YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 13

13
PEN. XIII.
Gaudeb Tryphon yn dal Ionathas, 15 Yn twyllo Simon, 31 Ac yn lladd ei feistr. 34 Simon yn cael gan Demetrius rydd-did mawr i’r wlâd, ac wedi ennill Gaza yn gosod ei fab Ioan yno yn gapten.
1Pan glybu Simon gasclu o Tryphon lu mawr i ddyfod i dîr Iuda iw difetha hi,
2A gweled fod y bobl yn ddychrynnedig, ac yn ofnus, efe a aeth i fynu i Ierusalem, ac a gasclodd y bôbl yng-hyd:
3Ac efe ai cyssurodd hwynt, ac a ddywedodd wrthynt: chwi a ŵyddoch pa faint bethau a wneuthym i, a’m brodyr a thŷ fy nhâd tros y gyfraith, a’r cyssegr: a’r rhyfeloedd, a’r ing a welsom ni.
4O achos hyn y difethwyd fy mrodyr i oll er mwyn Israel, ac mi a adawyd fy hunan.
5Ac yr awron na atto Duw i mi arbed fy enioes yn amser cystudd: o blegit nid ydwyfi well na’m brodyr.
6Eithr mi a ddialaf fyng-henedl, a’r cyssegr, a’ch gwragedd a’ch plant chwi, o blegit yr holl genhedlaethau a ymgasclasant i’n difetha ni o herwydd gelyniaeth.
7Ac yspryd y bobl a gynneuodd er cynted y clywsant y geiriau hyn, ac hwy a attebasant â llef vchel gan ddywedyd,
8Tydi ydwyt ein capten ni yn lle Iudas ac Ionathas dy frodyr.
9Rhyfela ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedech di wrthym, ni ai gwnawn.
10Yntef a gasclodd yr holl ryfelwŷr, ac a frysiodd i orphen caerau Ierusalem, ac ai ca­darnhaddd hi o amgylch.
11Ac efe a anfonodd Ionathas [fab] Abasa­lom â llu digonol gyd ag ef i Ioppe, ac efe a fwriodd allan y rhai oeddynt ynddi hi, ac efe a arhôdd yno ynddi hi.
12A Thryphon a aeth o Ptolemais â llu mawr i fyned i mewn i dîr Iuda, ac Ionathas yng-harchar gyd ag ef.
13A Simon a werssyllodd yn Adidis rhyd wyneb y maes.
14Pan ŵybu Tryphon godi Simon yn lle Ionathas ei frawd, ac y cydie efe mewn rhyfel ag ef, efe a anfonodd gennadau atto ef gan ddywedyd,
15Am yr arian yr hwn oedd ddyledus ar Ionathas dy frawd am yr ardreth brenin, am y swyddau y rhai oedd ganddo ef, y daliasom ni ef.
16Yr awron gan hynny anfon gant talent o arian a dau oi feibion ef yng-wystl, fel pan ollynger ef na chilio efe oddi wrthym ni, ac ni ai gollyngwn ef.
17A gwybu Simon mai yn dwyllodrus yr oeddynt yn ymddiddan: er hynny efe a anfonodd yr arian ar ddau fachgen rhag iddo gael câs mawr gan y bobl, y rhai a ddywedent,
18Am na anfonodd efe yr arian a’r bechgin y difethwyd ef.
19Am hynny efe a anfonodd y bechgin a’r cant talent: yntef a fu gelwyddog, ac ni ollyngodd Ionathas.
20Ac wedi hyn y daeth Tryphon i fyned i fynu i’r wlâd, ac iw difetha hi, ac efe a amgylchodd y ffordd yr hon sydd yn Adora: a Simon a aeth yn ei erbyn ef i bôb lle a’r y daeth yntef.
21A’r rhai oeddynt yn y tŵr a anfonasant at Tryphon gennadau i beri iddo ef frysio: ddyfod attynt hwy trwy y diffaethwch, ac i yrru iddynt hwy ymborth.
22Yna y paratôdd Tryphon ei feirch i ddyfod, a’r noson honno y bu eira mawr iawn, ac ni ddaeth efe o blegit yr eira, eithr efe a gerddodd ac a aeth i wlâd Galaad.
23A phan nesaodd at Bascama, efe a laddodd Ionathas, ac yno y claddwyd ef.
24Yna y dychwelodd Tryphon, ac yr aeth iw wlâd ei hun.
25A Simon a yrrodd, ac a gymerodd escyrn ei frawd Ionathas, ac hwy ai claddasant ym Modin dinas ei henafiaid ef.
26Ac Israel oll a alarasant am dano ef â galar mawr, îe hwy a alarasant am dano ef ddyddiau lawer.
27A Simon a wnaeth adailadaeth ar fedd ei dad ai frodyr, ac ai gwnaeth yn vchel mewn golwg â cherrig nadd yn ôl, ac ym mlaen.
28Ac efe a osododd ar hynny saith golofn y naill ar gyfer y llall, iw dad ai fam ai bedwar brawd.
29A chyd â hyn efe a wnaeth ddychymygion eraill, ac a osododd golofnau mawrion o amgylch, ac ar y colofnau efe a wnaeth arfau i gael enw tragywyddol, a chyd a’r arfau longau cerfiedig iw gweled gan bawb a fordwyent y môr,
30Y mae y bedd ymma yr hwn a wnaeth efe ym Modin hyd y dydd hwn.
31A Tryphon a aeth mewn twyll allan gyd ag Antiochus y brenin ieuangc, ac ai lladdodd ef.
32Ac efe a deyrnasodd yn ei le ef, ac a wiscodd goron Asia, ac a wnaeth ddialedd mawr yn y tîr.
33A Simon a adailadodd gestill yn Iudaea, ac ai cadarhaodd â thŷrau vchel, ac â chaerau mawrion: îe â thŷrau, ac â phyrth, ac â chlôau, ac efe a osododd ymborth yn y cestill.
34Simon hefyd a etholodd wŷr, ac ai hanfonodd at y brenin Demetrius i geisio gollwng y wlâd yn rhydd: o blegit yspail oedd weithredoedd Tryphon oll.
35A’r brenin Demetrius a anfonodd atto yntef fel hyn, ac ai hattebodd ef, ac a scrifennodd atto ef y llythr hwn.
36Y brenin Demetrius yn cyfarch Simon yr arch-offeiriad a charedig i frenhinoedd, ac henuriad a chenedl yr Iddewon:
37Nyni a gawsom y goron aur, a’r maen gwerth-fawr y rhai a anfonasoch chwi, ac yr ydym ni yn barod i wneuthur mawr heddwch â chwi, ac i scrifennu at y swyddogion i faddeu yr hyn sydd iw faddeu.
38Ac y mae yr hyn a ordeiniasom ni tu ag attoch chwi yn sefyll: bydded y cestill y rhai a adailadasoch chwi eiddoch chwi.
39Ac yr ydym ni yn maddeu pob anŵybodaeth a bai hyd y dydd hwn, a’r goron-dreth yr hon sydd yn ddyledus arnoch chwi, ac os oedd teyrn-ged arall yn Ierusalem na choder hi mwyn.
40Ac od oes neb o honoch yn gymmwys iw scrifennu ym mysc y rhai sy yn ein cylch ni, scri­fennere hwy, a gwneler heddwch rhyngom ni.
41Y ddecfed flwyddyn a thrugain a chant y tynnwyd ymmaith iau y cenhedloedd oddi ar Israel.
42A phobl Israel a ddechreuasant scryfennu yn eu scrifennadau ai cyfnewidiadau. Y FLVVYDDYN gyntaf i Simon yr arch-offeiriad mawr tywysog a chapten yr Iddewon.
43Yn y dyddiau hynny y gwerssyllodd efe wrth Gaza, ac efe ai hamgylchodd hi â gwerssylloedd, ac efe a wnaeth wrthryfel-dŵr, ac ai nessâodd at y ddinas, ac a darawodd vn tŵr, ac ai hennillodd.
44A’r rhai oeddynt yn y gwrthryfel-dŵr a ruthrasant allan i’r ddinas, ac fe a wnaethpwyd yn y ddinas gynnwrf, mawr.
45A’r rhai oeddynt yn y ddinas a aethant i fynu ar y gaer gyd ai gwragedd, ai plant, wedi rhwygo eu dillad, ac hwy a waeddâsant â llef vchel gan attolwg i Simon gymmodi â hwynt, ac a ddywedasant:
46Na wna â ni yn ôl ein drygioni ni, ond yn ôl dy drugaredd di.
47A Simon a dosturiodd wrthynt, ac ni ddinistriodd efe hwynt, eithr efe ai bwriodd hwynt allant o’r ddinas, ac a lanhâodd y tai lle yr oedd eulynnod, ac a aeth i mewn iddi, gan foliannu a bendigo.
48Ac efe a fwriodd allan bôb aflendid o honi hi, ac a osododd yno wŷr y rhai oeddynt yn gwneuthur y gyfraith, ac ai cadarnhaodd hi ac a adailadodd ynddi bresswylfod iddo ei hun.
49Lluddiwyd hefyd i’r rhai oeddynt yn y tŵr yn Ierusalem fyned allan na dyfod i’r tîr i brynnu a gwerthu, ac hwy a newynasant yn ddirfawr, a llawer o honynt a fuant feirw o newyn.
50Ac hwy a waeddasant ar Simon ar roddi cymmod iddynt, ac efe ai rhoddes iddynt: ond efe ai bwriodd hwynt allan, ac a lanhâodd y tŵr oddi wrth halogedigaeth.
51Ac efe a aeth i mewn iddi hi y trydydd dydd ar hugain o’r ail mis, yn yr vnfed flwyddyn a’r ddêc a thrugain a chant, â mawl, ac â changhennau palmwŷdd, ac â thelynau, â chrythau â nablau, ac â hymnau, ac ag odlau am ddifetha gelyn mawr allan o Israel.
52Ac efe a ordeiniodd gadw y dydd hwn yn llawen bob blwyddyn.
53Ac efe a gadarnhâodd fynydd y deml, yr hwn oedd yn agos i’r tŵr, ac efe a arhosodd yno, a’r rhai oeddynt gyd ag ef.
54A phan welodd Simon fod ei fab Ioan yn ŵr, efe ai gosododd ef yn gapten ar yr holl lu­oedd, ac efe a bresswyliodd yn Gazaris.

Currently Selected:

1.Machabæaid 13: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in