YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 2

2
PEN. II.
Y modd y cuddiodd Ieremias y Tabernacl, yr Arch, a’r allor yn y bryn, 23 am bump llyfr Iason ai cymhwysiad hwynt yn vn.
1Ceir hefyd yn scrifennadau Ieremias brophwyd, erchi o honaw i’r rhai a arwenwyd ymmaith, gymmeryd y tân: megis y mynegwyd, ac megis y gorchymynnase efe i’r rhai a arwenwyd ymmaith,
2Gan roddi iddynt gyfraith, nas gollyng-gent dros gof orchymynnion yr Arglwydd, ac na chyfeillornent yn eu meddyliau pan welent ddelwau o aur ac arian, ai gwiscoedd.
3Cyfryw bethau eraill a lefarodd wrthynt, gan eu cynghori na adawent i’r gyfraith fyned allan oi calonnau.
4Ceir hefyd yn ei scrifennadau ef, fel y darfu i’r prophwyd, drwy atteb Dûw wrtho, orchymyn dwyn y pebyll a’r Arch gyd ag ef, hyd oni ddaeth i’r mynydd i’r rhwn yr escynnodd Moses, lle y gwelodd etifeddiaeth Dûw.
5Ac wedi dyfod yno, Ieremias a aeth allan, ac a gafodd ogof, yn yr hon y gosodes y pebyll, a’r arch ac allor y poeth offrwn, ac a gaeodd y drws.
6A rhai a ddaethant o’r rhai ai dilynent ef i nod’r fann, ond nis medrent moi chael.
7Pan wybû Ieremias hynny, efe ai ceryddodd hwy gan ddywedyd, ni chaiff neb wybod y lle, hyd oni chasclo Dûw gynnulleidfa o bobl, a bod trûgaredd.
8Yna y dengys Dûw y pethaû hyn, a gogoniant yr Arglwydd a ymddengys, a’r cwmwl hefyd, megis ag y datrûddiwyd i Moses, ac fel y deisyfiodd Solomon, bod sancteiddio ’r lle yn anrhydeddus.
9Canys eglûr yw ddarfod iddo megis vn a chanddo ddoethineb, offrymmû aberth cyssegriad, a sancteiddiad y deml.
10Ac megis, pan weddiodd Moses ar yr Arglwydd, y daeth tân i lawr o’r nefoedd, ac yr yssodd yr aberth, felly Solomon a weddiodd, a thân a ddaeth i lawr o’r nefoedd, ac a yssodd y poeth offrwm.
11A Moses a ddywedodd: am nas bwytawyd yr offrwm tros bechod, am hynny yr ysswyd ef.
12Ac felly Solomon a gadwodd yr wyth niwrnod hynny.
13Y pethaû hyn hefyd a fynegir yn scrifen­nadau, ac yng-hof lythyraû Nehemias, fel y gwnaeth efe librari, ac y casclodd actau y brenhinnoedd a’r prophwydi, actau Dafydd, ac Epistolau y brenhinnoedd am y rhoddion sanctaidd.
14Yn yr vn ffunyd Iudas a gasclodd yr holl bethau a ddyscase efe am y rhyfel a ddigwyddodd arnom, ac y mae [hynny] gennym ni.
15Am hynny os dymunweh chwi eu cael, danfonwch rai ai dycco i chwi.
16Canys ô herwydd ein bôd ni a’n brŷd ar gadw y puredigaeth ni a scrifennasom attoch: am hynny da y gwnewch chwithaû os cedwch y dyddiau hynn.
17Dûw yr hwn a waredodd ei holl bobl, ac a roddes etifeddiaeth i bawb a theyrnas, ac offeiriadaeth, a sancteiddrwydd.
18Megis y gadawodd yn y gyfraith, yr ydym yn gobeithio y trûgarhâ efe wrthym ar fyrder, ac y cascla ni yng-hŷd oddi tan y nefoedd iw le sanctaidd.
19Canys efe a’n gwaredodd ni oddi wrth fawr beryglon, ac a lânhaodd y lle.
20Am Iudas Machabêus ai frodyr, am bûredigaeth y deml fawr, a chyssegriad yr allor,
21Am y rhyfêloedd sydd yn perthynû ir ardderchog Antiochus, ai fâb Eupator,
22Am yr eglûr arwyddion a ddeûent o’r nefoedd ar y rhai a safent yn ŵrol yng-hweryl crefydd yr Iddewon: (canys er nad oeddent ond ychydig, etto hwy a aethant drwy ’r ôll wlâd, ac a yrrasant i ffoi dyrfau y barbairiaid,
23Ac a adeiladasant y deml am yr hon yr oedd mawr sôn drwy yr holl fŷd, ac a waredasant y ddinas, ac a siccrhasant y cyfreithiaû y rhai yr oeddid ar eu dirymmu o herwydd bod yr Arglwydd yn drûgarog, ac yn addfwyn iawn wrthynt)
24Y pethau hefyd a ddatclariodd Iason Cyrenaeus mewn pûmp llyfr, ni a brofwn eu talfyrû mewn vn folum.
25Canys wrth ystyrio amlder y llyfraû, a’r drysni sydd i’r rhai a gymmerent arnynt dreiglo hystoriau o herwydd aml faterrion.
26Ein gofal oedd gael o’r rhai a ewyllysient ddarllen diddanwch, a bôd i’r myfyrwŷr yn haws eu coffa, ac i bawb ai darllenēt gael budd.
27Am hynny nid oedd hawdd, ni a gyme­rasom arnom y drafael flin hon, wneuthur y talfyriad hwn, ond gwaith oedd yn llawn o chwys a gwiliadwriaeth.
28Megis nid hawdd i’r hwn a wnelo wledd, ac a geisio fudd rhai eraill, felly ninaû yn ewyllyscar a gymmerwn arnom y blinder hyn er mwyn ennill diolch gan lawer.
29Gan adel bod yn fanwl am bob peth i’r awdur, ac ymflino i ddilyn llun tâlfyrriad.
30Canys fel y mae yn rhaid ir nêb a wnelo dŷ newydd ofalu am yr holl adeiladaeth: ond y nêb a elo iw baentio, nid rhaid iddo geisio dim, ond a fyddo anghenrheidiol iw harddu:
31Felly y tybiwn ninau, mai perthynasol yw i’r scrifen-wr cyntaf o’r ystori fyned ynddi yn ddyfn i sôn am bôb peth, gan fôd yn diesceû­lys ym mhob rhan.
32Ond y mae yn rhydd i’r neb ai talfyrro hi, arferu ychydig eiriau, ac ymadel a phôb manylwch ynddi.
33Ymma am hynny y ddechreuwn ein traethiad, am y rhagymadrodd digon yw a ddywedasom ni, canys ffolineb yw arfer hîr ymmadrod o flaen yr ystori, a bôd yn fyrr yn yr ystori.

Currently Selected:

2.Machabæaid 2: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in