YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 16

16
PEN. XVI.
Araith Simon wrth ei feibion. 4 Ioan yn myned yn erbyn Cendebeus, ac yn ei orchfygu ef. 15 A brâd Ptolomeus.
1AC Ioan a aeth i fynu o Gazara, ac a fynegodd i Simon ’ei dad yr hyn a wnaethe Cendebeus.
2A Simon a alwodd ei ddau fab hynaf Iudas ac Ioan, ac a ddywedodd wrthynt hwy: myfi a’m brodyr a thŷ fy nhad a ryfelasom yn erbyn gelyniō Israel o’n ieuengtid hyd heddyw, ac fe a ffynnodd gennym ni waredu Israel law­er gwaith.
3Ond yr awron mi a heneiddiais, a thrwy drugaredd [Dduw] yr ydych chwi yn ddigonol o oedran: byddwch chwi yn fy lle i a’m brawd ac ewch allan a rhyfelwch tros ein cenedl ni, a chymmorth o’r nefoedd fyddo gyd â chwi.
4Ac efe a etholodd o’r wlad vgein-mil o ryfelwŷr, a gwŷr meirch: ac hwy a aethant yn erbyn Cendebeus, ac a gyscasant ym Modin.
5Ac hwy a godasant yn foreu, ac a aethant i’r maes, ac wele lu mawr yn eu herbyn hwynt ar draed, ac ar feirch: ac yr oedd aber rhyngddynt hwynt.
6Ac efe a werssyllodd oi blaen hwynt, efe ai bobl, a phan welodd efe y bobl yn ofni myned trwy ’r aber, efe a aeth trwodd yn gyntaf, a phan welodd y gwŷr ef, hwythau a aethant ar ei ôl ef.
7Yna y rhannodd efe y bobl, a’r gwŷr meirch [a roddwyd] yng-hanol y gwŷr traed, oblegit gwŷr meirch y gelynion oeddynt lawer.
8A phā ganodd efe ag vdcyrn y ffôdd Cendebeus ai werssyll, a llawer o honynt a syrthiasant yn archolledig, a’r lleill a ffoasant i’r castell.
9Yna y clwyfwyd Iudas brawd Ioan, ac Ioan ai hymlidiodd hyd oni ddaeth efe i Ce­dron yr hon a adailadase [Cendebeus.]
10Ac hwy a ffoasant hyd y tyrau y rhai ydynt ym maes Azotus, ac yntef ai lloscodd hi â than, ac fe a syrthiodd o honynt hwy gymmaint a dwy-fil o wŷr, ac efe a ddychwelodd i dir Iudaea yn heddychlon.
11Ac yr oedd Ptolomeus mab Abubus wedi ei osod yn gapten ym maes Iericho, ac yr oedd ganddo ef arian ac aur lawer.
12O blegit daw yr arch-offeiriad oedd efe.
13Ai galon ai cododd ef, ac efe a chwenny­chase feddiannu y wlâd, ac a fynnase trwy dwyll yn erbyn Simon ai feibion eu difetha hwynt.
14Ac yr oedd Simon yn rhodio trwy ddinasoedd y wlad, ac yn ofalus am eu llywodraeth hwynt, ac efe a aeth i wared i Iericho, efe a Mattathias, ac Iudas ei feibion yn yr ail flwyddyn a’r bymtheg a thrugain a chant, yn yr vn­fed mis a’r ddeg, hwn yw ’r mîs Sabbat.
15A mab Abubus ai derbyniodd hwynt trwy dwyll i gastell a elwid Docus, yr hwn a adailadase efe, ac efe a wnaeth iddynt wledd fawr, ac a guddiodd yno wŷr.
16Ac wedi meddwi Simon ai feibion y cododd Ptolomeus a’r rhai oeddynt gyd ag ef, ac hwy a gymmerasant eu harfau, ac a ruthrasant i Simon yn y wledd, ac ai lladdasant ef ai ddau fab, a rhai oi weision.
17Felly y gwnaeth efe dwyll fawr, ac y talodd ddrwg am dda.
18Ac Ptolomeus a scrifennodd hyn, at a anfonodd ac y brenin i anfon atto ef lu yn gymmorth, ac efe a rodde iddo ef y wlad a’r dinasoedd.
19Ac efe a yrrodd eraill i Gazara i ddifetha Ioan, ac a anfonodd lythyrau at y milwriaid [i erchi] iddynt ddyfod atto ef i roddi iddynt arian, ac aur a rhoddion.
20Ac efe a yrrodd eraill i ennill Ierusalem a mynydd y Deml.
21Ac vn a redodd o’r blaen ac a fynegodd i Ioan yn Gazara ddifetha ei dad ef, ai frodyr: ac efe a anfonodd i’th ladd dithe [eb efe.]
22Yntef pan glybu a ofnodd yn ddirfawr, ac a ddaliodd y gwŷr a ddaethent iw ddifetha ef ac ai lladdodd hwynt: oblegit efe a ŵybu eu bod hwynt yn ceisio ei ddifetha ef.
23A’r rhan arall o ymadroddion Ioan, ai cyfeloedd, ai ŵrolaeth yr hyn a wnaeth efe, ac adailadaeth y caerau y rhai a adailadodd efe, ai weithredoedd,
24Wele fe a scrifennwyd hyn yn llyfrau cronicl ei arch-offeiriadaeth ef, er pan wnaethpwyd ef yn arch-offeiriad ar ôl ei dâd.
Terfyn y llyfr cyntaf o’r Machabæaid.

Currently Selected:

1.Machabæaid 16: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in