YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 11

11
PEN. XI.
Lysias yn amcanu gorch-fygu ’r Iddewon, 8 yr ydys yn danfon cymmorth i’r Iddewon o’r nef. 16 llythyr Lysias at yr Iddewon, 20 llythyr brenin Antiochus at Lysias, 27 llythyr yr vn-rhryw at yr Iddewon, 34 llythyr y Rhufein-wyr at yr Iddewon.
1AR fyrder o amser yn ôl hyn Lysias gorchwyl-wr y brenin ai gâr, yr hwn ydoedd lywydd ar ei holl fatterion ef a gymmerih ddigo­faint mawr am y pethau a wnaethid.
2Wedi iddo ef gasclu yng-hŷd yng-hylch pedwar vgain mîl, a’r holl wŷr meirch efe a ddaeth yn erbyn yr Iddewon, ai frŷd ar wneuthur y ddinas yn bresswylfa i’r Groeg-wŷr:
3A’r deml i gael arian oddi wrthi fel temlau eraill y cenhedloedd, ac ai frŷd ar werthu swydd yr offeiriaid bôb blwyddyn.
4Heb feddwl dim am allu Duw ond yn ynfyd yn ei feddwl o herwydd ei fyrddiwn o wŷr traed, ai filoedd o wŷr meirch, ai bedwar vgain Eliphant.
5Efe a ddaeth i wlâd yr Iddewon, ar a nessaodd at Beth-sura, yr hwn ydoedd gastell cadarn o fewn pum ystâd at Ierusalem, ac ai blinodd ef.
6Ond pan glybu y rhai oeddynt gyd â Machabeus warchau eu cestyll cedyrn, drwy lefain a dagrau hwy a weddiasant ar Dduw ar iddo ef ddanfon Angel vn i amddeffyn Israel.
7Ond Machabeus gan gymmeryd arfau yn gyntaf ei hunan a gyssurodd eraill i gyd ddwyn perigl ag ef, i helpu eu brodyr, felly hwy a ruthrasant gyd â hwynt yn ewyllyscar.
8Ac fel yr oeddynt yno ger llaw Ierusalem, gŵr ac farch a ymddangosodd iddynt, oi blaen mewn gwisc wenn yn escwyd ei arfau euraid.
9Yna pawb o honynt a gyd ogoneddodd y trugarog Dduw, ac a gymmerasant galonnau grymmus, fel yr oeddynt bardd i ymladd, nid yn vnic a gwŷr, ond hefyd a’r anifeiliaid gwlltaf, ac ar parwydydd heuyrn.
10Felly hwy a aethant rhagddynt mewn byddin, a helpwr o’r nefoedd ganddynt, o blegit yr Arglwydd a gymmerase drugaredd arnynt.
11A than ruthro ar eu gelynnion megis llewod hwy a sathrasant vn mîl ar ddêg o ŵyr traed, a mil a chwechant o wŷr meirch, ac a yrrasant y lleill oll i ffo.
12Llawer o honynt wedi eu clwyfo a ddian­gasant yn noethion, a Lysias ei hun a ffoes drwy gywilydd, ac a ddiangodd.
13Ac fel nad oedd efe yn ŵr angall, gan fe­ddylied ynddo ei hun pa golled a gawse, a than gydsynied fod yr Hebræaid heb allel eu gorfod, am fod yr ôll alluog Dduw yn eu helpu hwynt, a ddanfonodd attynt.
14Ac a wnaeth addewid ar iddo ef gytuno i bôb peth rhesymol, ac am hynny y dene, ac y gyrre y brenin i fôd yn ffafrus iddynt.
15Am hynny Machabêus a gytunodd ym mhob peth a ddeisyfodd Lysias gan ofalu am ei fod yn fuddiol, a pha beth bynnag a scrifennod Machabêus at Lysias dros yr Iddewon, hynny oll a ganiataodd y brenin.
16O blegit yr oedd llythyrau wedi eu scrifennu at yr Iddewon oddi wrth Lysias fel hyn: Lysias yn annerch pobl yr Iddewon.
17Ioan ac Abessalom y rhai a yrrwyd oddi wrthych, hwy a roddasant attafi yr atteb scrifennedic, ac a ddymunasant arnafi gyflawni y pethau yr oedd hwnnw yn eu harwyddocau.
18Am hynny pa beth hynnag ydoedd raid ei adrodd i’r brenin, mi ai thaethais [iddo:] a pha beth bynnag a fai gyfelybol i wneuthur, efe ai caniadhaodd.
19Am hynny os cedwch chwi yr emyllys da hwn, yn y matterion hyn, ie yn ôl hyn hefyd mi a wnaf egni ar fod yn achos ddaioni [i chwi.]
20Tu ag at am y pethau hyn oll mi a rois orchymyn i’r rhain: ac i’m cennadau inne i gyd ymddiddan â chwychwi.
21Byddwch iach y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain, y pedwerydd dydd ar hugain o Ddios-corynthius.
22Ond llythyrau ’r brenin ydoedd fel hyn, Antiochus frenin yn danfon annerch at ei frawd Lysias.
23Wedi i’n tâd ni ymadel oddi ymma at y duwiau, ein ewyllys ni yw fôd preswylwŷr ein teyrnas yn ddigyffro fel y gallo pawb o falu am yr eiddo ei hun.
24Yn gymaint ac i ni glywed i’r Iddewon (yr rhai ni chytunent a’r cyfnewidiad yr hwn a wnaethe fy nhâd yn ôl arfer y Groeg-wŷr, ond oedd well ganddynt eu harfer eu hun) fod yn dymuno caniadhau iddynt ei harferau cyfreithlawn eu hun.
25O achos hynny ein ewyllys yw cael o’r cenhedloedd ymma fod yn ddiderfysc, ac ni a roesom ein brŷd ar edfryd iddynt eu teml, a gadel y gwasanaeth iddynt yn ôl yr arfer a oedd yn amser eu henafiaid.
26O achos hynny da y gwnei os danfoni attynt, a rhoi dy ddeheulaw iddynt megis pan wypont ein meddwl ni y byddant gyssurus, ac y gallant drin yn hyfryd eu matterion eu hun.
27Ac fel hyn yr oedd llythr y brenin at y cenhedloedd: Antiochus frenin, at henafiaid yr Iddewon, ar at yr Iddewon eraill sydd yn danfon annerch.
28Os iach ydych ein dymuniant yw, iach ydym ninnau hefyd.
29Menelaus a ddangosodd i ni fôd eich dei­syfiad chwi i droi adref, ac i drin eich matterion eich hun.
30Am hynny y neb a ddescynno oddi wr­thym attoch chwi addewid ffyddlon a fydd iddo drwy ddiofalwch hyd y decfed dydd ar hugain o fis Xanthicus.
31Fel y gallo yr Iddewon fwynhau eu llyniaeth eu hunain ai cyfreithiau, megis o’r blaen, ac na chaffo neb o honynt flinder am bethau a wnelid yn amryfus.
32Ac mi a yrrais hefyd Menelaus attoch chwi i’ch cyssuro.
33Byddwch iach y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain, a’r pymthecfed dydd o fis Xanthicus.
34Danfon hefyd a wnaeth y rhufein-wŷr lythr attynt yn cynnwys y geiriau hyn. QVINTVS Memmius, Titus Manlius, cenuadau y Rufein-wŷr at bobl yr Iddewon sydd yn danfon annerch.
35Y pethau a ganhiataodd Lysias carwr y brenin yr ydym ninnau hefyd yn eu caniadhau.
36Y pethau y mae efe yn yn barnu eu bod iw dwyn at y brenin gyrrwch yn fuan ryw vn i ystyried y pethau hynny, fel y gallom ni ym­gynghori am y pethau a fyddo addas i chwy­chwi o achos yr ydym ni yn myned i Antioch.
37Am hynny bryssiwch a gyrrwch ryw rai, fel y gallom ŵybod eich meddwl.
38Byddwch iach y ganfed ar wythfed flwyddyn a deugain ar pymthecfed dydd o fîs Xanthicus.

Currently Selected:

2.Machabæaid 11: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in