Numeri 32
32
1 Y Reubeniaid a’r Gadiaid yn gofyn eu hetifeddiaeth y tu hwnt i’r Iorddonen. 6 Moses yn eu ceryddu hwynt. 16 Hwythau yn cynnig iddo ef amodau wrth ei fodd. 33 Moses yn rhoddi iddynt y wlad. 39 Hwythau yn ei goresgyn hi.
1Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir #Pen 21:32Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid. 2A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd, 3Atoroth, a Dibon, a Jaser, a #ad. 36, BethnimrahNimra, a Hesbon, ac Eleale, a #Pen 32:38, SibmaSebam, a Nebo, a #Pen 32:38, BaalmeonBeon, 4Sef y tir #Pen 21:24, 34a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid. 5A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.
6A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma? 7A phaham y #32:7 Heb. torrwch galon meibion &cdigalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt? 8Felly y gwnaeth eich tadau, #Pen 13:3pan anfonais hwynt o Cades‐barnea #Deut 1:22i edrych y tir. 9Canys #Pen 13:24aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt. 10Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd, 11#Pen 14:28, 29; Deut 1:35Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am #Pen 14:24, 30na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i: 12Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 13Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd. 14Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel. 15Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.
16A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant. 17A #Jos 4:13ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir. 18#Jos 22:4Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth. 19Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.
20A #Deut 3:18; Jos 1:14dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, 21Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen, 22A #Deut 3:20darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd, a cherbron Israel; a bydd #Deut 3:12, 15, 16; Jos 1:15; 13:8y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd. 23Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. 24Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau. 25A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn. 26Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead. 27#Jos 4:12A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru. 28A #Jos 1:13gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt: 29A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth: 30Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan. 31A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni. 32Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni. 33A #Deut 3:12; Jos 13:8; 22:4rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, #Pen 21:24, 33frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.
34A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, 35Ac Atroth, Soffan, a #Pen 32:1, 3 JaserJaaser, a Jogbea, 36A #ad. 3 NimrahBeth‐nimra, a Beth‐haran, dinasoedd caerog; a chorlannau defaid. 37A meibion Reuben #Pen 21:27a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; 38Nebo hefyd, a Baal‐meon, (#Edrych ad. 3; Jos 23:7wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a #32:38 roesant enwau eraill.enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant. 39A meibion #Gen 50:23Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi. 40A #Deut 3:12, 13, 15rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi. 41Ac aeth #Deut 3:14; Jos 13:30; 1 Cron 2:21, 22Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt #32:41 Trefydd Jair.#Barn 10:4; 1 Bren 4:13Hafoth‐jair. 42Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.
Currently Selected:
Numeri 32: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society