Numeri 34
34
1 Terfynau y wlad. 16 Enwau y rhai a rannant y tir.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma’r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,) 3A’ch tu #Jos 15:1deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr #Gen 14:3y môr heli tua’r dwyrain. 4A’ch terfyn a amgylchyna o’r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a’i fynediad allan fydd o’r deau i Cades‐barnea, ac a â allan i #Edrych Jos 15:3Hasar‐adar, a throsodd i Asmon: 5A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a’i fynediad ef allan a fydd tua’r #34:5 Heb. môr.gorllewin. 6A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin. 7A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor. 8O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod #2 Bren 14:25i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9A’r terfyn a â allan tua Siffron; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi. 10A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐enan i Seffam. 11Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd #34:11 Heb. ysgwydd.ystlys môr Cinereth tua’r dwyrain. 12A’r terfyn a â i waered tua’r Iorddonen; a’i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma’r tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch. 13A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth. 14#Pen 32:33; Jos 14:2, 3Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth. 15Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua’r dwyrain a chodiad haul.
16Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 17Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: #Jos 14:1; 19:51Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun. 18Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau. 19Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. 20Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud. 21O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon. 22A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan. 23O feibion Joseff, Haniel mab Effod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasse. 24Cemuel hefyd mab Sifftan, yn bennaeth dros lwyth meibion Effraim. 25Ac Elisaffan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Sabulon. 26Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar. 27Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser. 28Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Nafftali, Pedahel mab Ammihud. 29Dyma y rhai a orchmynnodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.
Currently Selected:
Numeri 34: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society