YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 13

13
1 Ffynnon i lanhau Jerusalem 2 oddi wrth ddelw‐addoliaeth a gau‐broffwydoliaeth. 7 Marwolaeth Crist, a phrofi y drydedd ran.
1Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod #13:1 Heb. a neilltuaeth oherwydd aflendid.ac aflendid.
2A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi #Exod 23:13; Salm 16:4; Esec 30:13; Hos 2:17dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. 3A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef #Deut 13:8a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. 4A bydd y dydd hwnnw, #Micha 3:6, 7i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant #2 Bren 1:8; Mat 3:4#13:4 Heb. wisg.grys o rawn #13:4 Heb. i ddywedyd celwydd.i dwyllo: 5Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. 6A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.
7Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr #Ioan 10:30; 14:10, 11; Phil 2:6 sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: #Mat 26:31; Marc 14:27taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. 8A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. 9A dygaf drydedd ran trwy y tân, a #1 Pedr 1:6, 7phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: #Salm 50:15; 91:15hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, #Salm 144:15Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.

Currently Selected:

Sechareia 13: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Sechareia 13