YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 11

11
PEN. XI.
Twyll Ptolomeus yn erbyn Alexander, 17 Marwolaeth Alexander a Ptolomeus. 19 Teyrnasiad Demetrius ai helbul. 54 Teyrnasiad Antiochus fab Alexander.
1A Brenin yr Aipht a gasclodd lu mawr fel y tywod yr hwn sydd ar lann y môr, a llongau lawer, ac a geisiodd gael teyrnas Alexander trwy dwyll, ai gosod at yr eiddo ef ei hun.
2Ac efe a aeth allan i Syria â geiriau heddychol, a’r rhai oeddynt yn y dinasoedd a a­gorasant iddo ef, ac a aethant iw gyfarfod ef, am fod gorchymmyn y brenin Alexander ar gyfarfod ag ef, am ei fod efe yn chwegrwn iddo ef.
3Ond pan aeth efe i mewn i ddinasoedd Ptolomeus, efe a osododd lu i warchod ym mhob dinas.
4A phan ddaeth efe i Azotus hwy a ddangosasant iddo ef deml Dagon yr hon a loscasid, ac Azotus ai phentrefydd wedi eu difetha, a’r cyrph a daflasid ymmaith, a’r rhai lloscedig y rhai a loscase [Ionathas] yn y rhyfel (oblegit hwy a wnaethent eu beddau hwynt ar ei ffordd ef)
5Felly y mynegasant i’r brenin yr hyn a wnaethe Ionathas iw oganu ef: a thewi a wnaeth y brenin.
6Ac Ionathas a ddaeth i gyfarfod a’r brenin i Ioppe yn ogoneddus, ac hwy a gyfarchasant ei gilydd, ac a gyscasant yno.
7Ac Ionathas a aeth gyd âr brenin hyd afon a elwir Elutherus, yna efe a ddychwelodd i Ierusalem.
8A’r brenin Ptolomeus a gafodd feddiant ar ddinasoedd glan y môr hyd Seleucia, ac a ddychymygodd gyngor drwg yn erbyn Alexander.
9Ac efe a anfonodd gannadau at y brenin Demetrius gan ddywedyd: tyret gwnawn gyfammod rhyngom, ac mi roddaf i ti fy merch yr hon sydd gan Alexander, a thi a gei deyrnasu yn nheyrnas dy dad,
10O blegit y mae yn edifar gennif roddi iddo ef fy merch: canys efe a geisiodd fy lladd i.
11Felly efe ai goganodd ef am ei fod efe yn chwennychu ei frenhiniaeth ef.
12Ac efe a ddug ei ferch oddi arno ef, ac ai rhoddes i Demetrius, ac efe a ymddieithrodd oddiwrth Alexander: felly yr ymddangosodd eu cas hwynt.
13Yna yr aeth Ptolomeus i Antioch ac a osododd ddwy goron ar ei ben: coron Asia a cho­ron yr Aipht.
14A’r brenin Alexander oedd in Cilicia yn yr amser hwnnw: oblegit y rhai oeddynt o’r lle hwnnw a wrthryfelasent.
15A phan glybu Alexander, efe a ddaeth yn ei erbyn ef i ryfel, a’r brenin Ptolomeus a ar­weiniodd [ei lu] allan, ac a gyfarfu ag ef â llaw gref, ac ai gyrrodd i ffoi.
16Yna y ffodd Alexander i Arabia i gael swccr yno, a’r brenin Ptolomeus a ddercha­fwyd.
17A Zabdiel yr Arabiad a gymmerodd ben Alexander, ac ai hanfonodd i Ptolomeus.
18A’r brenin Ptolomeus a fu farw y try­dydd dydd, a’r rhai oeddynt yn ei gestill ef a ddifethwyd gan y rhai oeddynt o fewn y cestill,
19A theyrnasodd Demetrius y seithfed flwyddyn a thrugain a chant.
20Yn y dyddiau hynny y casclodd Ionathas y rhai oeddynt o Iudaea i ryfela yn erbyn y tŵr yn Ierusalem, ac efe a wnaeth yn ei erbyn lawer o offer rhyfel.
21Yna yr aeth rhai gwŷr annuwiol y rhai oeddynt yn casau eu cenedl eu hun at y brenin, ac a fynegasant iddo fod Ionathas yn gwarche ar y tŵr.
22Pan glybu yntef [hyn] efe a ddigiodd, ac efe a gymmerodd ei daith yn ebrwydd, ac a ddaeth i Ptolemais, ac a scrifennodd at Ionathas na warchae efe [mwy,] ac ar ddyfod o ho­naw ef yn fuan iw gyfarfod ef i ymddiddā yng-hyd yn Ptolemais.
23Ond pan glybu Ionathas efe a archodd warche, ac a ddewisodd [rai] o henuriaid Israel ac o’r offeiriaid ac a ymroddes i’r perigl.
24Ac efe gan gymmeryd aur, ac arian, a gwiscoedd, a llawer o roddion eraill a aeth at y brenin i Ptolemais, ac a gafodd ffafr yn ei olwg ef.
25A rhai annuwiol o’r genedl a achwynasant rhagddo ef.
26Eithr y brenin a wnaeth iddo ef fel y gwnaethe y rhai a fuasent oi flaen ef iddo ef, ac efe ai derchafodd ef o flaen ei holl garedigion.
27Ac efe a roddes iddo ef yr arch-offeiriadaeth, a pha anrhydedd bynnag oedd ganddo ef o’r blaen, ac ai gwnaeth ef i fod yn bennaf o­garedigion.
28Yna y dymunodd Ionathas ar y brenin wneuthur Iudaea yn ddidreth, a’r tair talaith Samaria, ac efe a addawodd iddo ef dry-chant talent.
29A’r brenin oedd fodlon, ac a scrifennodd lythŷrau i Ionathas am hyn oll fel hyn.
30Y brenin Demetrius yn cyfarch y brawd Ionathas, a chenedl yr Iddewon.
31Coppi o’r llythyr yr hwn a scrifennasom ni at ein câr Lasthenes yn eich cylch chwi a scrifennasom attoch chwi hefyd, fel y gallech ei weled.
32Y brenin Demetrius yn cyfarch y tâd Lasthenes.
33Y mae yn ein bryd ni wneuthur daioni i genedl yr Iddewon, ein caredigion, y rhai ydynt yn cadw cyfiawnder tu ag attom ni, am eu hewyllys da hwynt i ni.
34Yr ydym ni gosod at gyffiniau Iudaea y tair talaith Apherema, Lyda, a Ramatha y rhai a chwanegwyd o Samaria at Iudaea, a’r hyn holl sydd yn perthynu at y rhai oll ydynt yn aberthu yn Ierusalem am yr ardreth brenin a gafodd y brenin o’r blaen o gnwd y ddaiar, a ffrwyth y coed bob blwyddyn.
35A phethau eraill yn perthynu i ni o ddegymmau a theyrn-ged, a’r pyllau halen, a’r coronau y rhai ydynt yn perthynu i ni, nyni ai canhiatawn iddynt hwy o hyn allan.
36Ar ni thorrir dim o hyn allan byth.
37Am hynny cymmerwch ofal am wneuthur coppi o’r rhai hyn, a rhodder ef at Ionathas, a gosoder ef yn y mynydd sanctaidd, mewn lle cyfleus hynod.
38Yna pan welodd Demetrius ostegu y tir oi flaen ef ac nad oedd dim yn ei wrthwynebu ef, efe a ollyngodd ei holl lu bob vn iw fangre, ond y dieithr luoedd y rhai a gasclase efe o ynysoedd y cenheldoedd: a holl luoedd ei henafiaid ef a aethant yn elynion iddo ef.
39Tryphon hefyd oedd [vn] o’r rhai a fuasent gyd ag Alexander o’r blaen, a phan welodd efe fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, efe a aeth at Simalcue yr A­rabiad, yr hwn a fagase Antiochus fab Alexander.
40Ac efe a fu daer arno ef, ar iddo ei roddi ef atto ef i deyrnasu yn lle ei dad, ac efe a ddangosodd iddo ef pa bethau a wnaethe Demetrius, a’r câs oedd gan ei lu iddo ef, ac efe a arhosodd yno ddyddiau lawer.
41Ac Ionathas a anfonodd lythŷrau ar y brenin Demetrius, i fwrw allan o’r tŵr yn Ierusalem y rhai oeddynt yn y cestill: o blegit yr oeddynt hwy yn rhyfela yn erbyn Israel.
42A Demetrius a anfonodd at Ionathas gan ddywedyd: nid hyn yn vnic a wnafi i ti, ac i’th genedl: eithr mi a’th anrhydeddaf di a’th genedl ag anrhydedd os caf gyfamser.
43Yn awr gan hynny ti a wnei yn dda, os anfoni di wŷr i ryfela gyd â mi, o blegit fy holl luoedd a’m gadawsant.
44Ac Ionathas a anfonodd iddo ef i Antiochta dair mil o wŷr cedyrn o nerth, ac hwy a ddaethant at y brenin, a llawen iawn fu gan y brenin eu dyfodiad hwynt,
45A’r rhai oeddynt o’r ddinas a ddaethant yng-hyd i ganol y ddinas yng-hylch deuddeng myrddiwn o wŷr, ac a fynnasent ladd y brenin.
46Yna y ffôdd y brenin i’r llŷs, a’r rhai oeddynt o’r ddinas a ennillasant ffyrdd y ddinas, ac a ddechreuasant ryfela.
47A’r brenin a alwodd yr Iddewon yn help, ac hwy a ddaethant atto ef oll ar vn-waith, ac a ym wascarasant rhyd y ddinas.
48Ac hwy a laddasant y dydd hwnnw yn y ddinas gymmaint a dêg myrddiwn, ac a loscasant y ddinas, ac a gymmerasant yspail fawr y dydd hwnnw, ac a achubâsant y brenin.
49A’r rhai oeddynt o’r ddinas a welsant i’r Iddewon ennill y ddinas fel y mynnent, ac hwy a lwfrhasant, ac a waeddasant wrth y brenin mewn gweddi gan ddywedyd,
50Cymmod â ni, a pheidied yr Iddewon a rhyfela i’n herbyn ni a’r ddinas.
51Felly hwy a fwriasant ymmaith eu harfau, ac a wnaethant heddwch, a’r Iddewon a gawsant hydedd o flaen y brenin a phawb yn ei deyrnas ef, ac a ddychwelasant i Ierusalem a chanddynt yspail mawr.
52Felly y brenin Demetrius a eistedodd ar orsedd-faingc ei frenhiniaeth, a’r tîr a ostegodd oi flaen ef.
53Ac efe a ddywedodd gelwydd am beth bynnag a ddywedase efe, ac a ymddieithrodd oddi wrth Ionathas, ac ni thalodd yn ôl yr ewyllys da a dalase efe iddo ef, eithr efe ai cystuddiodd ef yn ddirfawr.
54Wedi hyn y dychwelodd Tryphon a’r bachgen ieuangc Antiochus gyd ag ef, ac efe a deyrnasodd, ac a wiscodd y goron.
55A’r holl luoedd y rhai a wascarase Demetrius a ymgasclasant atto ef, ac hwy a ryfelâsant yn ei erbyn ef, yntef a ffôdd, ac a giliodd.
56Yna Tryphon a gymmerodd yr anifeiliaid, ac a ennillodd Antiochia.
57Ac Antiochus ieuangc a scrifennodd at Ionathas gan ddywedyd: yr ydwyfi yn ordeinio yr arch-offeiriadaeth i ti, ac yn dy osod ar bedair dinas i fod o garedigion y brenin.
58Ac efe a anfonodd lestri aur iddo ef iw wasanaethu, ac a roddes iddo awurdod i yfed mewn llestri aur, ac i fod mewn porphor, ac i gael cadwyn aur.
59Ac efe a osododd Simon ei frawd ef yn gapten o riw Tyrus hyd derfynau yr Aipht.
60Ac Ionathas a aeth allan tros yr afon, ar hŷd y dinasoedd, a holl luoedd Syria a ymgasclasant atto ef yn help, ac efe a ddaeth i Ascalon a’r rhai oeddynt o’r ddinas a ddaethant iw gyfarfod ef yn anrhydeddus.
61Ac efe a ddaeth oddi yno i Gaza a’r Gaziaid a gaeasant arnynt, yntef a warchâodd ar­ni, ac a loscodd ei phentrefydd hi, ac ai anrheithiodd hwynt.
62A’r Gaziaid a ymbiliasant ag Ionathas, ac efe a gymmododd â hwynt, ac a gymmerodd feibion eu tywysogion hwynt yng-ŵystl, ac ai hanfonodd hwynt i Ierusalem, ac a rodiodd y wlâd hyd Damascus.
63A phan glybu Ionathas ddyfod tywysogion Demetrius i Cades, yr hon sydd yn Gali­lea, â llu mawr a’r fedr ei yrru ef ymmaith o’r wlâd:
64Yntef a aeth iw cyfarfod hwynt, ac adawodd ei frawd Simon yn y wlâd.
65A Simon a werssyllodd wrth Bethsura ac a ryfelodd yn ei herbyn ddyddiau lawer, ac ai caeodd hi.
66Ac hwy a ddymunasant gael cymmod, ac efe ai rhoddes: ac ai bwriodd hwynt allan oddi yno, ac a gymmerodd y ddinas, a a osododd warcheidwaid ynddi.
67Ionathas hefyd ai lu a ddaethant i ddyfroedd Gennasar, ac hwy a godasant yn foreu [i ddyfod] i faes Nasor.
68Ac wele gwerssyll y dieithraid a ddaethant iw gyfarfod ef yn y maes, ac hwy a yrrasāt gynllwyn yn ei erbyn ef yn y mynyddoedd.
69A phan ddaethant hwy gyferbyn â hwynt yna y cynllwyn-wŷr a gyfodasant oi lle, ac a gydiasant ryfel.
70A’r rhai oeddynt gyd ag Ionathas a ffoasant, ni adawyd neb ond Mattathias [fab] Absalom, ac Iudas [fab] Chalphus tywysogion milwriaeth y lluoedd.
71Ac Ionathas a rwygodd ei ddillad, ac a roddes ddaiar ar ei ben, ac a weddiodd.
72Ond efe a drôdd yn eu herbyn hwynt yn y rhyfel, ac ai gyrrodd hwynt i ffoi, ac hwy a giliasant.
73A’r rhai a ffoâsant oddi wrtho ef a welsant, ac a droasant atto ef, ac a ymlidiasant gyd ag ef hyd Cades, hyd at eu gwerssyll hwynt, ac hwy a werssyllasant yno.
74Ac fe a laddwyd o’r dieithraid y dydd hwnnw gymmaint a their-mil o wŷr, ac Ionathas a ddychwelodd i Ierusalem.

Currently Selected:

1.Machabæaid 11: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in