YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 14

14
1 Y bobl yn tuchan o ran y newyddion. 6 Josua a Chaleb yn ceisio eu llonyddu hwynt. 11 Duw yn eu bygwth. 13 Moses yn ymbil â Duw: ac yn cael iddynt hwy faddeuant. 26 Y tuchanwyr heb gael myned i’r wlad. 36 Y gwŷr a roesant anghlod i’r tir yn marw o’r pla. 40 Y bobl a fynnai osod ar y wlad yn erbyn ewyllys Duw, yn cael eu taro.
1Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. 2A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, #Edrych Pen 14:28, 29O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn! 3A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft? 4A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a #Edrych Deut 17:16dychwelwn i’r Aifft. 5#Pen 16:4Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.
6Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbïwyr y tir, a rwygasant eu dillad; 7Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. 8Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. 9Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac #Deut 20:3nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu #14:9 Heb. cysgod.hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt. 10A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A #Exod 24:16, 17; 40:34; Lef 9:23; Pen 16:19, 42; 20:6gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.
11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? 12Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a #Exod 32:10gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.
13 # Exod 32:12; Deut 32:27 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) 14Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (#Exod 15:14; Jos 2:9; 5:1canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ymysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod #Exod 13:21; 40:38dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) 15Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, 16#Deut 9:28O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. 17Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd, 18#Exod 34:6; Salm 103:8; 145:8; Jona 4:2Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; #Exod 20:5; 34:7ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 19Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd #14:19 yr awr hon.yma. 20A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air: 21Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd. 22#Deut 1:35; Salm 95:11; 106:26; Heb 3:17Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, 23#14:23 Heb. Os gwelant. Pen 32:11Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: 24Ond fy ngwas #Jos 14:8, 9, 14Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac #Pen 32:12iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef. 25(Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.
26A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 27Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn. 28Dywed wrthynt, #Pen 26:65; 32:11|NUM 32:11; Deut 1:35; Heb 3:17 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, #Edrych ad. 2fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi. 29Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn, 30Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y #14:30 tyngais.codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun. 31Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi. 32A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn. 33A’ch plant chwi a #14:33 grwydra, neu, ymbortha.fugeilia yn y diffeithwch #Edrych Deut 2:14ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch. 34#Pen 13:25Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef #Salm 95:10; Esec 4:6deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod #14:34 Neu, newidiad fy amcan.toriad fy ngair i. 35Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw. 36A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelsant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir; 37Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, #1 Cor 10:10; Heb 3:17; Jwdas 5a fuant feirw o’r pla, gerbron yr Arglwydd. 38Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir. 39A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.
40A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele #Deut 1:41ni, a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom. 41A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu #ad. 25gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda. 42Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion. 43Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi. 44Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll. 45Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac #Deut 1:44a’u difethasant hyd #Edrych Pen 21:3; Barn 1:17Horma.

Currently Selected:

Numeri 14: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in