YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 8

8
A.D. 31. —
2 Crist yn glanhau y gwahanglwyfus; 5 yn iacháu gwas y canwriad, 14 a mam gwraig Pedr, 16 a llawer o rai clwyfus eraill: 19 yn dangos pa fodd y mae ei ddilyn ef: 23 yn gostegu y storm ar y môr: 28 yn gyrru cythreuliaid allan o ddau gythreulig; 31 ac yn caniatáu iddynt fyned i’r moch.
1Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. 2#Marc 1:40; Luc 5:12Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. 3A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4A dywedodd yr Iesu wrtho, #Pen 9:30; Marc 5:43Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd #Lef 14:3, 4, 10Moses, er tystiolaeth iddynt.
5 # Luc 7:1 Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, 6A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr. 7A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a’i hiachâf ef. 8A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, #Luc 15:19, 21nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig #Salm 107:20dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 9Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 10A’r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 11Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw #Mal 1:11; Luc 13:29llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: 12Ond #Pen 21:43plant y deyrnas #Pen 13:42, 50; 22:13; 24:51; 25:30; Luc 13:28a deflir i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 13A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno.
14 # Marc 1:29; Luc 4:38 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd #8:14 fam ei wraig ef.#1 Cor 9:5ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 15Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; a’r cryd a’i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16 # Marc 1:32; Luc 4:40 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion; 17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, #Esa 53:4; 1 Pedr 2:24Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
18A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19A #Luc 9:57rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, #1 Bren 19:20gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.
23 # Marc 4:37 &c; Luc 8:22 Ac wedi iddo fyned #8:23 i long.i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 26Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna #Salm 107:29y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!
28 # Marc 5:1; Luc 8:26 Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 29Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 30Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. 31A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 32Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 33A’r #8:33 ceidwaid.meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 34Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, #Edrych Deut 5:25; 1 Bren 17:18; Luc 5:8; Act 16:39atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.

Currently Selected:

Mathew 8: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in