
26A darfu hefyd iddynt flwyddyn gyfan gynniwer yn yr eglwys [honno,] ac yr oeddynt yn dyscu tyrfa fawr: a’r discyblion yn Antiochia a alwyd yn Gristianogion yn gyntaf.
27#11.27-30 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl Iaco.Ac yn yr amser hwnnw y daeth prophwydi o Ierusalem i Antiochia.
28Ac vn o honynt a gyfododd a’i enw Agabus, ac a arwyddocâodd drwy yr Yspryd, y bydde newyn mawr dros yr holl fyd, yr hyn a fu rann Claudius Caesar.
29Yna pob vn o’r discyblion yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i’r brodyr, y rhai oeddynt yn presswylio yn Iudæa.
30Yr hyn beth a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid drwy law Barnabas a Saul.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in