Numeri 5
5
1 Symud yr aflan allan o’r gwersyll. 5 Rhaid yw gwneuthur iawn dros gamweddau. 11 Eiddigedd, pa un ai heb achos, ai trwy achos y mae.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob #Lef 13:3, 46gwahanglwyfus, a phob un y byddo #Lef 15:2diferlif arno, a phob un a halogir wrth #Lef 21:1; Pen 9:6, 10; 19:11; 31:19y marw. 3Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith. 4A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 6Llefara wrth feibion Israel, #Lef 6:2, 3Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o’r enaid hwnnw yn euog: 7Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono #Lef 6:5erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef. 8Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw #Lef 6:6; 7:7yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto. 9A phob #Exod 29:28; Lef 6:18, 26; 7:6, 32; Pen 18:8; Deut 18:3offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef. 10A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, #Lef 10:13eiddo ef fydd.
11Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 12Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef; 13A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred; 14A dyfod #5:14 ysbryd.gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi: 15Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd. 16A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd. 17A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr. 18A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr Arglwydd, a diosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith. 19A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall #5:19 Neu, a thi ym meddiant dy ŵr. Heb. dan dy ŵr.yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith. 20Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun: 21Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd #5:21 Heb. i syrthio.yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig; 22Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen. 23Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw. 24A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi, yn chwerw. 25A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ef ar yr allor. 26A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr. 27Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a’r wraig #Deut 28:57; Salm 83:9, 11; Jer 24:9; 29:18, 22; 42:18; Sech 8:13a fydd yn felltith ymysg ei phobl. 28Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta. 29Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi: 30Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon. 31A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
Currently Selected:
Numeri 5: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society