Numeri 25
25
1 Israel yn Sittim yn godinebu, ac yn addoli delwau. 6 Phinees yn lladd Simri a Chosbi. 10 Duw oherwydd hynny yn rhoddi iddo ef offeiriadaeth dragwyddol. 16 Rhaid yw blino y Midianiaid.
1A thrigodd Israel #Pen 31:16; 33:49yn Sittim; a #1 Cor 10:8dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab. 2A #Jos 22:17; Salm 106:28; Hos 9:10galwasant y bobl i #Exod 34:15; 1 Cor 10:20aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt. 3Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel. 4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, #Deut 4:3; Jos 22:17Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel. 5A dywedodd Moses wrth #Exod 18:21, 25farnwyr Israel, #Exod 32:27Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐peor.
6Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod. 7A gwelodd #Salm 106:30Phinees #Exod 6:25mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law; 8Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i’r babell; ac a’u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a’r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel. 9#1 Cor 10:8A bu feirw o’r pla bedair mil ar hugain.
10A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 11#Salm 106:30Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd. 12Am hynny dywed, #Mal 2:4, 5Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch. 13A bydd iddo ef, ac #Edrych 1 Cron 6:4 &ci’w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel. 14Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda’r Fidianees, oedd Simri, mab Salu, pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon. 15Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch #Pen 31:8; Jos 13:21Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.
16A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 17#Pen 31:2Blina’r Midianiaid, a lleddwch hwynt: 18Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i’ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.
Currently Selected:
Numeri 25: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society