YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 3

3
PEN. III.
2 Am yr anrhydedd a wnaethid i’r deml gan frenhi­noedd y cenhedloedd, 6 Simon sydd yn mynegu pa dryssor sydd yn y deml. 7 yr ydys yn danfon Heliodorus iw gymmeryd ef ymmaith, 26 Duw yn eu taro hwynt am hynny, a thrwy weddi Onias yn eu hiachau hwynt.
1Y Cyfāser yr oeddid yn presswylio y ddinas sanctaidd mewn heddwch, ac yn cadw ’r cyfreithiau yn dda iawn, o blegit duwioldeb Onias yr arch-offeiriad, a bod ei galon yn casau pôb drygioni:
2Digwyddodd i’r brenhinoedd a’r tywysogion farnu ’r lle yn anrhydeddus, ac anrhegu ’r deml â roddion mawr.
3Yn gymmeint ag i Seleucus brenin Asia dalu oi ardrethion yr holl draul a berthyne i wenidogaeth yr ebyrth.
4Simon hefyd o lwyth Beniamin yr hwn a wnaethid yn orchwyliwr y Deml, a ymrysonodd âr arch-offeiriad, i wneuthur difeithwch yn y ddinas.
5Ond pryd na’s galle orchfygu Onias efe a aeth at Apolonius fâb Tharsea, yr hwn oedd yr amser hwnnw yn llywodraethwr Coelosyria a Phenicia,
6Ac a fynegodd iddo fôd tryssordŷ Ierusalem yn llawn o ariā annifeiriol, y rhai ni pher­thynent i wenidogaeth yr ebyrth, a bod yn bossibl y galle y rhain ddyfod i ddwylo ’r brenin.
7Wedi ymgyfarfod o Apolonius a’r brenin efe a fynegodd iddo am yr arian a ddangosasid iddo: yntef a etholodd Heliodorus golygwr ei dryssordŷ, ac ai danfonodd â gorchymyn ganddo, i gyrchu ’r arian y rhai y dywedwyd am danynt o’r blaen.
8Am hynny Heliodorus yn y man a osododd i lawr ei daith, yn rhith myned i ymweled a dinasoedd Coelosyria a Phenicia, ond ai feddwl ar gyflawni arfaeth y brenin.
9Yn ôl dyfod o honaw i Ierusalem, ai dderbyn yn groesawus gan archoffeiriad y ddinas, efe a draethodd [iddynt] beth a ddangosasid iddo [am yr arian,] ac a fynegodd pa ham y daethe efe yno, ac efe a ofynnodd a oedd y pethau hyn yn wîr.
10Yna yr arch-offeiriad a ddangosodd iddo fod yno arian y gweddwon a’r ymddifaid,
11A rhai yn eiddo Hyrcanus mab Tobias, gwr ardderchog lawn ac nid fel y cam-ddywedase Simon y [dyn] annuwiol hwnnw, a bôd y cwbl yn bedwarcant talent ô arian, a dau cant ô aur.
12Ac nad ydoedd bossibl gwneuthur y cam hwnnw i’r rhai a gredasent i sancteiddrwydd y man hwnnw, ac i fawredd, a difrycheulyd grefydd y Deml, yr hon oedd anrhydeddus drwy ’r holl fŷd.
13Ond Heliodorus, o herwydd gorchymynnion y brenin y rhai oeddynt ganddo a ddywedodd yn hollawl y bydde raid dwyn hyn i dryssordŷ ’r brenin.
14Ac wedi gosod dydd efe a aeth i mewn ar fedr yn ôl eu gweled, gymmeryd trefn am danynt: am hynny nid bychan oedd y caledi yn yr holl ddinas.
15A’r offeiriaid a syrthiasant i lawr ger brō yr allor yn eu gwiscoedd sanctaidd, ac a alwasāt tu a’r nef ar [Dduw,] yr hwn a roese gyfraith am y tryssor sanctaidd, ar iddo ei gadw yn gyfan i’r rhai ai rhoddase yno iw gadw.
16A’r nêb a edryche ar wynebpryd yr arch-offeiriad a ddolurient yn eu calonnau: canys ei wynebpryd a newidiad ei liw oedd yn dangos cyfyngder ei galon.
17Canys rhyw ofn a dychryn corph a am­gylchodd y gŵr hwnnw, fel y bydde eglur i’r rhai a edrychent arno y dolur oedd yn ei galon.
18Rhai eraill hefyd a gyrchasant allan oi tai i wneuthur gweddi gyfredin o herwydd bôd y lle ar ddyfod i ddirmig.
19Y gwragedd hefyd wedi ymwregysu â llieinsach dan ei bronnau, a lanwent yr ystrydoedd, a’r gweryfon y rhai a gaêsid i mewn a rêdent rhai i’r pyrth a rhai i’r caerau, a rhai eraill a edrychent allan drwy ’r ffenestri.
20A phawb o honynt yn codi eu dwylo i’r nef, ac yn gweddio.
21Galarus oedd gweled nifer y rhai a syrthient i lawr ô bob mâth: a disgwiliad yr arch-offeiriad yn ei fawr ofid.
22Am hynny y rhai hyn a alwasent ar yr holl alluog Arglwydd, ar iddo gadw y tryssor sanctaidd yn gyfan ac yn siccr i’r rhai a gredasent eu rhoddi yno.
23Er hynny Heliodorus a gyflawnodd y peth a arfaethase efe: eithr fel yr oedd efe etto yn bresennol gyd ai sawdwyr wrth y trys­sordŷ,
24Efe ’r hwn yw Arglwydd yr ysprydion a phen pôb gallu, a wnaeth ryfeddod mawr yn gymeint ac i bawb a feiddient ddyfod gyd ag ef, aruthro [wrth weled] nerth rhinwedd Duw, a syrthio mewn llesmeirieu a dychryn.
25Canys ymddangosodd iddynt ryw farch mewn gwisc hardd o’r ôref, ac arno farchogwr ofnadwy, ac a rêdodd yn egniol, ac a darawodd Heliodorus â’i garnau blaen, a’r hwn oedd yn eistedd arno a dybbid fod ganddo arfau ô aur.
26Hefyd fe a ymddangosodd ger e fron ef ddau wr ieuaingc eraill, nodedig ô nerth, rha­gorawl ô brŷd, a hardd eu dillad yn sefyll o bôb tu iddo, ac yn ffrewyllu y rhai oeddynt yn sefyll o bob tu.
27Am hynny pan syrthiodd efe i lawr yn ddisymmwth, ac wedi ei amgylchu â thywy­llwch mawr, ei [wŷr] ai cipiasant ef, ac ai gosodasant mewn êlor feirch.
28Efe ’r hwn a ddaethe ychydig o’r blaen i mewn i’r tryssordŷ ’r hwn y dywedyd am dano o’r blaen a thyrfa fawr ac ai hôll gard gyd ag ef efe meddaf yr hwn ni alle gael dim cymmorth gan ei arfau, a ddygasant hwy allan:
29Yn cydnabod yn amlwg alluog nerth Duw: ond yr oedd efe yn fud drwy waith Duw, ac yn gorwedd wedi ei ddiddymmu oi holl obaith am ei iechyd.
30Hwythau a foliannasant yr Arglwydd yr hwn a ogoneddase ei le ei hunan: a’r Deml honno yr hon oedd ychydig o’r blaen yn llawn o ofn a therfysc, (pan ymddangosodd yr holl alluog Arglwydd) a lanwyd â llawenydd, ac â gorfoledd.
31Ond yn y man rhai o gyfnesaf Heliodorus a attolygasant i Onias weddio ar y Goruchaf, ar iddo ganiadu yn rasusol enioes iddo ef yr hwn oedd yn gorwedd yn agos i farw.
32Yna yr arch-offeiriad yn ofni rhag i’r brenin dybied i’r Iddewon wneuthur rhyw ddrwg i Heliodorus, a offrymmodd am iechyd y gwr hwnnw.
33Ac yn ôl i’r arch-offeiriad weddio ar Dduw, yr vnrhyw wyr ieuaingc yn yr vnrhyw ddillad a ymddangosasant trachefn i Heliodorus, a chau sefyll a ddywedasant, dyro fawr ddiolch i Onias yr arch-offeiriad: canys er ei fwyn ef yn rasusol y canhiadodd yr Arglwydd i ti dy enioes.
34Tithe hefyd wedi dy guro o’r nefoedd, mynega i bawb alluocaf nerth Duw: ac yn ôl dywedyd hyn hwy a ddifannasant.
35Heliodorus hefyd (wedi iddo offrymmu aberch i’r Arglwydd, a gwneuthur mawr addunedau i’r hwn a ganhiadase iddo ei hoedl, ac wedi iddo ddiolch i Onias) â ddychwelodd, efe ai lu at y brenin.
36Gan destiolaethu i bawb weithredoedd mawrion Duw, y rhai a welse efe ai lygaid.
37Hefyd pan ofynnodd y brenin i Heliodorus pwy oedd gymhesur iw ddanfon vnwaith drachefn i Ierusalem, efe a ddywedodd,
38Od oes gennit vn gelyn, ne vn bradwr, danfon hwn yno, ac ti ai derbynni wedi ei ffrewyllu os diangc rhag colli ei hoedl, oblegit yn y man hwnnw y mae rhyw allu Duw.
39Canys yr hwn sydd ganddo bresswylfa nefol, sydd yn olygwr ac yn gynnorthwywr i’r lle hwnnw, yr hwn sydd yn curo ac yn difetha y sawl sydd yn dyfod i wneuthur niwed iddo.
40Hyn a fu am Heliodorus, a chadwedigaeth y trysorfa.

Currently Selected:

2.Machabæaid 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in